Blwyddyn brysur Meirionnydd

ROEDD yr ystafell yn orlawn yng Nghlwb Rygbi Dolgellau ar Ionawr 30 ar gyfer cyfarfod blynyddol cangen Meirionnydd, Undeb Amaethwyr Cymru, ysgrifenna Huw T Jones.

CYFARFOD LLWYDDIANNUS: O’r chwith, Robert Wyn Evans, Andrew Slade, Llŷr Huws Gruffydd ac Arwyn Owen.

CYFARFOD LLWYDDIANNUS: O’r chwith, Robert Wyn Evans, Andrew Slade, Llŷr Huws Gruffydd ac Arwyn Owen.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Robert Wyn Evans, Fferm Sylfaen, Y Bermo sef Llywydd cangen sir Feirionnydd o UAC. Ym marn llawer roedd hwn yn un o’r cyfarfodydd gorau a gafwyd, gydag anerchiad hynod ddiddorol gan y tri siaradwr, sef Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr Llywodraeth Cymru; Llŷr Huws Gruffydd AC, Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy ac Arwyn Owen, Rheolwr fferm Hafod y Llan.

Ar ddechrau’r cyfarfod, rhoddais adroddiad am weithgareddau’r gangen sirol dros y flwyddyn a aeth heibio, gan geisio sôn am y prif faterion a’r pynciau fu o dan drafodaeth. Cyfeiriais at ein hymweliad â Brwsel ar ddechrau mis Mawrth, y gwaith mawr o gwblhau’r ffurflenni Taliad Sengl am y tro cyntaf ar-lein, ac wrth gwrs y prysurdeb mawr fu ynghlwm wrth Eisteddfod yr Urdd.

Manteisies ar y cyfle i atgoffa pawb mai merched yr undeb cylch Penllyn ac Edeyrnion roddodd yr holl nawdd ar gyfer ein rhodd o Goron yr Eisteddfod, gan fynegi ein diolch unwaith eto. Bu’r merched yn hynod brysur hefyd yn darparu lluniaeth yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Cyfrifoldeb cylch y Bala hefyd oedd y paratoadau ar gyfer sioe’r sir a gynhaliwyd yn y Bala yn 2014, sioe a fu’n llwyddiant mawr iawn i ni.

Ymysg y nifer fawr o faterion eraill cofiwyd am ein hymweliad â fferm Pentre, Cwmtirmynach ym mis Medi, drwy garedigrwydd Arfon a Rhian Williams, a hefyd ein cysylltiad clos gyda mudiad y Ffermwyr Ieuainc. Yn 2014, noddwyd y cystadlaethau ysgafn, y Rali, a Chadair Eisteddfod ym mis Tachwedd ganddom.

Fel ymhob blwyddyn, eglurais fy mod yn ceisio rhannu fy amser rhwng y gwaith o wasanaethu’r aelodau, y gwaith trefnu a gweinyddu, y gwaith cyhoeddusrwydd, y gwaith polisi, a’r gwaith o edrych ar ôl y llyfr aelodaeth ac wrth gwrs datblygu’r aelodaeth. Mae cysylltu yn gyson gyda’r aelodau yn bwysig i mi ac rwy’n ceisio cynnal cyfarfodydd yn y 10 ardal sydd gennym o fewn y sir, yn ogystal â chyfarfodydd y pwyllgor sirol.

Roedd y cyfarfod yn bwysig hefyd i ddiolch yn ddiffuant i fy nghyd aelodau o staff, swyddogion y sir, staff y brif swyddfa, aelodau’r tîm llywyddol ac yn wir i bawb sydd yn gefn yn y gwaith o hyrwyddo amcanion yr Undeb, ac wrth gwrs diolch yn fawr i’r aelodau am y gefnogaeth.

Trafodwyd ystod eang o bynciau, ond y mater pwysicaf yn ddios oedd dyfodol y Cynllun Taliad Sylfaenol ar ôl llwyddiant yr achos llys yn erbyn dynodiad ‘Rhostir’ a’r taliad ar dir dros 400m. Tra bod Andrew Slade yn derbyn iddynt fel Llywodraeth golli’r achos, a’i fod yn deall y rhesymau, dywedodd hefyd fod yr hyn oedd gerbron wedi cael ei basio gan eu cyfreithwyr a hefyd y Comisiwn Ewropeaidd.

Symud ymlaen yn awr oedd yn bwysig, ac yn dilyn nifer o sylwadau a chwestiynau, dywedodd yn bendant nad oedd modd defnyddio’r system hanesyddol yn 2015 fel yr oedd rhai wedi awgrymu. Dywedodd hefyd fod ystyriaeth yn cael ei roi i gael tymor trosi pellach na 2019 – roedd hyn bellach yn bosibl. Dywedodd hefyd y bydd yna opsiynau o raddio taliadau (tiered system) yn rhan o’r modelu a fydd yn destun ymgynghorol yn y dyfodol agos.

Dywedodd yn glir y bydd unrhyw gynigion yn gorfod cael y sicrwydd na fyddai sail i sialens gyfreithiol eto, ac roedd rhai aelodau yn gweld hyn fel arwydd clir fod posibilrwydd mai un raddfa taliad fyddai drwy Gymru.

Talwyd y diolchiadau ar derfyn y cyfarfod gan ein cadeirydd sirol, OG Thomas, Dyffryn Ardudwy.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.