Amser yn hedfan

CORNEL CLECS

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

hires_page_03_image_0001FAINT o’r gloch yw hi gyda chi nawr wrth ddarllen hwn? Ydych chi wedi cofio newid yr awr yn ôl?! Neu ydych chi’n parhau i ddilyn yr hen awr? Mae tymor yr Hydref wedi cyrraedd, a’i naws oeraidd i’w deimlo bellach. Tymor bach sy’n ein paratoi at noethni’r gaeaf yw’r Hydref ac yn cyfateb i fisoedd Awst, Medi a Hydref yn ôl yr hen galendr Gwyddelig. Ond heddiw mae meteorolegwyr yn gweld y tymor yn ymestyn o Fedi 1 i Dachwedd 30 yn hemisffer y gogledd. Mae’r holl dymhorau’n cynnwys newidiadau, a’r rhai mwyaf gweledol yn ystod yr Hydref yw’r coed yn colli’i dail ac yn gadael carped lliwgar sy’n crensian o dan ein traed. Mae’r tywydd a’r ecoleg yn newid yn ddyddiol. Mae diwedd mis Hydref yn prysur agosáu wrth i mi ysgrifennu hwn, a teg yw dweud, hyd yn hyn, mae wedi bod yn Hydref caredig iawn i amaethwyr ar y cyfan ac yn siŵr o fyrhau’r gaeaf i ni. Mae pob peth bach yn help! Y newid mwyaf sy’n effeithio arno ni gyd mae’n siwr ar ddiwedd y tymor hyn yw’r newid yn oriau golau dydd. Camu’n ôl wnaeth yr awr wrth gwrs ar ddiwedd mis Hydref ac yn golygu boreau goleuach a nosweithiau tywyllach. Ond pam bod y clociau’n troi ymlaen ac yn ôl? Yw gwneud hyn, sy’n fater o drefn dwywaith y flwyddyn erbyn hyn yn syniad da? Mae yna rai eisiau cadw oriau’r haf drwy gydol y flwyddyn. Daeth y syniad o amser yr haf neu British Summer Time (BST) diolch i ddyn o’r enw William Willett ym 1907. Roedd yn gas ganddo feddwl am bobl yn gwastraffu oriau gwerthfawr o olau dydd yn ystod boreau’r haf ac i’r pegwn arall gyda’r nos wrth gwrs. Meddyliwch am hyn. Ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn ym mis Mehefin, rydym yn ffodus iawn o gael 16 awr a 50 munud ar gyfartaledd o olau dydd i’w gymharu gyda saith awr a 40 munud yng nghanol mis Rhagfyr! Pa un sy’n apelio fwyaf? Tra bod ni gyd yn falch iawn o weld unrhyw lygedyn o haul ac yn gwneud y mwyaf ohono yn enwedig amser cynhaeaf yn yr haf, yr anfantais o gadw amser yr haf drwy gydol y gaeaf yw y byddai’r haul ddim yn codi tan toc wedi 9yb o’i gymharu â thoc wedi 8yb. Byddai’n ffermwyr llaeth ni’n gorfod godro ynghanol tywyllwch am gyfnod hirach bob bore. Petai’r clociau ddim yn cael eu troi’n ôl, pa effaith byddai hyn yn cael ar bobl? Gyda chyfnod mwy o dywyllwch yn y bore, byddai cloc ein cyrff, sy’n ymateb i olau, yn mynd dros ben llestri ‐ does neb yn hoffi dihuno pan fydd hi’n dywyll! Mae’n ffaith bod pobl yn hapusach i ddeffro wrth iddi oleuo. Ond i’r ochr arall o’r ddadl, un fantais i ni yma yng Nghymru o gadw amser yr haf yw y gallai’r nifer o dwristiaid sy’n ymweld â Chymru yn ystod Mehefin a Gorffennaf gynyddu gan y byddai’n olau nes tua 11yh yng Ngorllewin Cymru er enghraifft. Sut bynnag welwch chi’r ddadl ynglŷn ag amser, mae un peth yn sicr ac yn gyffredin i bawb, mae’r dywediad “Amser yn hedfan” yn wir! Os ydych yn cael trafferth cofio, pa ffordd mae’r cloc yn mynd yn y Gwanwyn a’r Hydref, cofiwch hyn, mae’r awr yn cwympo nôl erbyn y Gaeaf ac yn llamu yn ei blaen erbyn y Gwanwyn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.