Amser yn prysur ddiflannu

an Glyn Roberts, llywydd UAC

Mae amser wedi hedfan eto eleni ac wrth i ni wynebu misoedd diwethaf y flwyddyn, mae yna ddigon o bethau sydd angen cael eu hegluro, yn enwedig o ran Brexit.

Gyda dim ond 16 mis i fynd, bydd pob busnes fferm yn cwestiynu beth sy’n mynd i ddigwydd yn y blynyddoedd sydd i ddod a beth sy’n bosib i’w wneud er mwyn diogelu’r busnes yn y dyfodol.

Mae’r diwydiant yn ei chyfanrwydd yn wynebu dyfodol cymhleth ar ôl Brexit gyda materion i’w datrys ynglŷn â llafur, rheoleiddio, cymorth ffermydd a marchnadoedd allforio.

Wrth gwrs, mae’r angen am fynediad parhaol i’r farchnad sengl a’n haelodaeth o’r undebau tollau yn parhau i fod yn bynciau y mae UaC wedi sôn amdanynt, nid yn unig ers rhyddhau’r adroddiad aHDB diweddaraf, neu adroddiad FaPRI ym mis awst, ond ers cyn refferendwm yr Ue ym mis Mehefin 2016.

Yn hynny o beth, gellir ond disgrifio sylwadau a wnaethpwyd gan y Gweinidog dros Drafnidiaeth, Chris Grayling, a ddadleuodd mewn cyfweliad teledu y gallai’r DU dyfu mwy o fwyd i gadw prisiau lawr os daw Prydain allan o’r Ue, fel nonsens llwyr.

Mae’n ymddangos nad oedd yn ymwybodol o ganlyniadau’r modelu economaidd a gomisiynwyd gan ei gydweithwyr yn DeFRa, sy’n cyfleu darlun llawer mwy cymhleth ar gyfer nifer o sectorau amaethyddol y DU, ac yn awgrymu, y gallai cynhyrchu bwyd y DU chwalu mewn rhai sefyllfaoedd o Frexit ‘caled’.

Mae’r gwaith modelu hwnnw a gyhoeddwyd yn fwy diweddar gan yr aHDB (Bwrdd Datblygu amaethyddol a Garddwriaethol) yn proffwydo chwalfa drychinebus ymhlith sawl un neu’r rhan fwyaf o sectorau amaethyddol pe bai yna Frexit ‘caled’ a dim un cytundeb yn digwydd.

Yn amlwg, dylid cymryd llawer mwy o sylw ar gynnwys yr adroddiadau hyn na sylw digymell gan Weinidog sydd heb dystiolaeth Llywodraeth i ategu hyn.

ac wrth i amser barhau i garlamu’n gyflym, rydym yn atgoffa Llywodraeth y DU bod yr angen am amserlen gadael synhwyrol yn parhau i fod yn broblem.

Galwodd yr undeb am “… i’r DU a’r Ue i gytuno ar amserlen synhwyrol ar gyfer Brexit … neu beryglu canlyniadau dybryd i’r DU a’r 27 aelod-wladwriaethau sy’n weddill”, ac mae wedi croesawu’r gefnogaeth gynyddol am hyn gan sefydliadau a chyrff eraill.

Yn gynnar ym mis Gorffennaf, galwodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) am gyfnod pontio Brexit, gan ddweud ei bod yn amhosib i holl fanylion cytundeb masnach newydd yr Ue fod ar waith erbyn Mawrth 2019, a bod angen ‘pont’ yn hytrach na simsanu’r sefyllfa ar gyfer y fargen newydd – ac yn adleisio’r hyn a ddywedodd UaC ddiwrnod ar ôl refferendwm Brexit.

Mae pedwar ar ddeg o sefydliadau ffermio o bob rhan o’r DU bellach yn cefnogi bod yna gyfnod pontio cychwynnol yn ei le ar gyfer yr holl drafodaethau gyda’r Ue .

Mae Gweinidogion a gwleidyddion hefyd yn siarad am yr angen i gytuno ar drefniadau trosiannol gyda’r Ue, ac mae’r ffaith bod prif alwad ein Maniffesto ym mis Mai 2017 yn cael ei gydnabod gan nifer yn newyddion i’w groesawu.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gefnogaeth gynyddol am y sefyllfa yna, ni ddylem anghofio nad yw cytundeb o’r fath wedi’i gyflawni, ac felly mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth i’r DU a’r Ue. Mae’r cloc yn ticio!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.