
MWYNHAU BRECWAST: Staff y Llew Coch yn cynnwys Ceris, Berwyn a Beryl Hughes; Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio Meirionnydd Eryl P Roberts ac is-gadeirydd UAC Meirionnydd, Geraint Davies yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy.

GWRAGEDD ARDAL Y PARC: Alwen Davies, Haf Puw, Connie Davies a Gwenno Puw fu’n brysur yn gweini’r brecwastau ar fferm Castell Hen.
BU’R wythnos brecwastau fferm a gynhaliwyd ym Meirionnydd yn niwedd Ionawr yn llwyddiant mawr. Dymuna’r Gangen Sirol ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb fu’n cynnal y brecwastau, am yr holl nawddogaeth ac i bawb fu’n mynychu a chefnogi. Cynhaliwyd 4 brecwast sef Y Waen, Llanegryn; Castell Hen, Parc; Byrdir, Dyffryn Ardudwy, ar Llew Coch, Dinas Mawddwy a chodwyd dros £1,500 i elusen y Llywydd sef ‘Ymchwil y Galon’.