Blynyddoedd o bontio’r Gogledd a’r De

Ysgrifennydd sirol cynorthwyol UAC sir Gaerfyrddin (1961-66) a ysgrifennydd sir Ddinbych (1966-1990) Meurig Voyle yn rhannu ei atgofion o weithio i’r undeb…

GALERI’R HOELION WYTH: Aelodau o staff hirfaith UAC a dynnwyd ym 1985 (o’r chwith) ysgrifennydd ardal Ynys Môn R Glyn Jones (31 mlynedd), ysgrifennydd ardal Morgannwg Walter G Rowlands (31 mlynedd),ysgrifennydd sirol Sir Ddinbych Meurig Voyle (30 mlynedd), ysgrifennydd ardal Sir Benfro Dewi Hughes (35 mlynedd) ac ysgrifennydd ardal sir Aberteifi E D Jones (25 mlynedd).

GALERI’R HOELION WYTH: Aelodau o staff hirfaith UAC a dynnwyd ym 1985 (o’r chwith) ysgrifennydd ardal Ynys Môn R Glyn Jones (31 mlynedd), ysgrifennydd ardal Morgannwg Walter G Rowlands (31 mlynedd),ysgrifennydd sirol Sir Ddinbych Meurig Voyle (30 mlynedd), ysgrifennydd ardal Sir Benfro Dewi Hughes (35 mlynedd) ac ysgrifennydd ardal sir Aberteifi E D Jones (25 mlynedd).

ELENI byddaf wedi byw yn Nimbych 49 mlynedd a diolchaf i Undeb Amaethwyr Cymru am y fraint o gael gwasanaethu ffermwyr yn siroedd Dinbych a Fflint ac am yr amser hapus rwyf wedi treulio gyda ffrindiau di-ri tu allan i amaeth. Trysoraf yr atgofion sydd gennyf. Y tri person cyntaf a ddaeth i’m gweld yn y swyddfa oedd y diweddar Mr William Howatson, Singrug; Mr John Edwards, Penycefn a’r Parch W I Cynwil Williams, bugail Capel Mawr. Yr adeg honno roedd gwahaniaeth rhwng tafodiaith y de a’r gogledd. Yr ail nos yn Ninbych roeddwn yn siarad yn Llannefydd a rhaid dweud mai anodd iawn oedd deall y drafodaeth. Ar ddiwedd y cyfarfod dyma ddau frawd yn sibrwd yn dawel wrth ei gilydd: “Mae siŵr o wneud Ysgrifennydd Sirol da wedi i ni ddod i ddeall ef yn siarad.” Ffermwr yn dod i mewn i’r swyddfa i ofyn am helpi lenwi ffurflen ynglŷn â chôr. I mi nid oedd cymorth i gael am gôr ond daliai’r ffermwyr i ddweud fod cymorth i’w gael. O’r diwedd deallwyd nad yn yr ystyr oedd i’r gair côr, beudy oedd yn meddwl y ffermwr ond y llwybr oedd o flaen y gwartheg oedd y côr i mi.Aelod arall yn dweud wrthyf, difaru i ni gael cyw heddiw. Minnau yn methu deall paham nad oedd yn siarad am ddwsin neu hanner cant. Deall yn y diwedd mae ebol oedd yn meddwl yr aelod. Dysgais wers werthfawr yn ystod y dyddiau cynnar wrth i mi geisio gwneud trefniadau i ymweld â fferm er mwyn cwblhau ffurflenni. Nid oedd y ffermwr yn un hawdd i’w drafod ac nid oedd gair rhy dda iddo. Adeg hynny roeddwn yn brysur iawn ac yn naturiol er mwyn ei helpu dyma fi yn awgrymu, y deuwn draw ar brynhawn ddydd Sul I gwblhau’r ffurflenni. Yn naturiol, roeddwn yn disgwyl atebiad cadarnhaol, ond yn annisgwyl dyma fe yn dweud nad oedd croeso i mi alw ar y fferm ar brynhawn dydd Sul I gwblhau ffurflenni! Ni anghofiaf byth y stori. Derbyniais groeso tywysogaidd ar lu o ffermydd a chofiaf mewn fferm lle’r oedd 10 o blant, y wraig yn estyn gwahoddiad i mi ddod i mewn am fwyd a minnau yn ateb: “Na dim diolch, mae gennych ddigon o waith gyda’r plant a chwi a’ch gŵr.” Ar unwaith dyma’r wraig yn pwyntio bys ataf gan ddweud, bydd un arall ddim yn gwneud gronyn o wahaniaeth. Mae’r plant wedi tyfu nawr, ac yn addurn yn y gwahanol bröydd maent yn byw. Profiad arall, benyw dod i mewn i’m gweld am ewyllys roedd ei thad wedi gwneud flynyddoedd yn ôl. Roedd hi i gael y tŷ a’i chwaer i dderbyn £15,000 – y ddau yn gyfartal yr adeg hynny. Roedd y fenyw mewn penbleth gan ei bod am werthu’r tŷ am bris £50,000. Roedd ganddi’r hawl i dderbyn y pris, ond roedd yn awyddus i fod yn deg a’i chwaer, a rhannodd y pris rhwng £15,000 a £50,000 a’i chwaer. Ni welais yr un egwyddor debyg, erioed, ac mae wedi gadael argraff fawr arnaf. Dychwelais adref o bwyllgor yn Llanrhaeadr ym Mochnant a ffermwr yn ffonio bore trannoeth i ofyn a oeddwn wedi gweld rhywbeth arbennig wrth deithio adref y noson cynt. Ni welais i ddim, ond roedd ffermwr yn yr ardal wedi aredig bron tri chwarter o’r cae yn ystod y nos! Wedi i mi ymuno yn y Capel Mawr, daeth amryw ataf yn falch i’m hysbysu fod tri o fechgyn Capel Mawr wedi mynd i’r weinidogaeth – y ddau frawd, y diweddar Parchedigion Lloyd Davies a’r Parch George Emlyn Jones wedi ymddeol a dod nôl i Ddinbych i ymddeol. Aelod a wnaeth argraff fawr arnaf fel Cristion oedd Miss Lilian Roberts, mynd i’w gweld wedi iddi gwympo a’i hwyneb a’i breichiau yn dangos effaith y ddamwain. Gofynnais sut oedd hi yn teimlo, hi fel arfer yn ateb: “Rhyfedd nad ydych yn gofyn, sut mae’r person arall!” Stori arall dderbyniais oedd i’r diweddar Parch J H Griffith geryddu yr eglwys am iddynt fynd am y tro cyntaf dan 400 yn oedfa’r hwyr. Rhyfedd fel mae’r nifer sy’n ‘mynychu oedfaon heddiw wedi mynd i lawr. Diolchaf am lu o atgofion eraill yn y gogledd a hefyd atgofion tra bûm yn gweithio gyda’r undeb yn sir Gaerfyrddin.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.