Bwyd ar ôl Brecsit

gan Richard Hughes, aelod UAC Sir Gaernarfon

Mae Brecsit yn digwydd ac un o’r newidiadau mwyaf yn dilyn hyn fydd newid yn y polisi amaethyddol a defnydd tir. Wrth edrych drwy fy ysbienddrych a gweld y “pethau pell yn agos a’r agos ymhell” tybiaf bydd y lobi amgylcheddol yn dylanwadu yn enfawr ar unrhyw bolisi newydd, wedi’r cyfan

mae’r gweinidog Michael Gove yn addo “Brecsit Gwyrdd.” Mae amgylcheddwyr wedi bod yn galw am arall gyfeirio canran uchel o gymorthdaliadau amaethyddol tuag at brosiectau amgylcheddol ac ail gyflwyno bywyd gwyllt I gefn gwlad. Ond cyn i ni gyd lyncu’r polisïau newydd yma dylem aros ennyd i ystyried oblygiadau hynny ar gynaladwyedd Cymru.

Tir yw cyfoeth gwlad sydd yn adrodd ein hanes, iaith a’n hunaniaeth fel cenedl. Mae’r defnydd ohono yn dibynnu ar ddewis polisi llywodraeth. Fe all llywodraeth weld tir yn ddim mwy nag ardal i gasglu a hidlo dŵr, cloi carbon, yn atyniad twristaidd a chefndir hardd rydym efallai yn digwydd tyfu bwyd arno. Mae peryg na fydd fawr ddim ystyriaeth yn y polisi newydd i’r adnodd crai i gynnal bywyd ei hun sef cynhyrchu bwyd.

Mae poblogaeth y Byd bellach yn 7.6 biliwn ac yn cynyddu fwy na phoblogaeth y
DU bob naw mis. O ystyried y twf yma mae yna achos cryf dros gyfri sawl person mae pob acer ar ein planed yn ei fwydo. Yn lle hynny mae cynigion polisi diweddar yn diystyru hyn. Yn hyn o beth mae polisïau sydd yn cael eu cynnig yn methu, ac yn fy marn i yn anfoesol.

Mae cynhyrchu bwyd yn anorfod yn creu ôl troed carbon, ond mae cynhyrchu hwnnw dramor yn cynyddu’r ôl troed carbon hynny llawer mwy. Bellach mae’r DU yn mewnforio dros hanner y bwyd sydd angen gan ei phoblogaeth.

Mae tua 70 y cant o’r llysiau a grawn ydym yn ei fwyta bellach yn cael eu tyfu mewn gwledydd eraill. Nid yn unig mae hynna yn bygwth diogelwch cyflenwad bwyd y mae hefyd yn allforio’r effeithiau amgylcheddol tyfu bwyd sef yr allrediadau carbon i wledydd eraill.

Tra bod rhai yn credu fod creu mwy o fawndir drwy gau ffosydd neu wrth neilltuo tir ar gyfer “natur” yn lles i’r amgylchedd, rydym mewn gwirionedd yn achosi llawer mwy o niwed amgylcheddol wrth fewn forio ein bwyd craidd. Mae’r polisi “gwyrdd” hwnnw yn debygol o droi allan i fod yn llawer mwy niweidiol i’r amgylchfyd. Mae ymchwil diweddar gan Henri de Ruiter o brifysgol aberddawan yn cadarnhau hyn. https://goo.gl/KyMnNm (yr  URL wedi ei fyrhau)

Mae naturiaethwyr am ail gyflwyno

anifeiliaid megis y blaidd a gwarchod pob rhywogaeth wyllt arall. Cyn hyn dylent hwy ystyried am ennyd be mae’r polisïau “amgylcheddol” blaenorol wedi cyflawni? Onid polisi i goedwigo tir ymylol a choed pinwydd achosodd gynnydd mewn poblogaeth y llwynog a arweiniodd i ddirywiad yn nifer yr adar sydd yn nythu ar lawr megis y gornchwiglen a’r gylfinir?

Polisïau amaethyddol sydd wedi llunio’r tiroedd a chymunedau ymhob gwareiddiad. Yma yng Nghymru dim ond polisïau cynaliadwy all warchod natur, bwydo ein poblogaeth a gwarchod ein hiaith a’n diwylliant. Mi ddylai gwarchod diwylliant a chymuned fod yn rhan annatod wrth lunio’r polisi newydd yn dilyn Brecsit. Mae angen i’r polisi newydd gydnabod yr angen i fwydo poblogaeth ein hunain heb reibio ystorfeydd gwledydd eraill y byd.

Heb gymorth ariannol i wneud hynny nid yn unig bydd y polisïau yma yn chwalu ein cymunedau gwledig ond hefyd yn cyfrannu at gynhesu byd eang, does dim byd “gwyrdd” yn hynny.

Richard Hughes, Caernarfon FUW member explores the impact Brexit will have on the environment and food supply.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.