Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

MAE’R gair tyngedfennol yn cael ei ddefnyddio’n aml ac weithiau yn gôr ddweud sefyllfa. Ond mae ffermwyr Cymru yn wynebu dau achlysur eleni fydd a chryn effaith ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Fe ddaw’r cyntaf ym mis Mai gydag etholiadau’r Cynulliad ac er na fyddent yn dyngedfennol i’r diwydiant maent yn sicr o gael effaith sylweddol ar y blynyddoedd nesaf. Bydd y llywodraeth nesaf yn y senedd yn gwneud nifer o benderfyniadau sy’n mynd i effeithio’n fawr ar ffermio yng Nghymru. Er bod newidiadau i’r ffordd mae taliadau o’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwneud wedi cael eu cytuno’n barod mae’r ffordd bydd llywodraeth Cymru’n gweinyddu’r taliadau yn dal i beri pryder. Gwyddom bydd y taliadau’n gostwng ond bydd gan y llywodraeth le i leddfu’r boen os byddent am wneud hynny. Mae’r ffordd mae llywodraeth Cymru wedi ymdopi a’r newidiadau hyd yn hyn yn gadael llawer o le i wella. Hyd yn hyn mae’r cynllun newydd wedi bod yn draed moch gan fod y cynllun gwreiddiol wedi cael ei ddileu a’r un newydd yn dod mor hwyr fel na allai’r taliadau cael eu gwneud mewn amser. Yn y sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu ffermwyr mae anallu’r llywodraeth i wneud y taliadau’n amserol yn achosi llawer o broblemau i’r ffermwyr a llawer eraill sy’n ddibynnol arnynt. Bydd rhaid i’r llywodraeth newydd sicrhau ei bod yn gwella’n sylweddol ar hyn ac yn gwneud unrhyw gynlluniau newydd yn fwy deniadol na’r rhai sydd yn bodoli nawr. Bydd yr hen broblem o glwy’r diciau yn dal i rygnu ymlaen ac mae’n rhaid i’r llywodraeth nesaf fynd i ymrafael yn effeithiol ar y clwyf mewn anifeiliaid gwyllt. Roedd rhaid rhoi gorau i frechu moch daear am fod y brechlyn wedi rhedeg allan ond mae’n amheus os oedd y cynllun yn effeithiol beth bynnag. Mae’n rhaid mynd i’r afael a’r clwyf mewn moch daear ac nid gobeithio bydd brechu’n llwyddiant wrth wasgu fwy a mwy ar ffermwyr gyda mwy o reolau. Yn ystod cyfnod etholiad mae’r holl bleidiau’n addo torri’n ôl ar waith papur ac archwiliadau ond wedi’r etholiad does fawr yn digwydd. Mae’r addewidion yn cael eu hanghofio neu mae esgusion yn dod am na allent weithredu. Mae’n sefyllfa argyfyngus ar lawer o ffermwyr ar hyn o bryd am fod prisiau cynnyrch mor isel mae’n rhaid i’r llywodraeth edrych ar ffyrdd i leddfu ar y sefyllfa. Wrth gwrs y lle cyntaf gallent roi cymorth yw drwy sicrhau tegwch yn y taliadau maent hwy yn ei wneud. Ond mae llawer mwy gallent ei wneud drwy sicrhau nad yw ffermwyr yn cael eu hymelwa gan broseswyr sy’n defnyddio tactegau brwnt. Hwyrach na fydd etholiadau’r Cynulliad yn dyngedfennol ond byddwn yn wynebu etholiad fydd yn dyngedfennol i bawb yn hwyrach yn y flwyddyn. Yr etholiad hwnnw fydd yr un i benderfynu a’i ydym i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu ddod allan. Nid yw’n gôr ddweud fod canlyniad y bleidlais yma yn un dyngedfennol. Er bod llawer yn cwyno am agweddau o’r Undeb Ewropeaidd mae Cymru’n elwa’n sylweddol o’r arian sy’n dod oddi yno. Fe fydd y dadlau’n frwd dros aros neu adael a beth bynnag fydd y canlyniad bydd yn effeithio’n fawr ar ffermwyr Cymru a’r cymunedau ehangach. Ar hyn o bryd mae bron i dreian o incwm ffermwyr Cymru’n deillio o’r taliadau Ewropeaidd ac nid oes sicrwydd byddent yn cael eu diogelu os gadawn yr Undeb. Dadl y rhai sydd am adael yw byddai’r wlad yn safio arian ac y byddai’n bosibl ei ddefnyddio i gadw’r taliadau. Maent hefyd yn dweud bydd y taliadau o Ewrop yn lleihau beth bynnag ac yn y diwedd na fyddai ffermwyr ar eu colled. Bydd y rhai sydd am aros yn defnyddio’r ffaith ein bod yn allforio llawer i Ewrop a byddai’r allforion yma mewn perygl. Ond dywed eu gwrthwynebwyr fod cyfle i ehangu’n gorwelion tu allan i Ewrop. Mae bod yn rhan o gyfundrefn sy’n gweithredu dros 27 o wledydd yn sicr o fod yn fantais wrth ddadlau ar lwyfan byd eang a byddem yn colli hyn fel gwlad fach. Mae’r dadlau yn mynd i ddwysau dros y misoedd nesaf a bydd gofyn i bawb bleidleisio ac yn y diwedd bydd y canlyniad yn dyngedfennol i’r wlad ac i Gymru. Drwy aros i mewn rydym yn gwybod beth i’w ddisgwyl ond os allan hwyrach mae i’r diffeithwch byddwn yn mynd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.