Am lanast llwyr!

gan Glyn Roberts, llywydd FUW

WRth i’r ffilm lwyddiannus “Stan and Ollie” lenwi sinemâu o gwmpas y wlad yn ystod yr wythnosau diwethaf, atgoffwyd llawer ohonom o ddywediad enwog Oliver hardy: “here’s another fine mess you’ve gotten me into.”

Yng nghyd-destun Brexit – beth bynnag yw eich barn am adael neu aros yn yr UE, gellir ond disgrifio’r sefyllfa fel andros o lanast – nid ‘fi’ ond ‘ni’, y wlad gyfan.

Rhwystredigaeth fwyaf yr FUW yw’r ffordd cafodd ein rhybuddion ynglŷn â sut i beidio rheoli’r broses Brexit eu hanwybyddu, ac sydd bellach wedi cael eu gwireddu.

Ac wrth gwrs nid yw’r sgil-effeithiau o ran effeithiau neu fygythiadau uniongyrchol Brexit yn unig: mae ymddiswyddiadau Gweinidogol wedi bod mor niferus nes nad ydynt werth derbyn sylw bellach (33 yn y 16 mis diwethaf), mae’r ddwy brif blaid wleidyddol benben a’i gilydd, ac mae ASau Llafur a thorïaidd wedi ymddiswyddo o’u pleidiau ac wedi ymuno â grŵp annibynnol yn San Steffan.

Yn sicr, dyma amserau diddorol, ond pan fyddwch chi’n ystyried bod digwyddiadau o’r fath yn digwydd ar drothwy Brexit, a allai roi ein heconomi mewn dirwasgiad dwfn a channoedd o filoedd yn colli bywoliaeth, mae’n debyg nad yw “llanast llwyr” yn gwneud cyfiawnder a’r sefyllfa.

Mae’r anhrefn yn San Steffan yn cadarnhau bod ni’n iawn i ddweud wrth theresa May, mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf y llynedd, y byddai angen ymestyn cyfnod Erthygl 50. Yn dilyn digwyddiadau’r misoedd diwethaf ac eglurhad cyfreithiol Llys Cyfiawnder Ewrop, ein sefyllfa bellach yw y dylid tynnu Erthygl 50 yn ôl – nid er mwyn tanseilio canlyniad y refferendwm, ond er mwyn cymryd rheolaeth lawn dros broses Brexit a symud ni i ffwrdd o’r dibyn, sydd eisoes wedi arwain at y cyhoeddiad bod miloedd o swyddi’n cael eu colli.

Ac o safbwynt ein diwydiant ni, mae’r ansicrwydd eisoes yn cael ei deimlo; gyda dim ond wythnosau i fynd cyn Brexit, nid oes gan ein deunaw lladd-dy Cymreig a chynhyrchwyr eraill ddim syniad o sut i stampio eu cynnyrch er mwyn iddo fod yn gyfreithiol yn y DU neu rywle arall ar ôl Mawrth 29.

Erbyn i Y Tir gyrraedd gydag aelodau, efallai y bydd gennym ryw fath o syniad o ba gyfraddau tariff fydd ar fewnforion o wledydd eraill ar ôl mis Mawrth. Fodd bynnag, mae angen i’r rhain gael eu cymeradwyo gan y senedd. Gyda hyn mewn golwg, mae’n werth nodi bod FUW eisoes wedi dadlau’n gryf dros osod y tollau uchaf a’r Cwotâu Di-Doll lleiafswm ar ein cynhyrchion amaethyddol bregus yn ystod cyfarfodydd â Llywodraeth y DU.

Unwaith eto, mae’r fath ansicrwydd, sydd bellach wedi arwain at gwmnïau’r DU yn colli cytundebau, yn tanosod y term ‘llanast’. Diolch byth, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru bellach yn cymryd cynlluniau wrth gefn ar gyfer Brexit heb gytundeb o ddifrif – ysgrifennom ni ynglŷn â hyn mwy na thair blynedd yn ôl – ac ymddengys bod Defra hefyd yn gwneud cynlluniau, yn enwedig ar gyfer y diwydiant defaid sy’n wynebu cwymp o 30 i 50 y cant ym mhrisiau o ganlyniad i dariffau mewnforio’r UE ac anghydfod masnach.

Gall cynlluniau i helpu’r diwydiant defaid, sydd fwyaf bregus yn sgil Brexit heb gytundeb, ddod ar ffurf cymorth brys trwy bremiymau lladd, taliadau fesul pen neu nifer o ymyriadau eraill, ac rydym wedi dadlau bod yr addewidion a wnaed i’r diwydiant amaethyddol gan y ‘Brexiteers’, ynghyd â’r ffordd y mae rheolaeth wael Llywodraeth y DU o’r broses Brexit wedi arwain at y sefyllfa bresennol, yn gwneud cefnogaeth ac iawndal yn anghenraid moesol ac economaidd.

Rydym hefyd wedi pwysleisio mewn cyfarfod fis diwethaf gyda George Eustice â Grŵp Da Byw Brexit y DU, fod gan Gymru 30 y cant o ddiadell defaid y DU, ac mae’n rhaid i Gymru gael arian sy’n adlewyrchu hyn.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r graddau y byddai dirywiad economaidd y DU oherwydd Brexit yn lleihau refeniw treth ar gyfer y llywodraeth, gan fygwth amgylchiadau economaidd caled a thoriadau dyfnach na rhai’r blynyddoedd diwethaf.

Mae canlyniadau dybryd o’r fath yn golygu ein bod ni wedi parhau i weithio’n galed, gan gyfarfod â gweinidogion, ASau, ACau a swyddogion yr UE i lobïo am synnwyr cyffredin, a chynyddu’r angen am gynllunio wrth gefn.

I fod yn deg i Lywodraeth Cymru, nid oes ganddynt lawer neu ddim rheolaeth dros drafodaethau Brexit. Fodd bynnag, maent yn rheoli polisïau domestig Cymru sy’n effeithio ar ffermydd bob dydd, ac fel y cytunwyd gan FUW a NFU Cymru llynedd, mae gan Llywodraeth Cymru un flaenoriaeth, a hynny yw sicrhau sefydlogrwydd.

Nid yw sefydlogrwydd yn golygu cynyddu’r baich a chostau i ddiwydiant sydd eisoes yn wynebu bygythiadau mawr oherwydd Brexit – felly rydym wedi annog y Gweinidog Lesley Griffiths i ailystyried y cynllun i gyflwyno NVZ Cymru gyfan – cam a fyddai’n cynyddu’r nifer o ddaliadau sy’n destun i reolau costus a chyfyngol o tua 600 i fwy na 24,000 (gweler tudalen 10 a 11 am ragor o fanylion) er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddangos yn gam hollol anghymesur i fynd i’r afael â phroblemau ar leiafrif bach o ffermydd.

Yn sicr, nid yw sefydlogrwydd yn golygu cyflwyno diwygiadau radical i bolisïau gwledig a chyllid heb ddealltwriaeth lawn o’u heffeithiau posibl ar y cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru sydd a’i bywoliaeth yn dibynnu ar amaethyddiaeth a’n diwydiannau bwyd.

Dyma gyfnod rhwystredig, ond gadewch i mi eich sicrhau bod yr FUW yn parhau i ymladd dros ffermydd teuluol Cymru ar bob lefel, trwy waith caled ein swyddfeydd sirol hyd at y lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Rydym yn cymryd y gwaith hwn o ddifrif, ac mi fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i herio camau a fydd yn ychwanegu at ofid ein diwydiant yn ystod yr amseroedd pryderus hyn. Fel y gwyddom ni, mae #AmaethAmByth.

This article is in English on page 2: “What a fine mess.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.