Bro fy mebyd yw fy myd

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Sbardun Cornel Clecs mis yma yw’r geiriau a adroddwyd ar ddechrau pob rhaglen o’r gyfres Cefn Gwlad tua diwedd y flwyddyn llynedd – geiriau adnabyddus o eiddo’r Prifardd dic Jones o’i gerdd ‘Cefn Gwlad’ sef:

Os yw’r dre yn ddyhead – a ddenodd Ddynion o’r dechreuad
Mae ynom bawb ddymuniad
I fyw’n glós wrth
Gefn Gwlad

Mae’r geiriau yma wedi fy mhrocio i feddwl am fy milltir sgwâr i, a gan fy mod yn treulio oriau bod wythnos wrth ddesg Cornel Clecs, mae’n braf medru treulio pob munud posib allan yn yr awyr agored pan fyddaf adref. does dim byd gwell na mynd o gwmpas y caeau ac aros am eiliad i edrych ar harddwch y fro a gwerthfawrogi beth sydd o dan drwyn rhywun. O weld yr un olygfa 365 diwrnod y flwyddyn, mae’n edrych yn wahanol bob dydd, diolch i amodau’r tywydd sy’n newid yn ddyddiol.

O’r mynydd i’r môr, dyna’n llythrennol yw golygfa bro fy mebyd, o lannau traeth Llanrhystud a’r arfordir gorllewinol, i lethrau’r mynydd, dyna i chi olygfa nad wyf byth yn blino ei weld.

rwyf wedi cyfeirio at y Mynydd bach eisoes yn y golofn hon wrth ddathlu dau gan mlwyddiant Ohio llynedd, ond mae’n ddyletswydd arna’i i ddweud ychydig mwy o hanes y mynydd.

Mae gan ardal y Mynydd bach le pwysig yn hanes diwylliant a chrefydd Ceredigion. byddai pererinion anghydffurfiol o’r Gogledd, yn bennaf o ardaloedd arfon a Llŷn yn croesi’r mynydd yn ail hanner y 18g i wrando ar daniel rowlands yn pregethu ym mhentref Llangeitho.

ar ôl teithio trwy’r nos dros y mynydd, byddent yn ymgynnull i gael lluniaeth, diod a gorffwys wrth ymyl ffynnon ar lethrau’r mynydd tua dwy filltir o Langeitho.

Elfen hanesyddol bwysig arall sy’n perthyn i’r mynydd yw cysylltiad enwog pedwar o

feirdd lleol, sef T Hughes Jones,
b T Hopkins; J M Edwards ac
Edward Prosser rhys. Mor
bwysig oedd cyfraniad y pedwar
yma i ddiwylliant yr ardal nes y
codwyd cofeb iddynt ar un o
gopaon y Mynydd bach ger Llyn
Eiddwen, a chafodd ei
dadorchuddio yn ystod
Eisteddfod Genedlaethol aberystwyth ym 1992.

roedd Prosser rhys a J M Edwards yn brif feirdd, y ddau ohonynt wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd y ddau arall, b T Hopkins a T Hughes Jones – yn feirdd a llenorion o fri hefyd.

Mae’r gofeb yn un hardd iawn ac yn sefyll yn osgeiddig ar dirlun y mynydd. Mae yna ryw naws hyfryd yn perthyn i’r mynydd ac mae’n rhwydd iawn ymgolli wrth feddwl am gymaint o hanes a straeon sy’n perthyn i’r ardal.

roedd Prosser rhys yn byw ym Morfa du yng nghanol cors ddiffaith y Mynydd bach, a dyma fyddai man cwrdd y beirdd, gan ei bod yn ganolbwynt i bawb, J M Edwards yn dod o Lanrhystud sef pen isaf y fro, a b T Hopkins o Flaenpennal, y pen uchaf, ac yn cynnal amryw o seiadau llenyddol ym Morfa du.

Felly oherwydd prydferthwch, hanes, diwylliant a’r teimlad o berthyn i gymuned, rwy’n teimlo fy mod i’n byw’n glos wrth gefn gwlad a’n nghynefin yw fy nefoedd, a bro fy mebyd yw fy myd.

rwyf am orffen Cornel Clecs mis yma gyda dwy linell sy’n ymddangos ar y gofeb…

“I gofio’r gŵyr fu’n nyddu llên Uwch llonyddwch Llyn Eiddwen.”

This article is available in English on the FUW website: “My World.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.