Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

CYFADDEFODD George Osborne yn ei wythfed gyllideb fod economi Prydain yn tyfu’n arafach na’r disgwyl. O ganlyniad nid oedd yn cyrraedd dau o’r targedau roedd wedi eu gosod iddo’i hun ond roedd yn ffyddiog y gallai gyrraedd y trydydd sef sicrhau fod gweddill yn y gyllideb erbyn 2020. I wneud hyn bydd rhaid iddo dorri’n bellach ar wariant cyhoeddus a bydd hynny’n effeithio ar bawb. Er bod rhai gwasanaethau wedi eu trosglwyddo i’r Cynulliad bydd yr arian ar gael i lywodraeth Cymru’n cael ei gwtogi felly bydd ein gwasanaethau’n cael eu heffeithio. Mae llawer o’r gwasanaethau mae’r llywodraeth a llywodraeth leol wedi eu cwtogi’n sylweddol dros y blynyddoedd ac mae cefn gwlad i’w weld wedi dioddef fwy na llawer. Y perygl yw bydd cefn gwlad yn dioddef eto yn y toriadau sydd i ddod ac unwaith eto bydd cefn gwlad yn dioddef ar draul yr ardaloedd trefol a dinesig. Bydd ffermwyr Cymru’n dioddef yn sgil y toriadau ond roedd rhai pethau cadarnhaol ac eraill ddim o gymorth i ffermwyr Cymru yn y gyllideb yma. Fel pawb arall bydd ffermwyr yn manteisio ar y cynnydd yn y lwfans personol. Er Ebrill 5 mae wedi codi £400 sydd werth £80 i’r rhai sy’n talu 20 y cant o dreth a chafodd hyn ei gyhoeddi yn y gyllideb ddiwethaf. Mae’r rhai sydd ar gyflogau sy’n cael eu talu’n wythnosol neu fisol yn gweld y gostyngiad treth yn syth ond bydd rhaid i’r hunangyflogedig aros tan Ionawr 2018 cyn cael y gostyngiad. Cyhoeddwyd bydd y lwfans yn codi £500 arall i £11,000 o Ebrill 2017 sy’n ostyngiad o £100 i’r rhai sy’n talu 20 y cant. Ond unwaith eto bydd rhaid i’r hunangyflogedig aros tan Ionawr 2019 cyn gweld yr effaith. Mae’r busnesau sy’n gweithredu fel cwmnïau cyfyngedig yn mynd i weld gostyngiad yn y dreth o 20 y cant i 17 cant ond ddim tan 2020. Mae’r drefn o dalu yswiriant cenedlaethol (NIC) yn mynd i newid o Ebrill 2018. Bydd y taliad wythnosol, dosbarth 2, o £2.80 yn dod i ben a bydd taliad dosbarth pedwar yn newid i gynnwys yr holl yswiriant. Ar hyn o bryd mae’r hunangyflogedig yn talu dosbarth 2 yn wythnosol a dosbarth 4 ar yr elw. O Ebrill 2018 byddent yn talu dosbarth 4 yn unig a bydd hynny’n ddibynnol ar yr elw. Er ei fod wedi cyhoeddi’r newid ni wnaeth Mr Osborne ddweud faint fydd y taliadau newydd. Roedd rhai newidiadau fydd yn cynyddu costau ffermwyr sef y codiad yn y dreth ar yswiriant a’r cynnydd yn y dreth cerbydau. Yn lleddfu ychydig ar hyn yw’r ffaith nad yw’r dreth ar danwydd yn codi, sy’n newyddion da. I’r ffermydd hynny sydd wedi arallgyfeirio a ganddynt fusnesau sydd yn defnyddio adeiladau sy’n cael eu trethu fel busnes mae’r cynnydd yn y gwerth trethiannol yn mynd i fod o fudd. O ddechrau’r mis ni fydd busnesau sy’n defnyddio adeiladau gyda gwerth trethiannol o dan £12,000 yn talu treth a gall hyn fod o werth i rai ffermwyr a busnesu eraill yng nghefn gwlad Cymru. Llynedd syfrdanwyd llawer gan gyhoeddiad y canghellor ei fod am ostwng maint y lwfans buddsoddi blynyddol, sef yr hyn ellid ei wario ar beiriannau ac ati a chael cant y cant o’r gwariant yn erbyn treth, o £425 mil i £200 mil. Daeth y newid i rym ar y cyntaf o Ebrill felly does ond £200 mil ar gael eleni er mwyn ei osod yn erbyn elw. Bydd unrhyw wariant uwchben hyn yn gymwys i gael y brîf lwfans buddsoddi o 18 y cant yn flynyddol. Er bod y lwfans buddsoddi blynyddol wedi gostwng mae’n bosibl cael cant y cant ar geir newydd sydd ag allyriant carbon deuocsid llai na 75gram/cilomedr ond mae’r allyriant yn gostwng i 50gram/cilomedr o Ebrill 2018. Mae ffermwyr yn dioddef gan y gostyngiad ym mhrisiau a nifer o dan straen ac yn ystyried gwerthu rhai o’i hasedau. Bydd y rhain yn falch o glywed fod treth cynnydd cyfalaf (Capital Gains Tax) wedi gostwng o 28 y cant i 20 y cant i’r rhai sy’n talu treth uwch, ac o 18 y cant i 10 y cant i’r gweddill o Ebrill 5. Er y gostyngiad, os bydd rhywun yn gwerthu tŷ sydd ddim yn brif gartref iddo, bydd 8 y cant o dreth ychwanegol i’w dalu. Mae’r dreth ar werthiant asedau busnes yn dal i alluogi’r ffarmwr i hawlio lwfans entrepreneur sy’n golygu treth o 10 y cant hyd at £10 miliwn dros einioes, o gynnydd mewn gwerth. Wrth ystyried asedau bydd rhai ffermwyr am brynu tir neu adeiladau busnes ac mae’r dreth stamp wedi newid ers y gyllideb. O hyn ymlaen mae’r dreth yn cael ei gyfrif ar bob graddfa felly bydd y dreth daladwy yn dibynnu ar sawl gradd sy’n bodoli yn y pris. Yn y gorffennol roedd y dreth am y pris cyfan yn cael ei osod yn ôl pa radd oedd y pris yn syrthio. Bydd hyn yn golygu gostyngiad yn y dreth sy’n daladwy wrth brynu. Ar yr ochr bersonol mae’r swm a ellir buddsoddi mewn ISA yn cynyddu i £20 mil yn Ebrill 2018 ac i’r rhai dan 40 oed mae ISA newydd ar gael. Mewn ymgais i gynorthwyo’r ifanc i fuddsoddi i brynu tŷ mae’r canghellor wedi creu ISA newydd ble gall person ifanc fuddsoddi hyd at £4 mil y flwyddyn a bydd y llywodraeth yn ychwanegu 25 y cant. I’r rhai sy’n ysmygu bydd y newyddion fod treth tobacco wedi codi ddim yn newyddion da ond i’r rhai sy’n hoffi peint neu glasiad o win mae wedi cadw’r dreth yr un fath. Y cyhoeddiad a gafodd lawer o sylw oedd y bwriad i godi treth ar ddiodydd meddal. Mae’n mynd i ymgynghori ar y dreth newydd felly nid ydym yn gwybod sut bydd yn gweithio na’r dreth fydd ar y diodydd ond mae wedi dweud fod y dreth yn mynd i gael ei dalu o Ebrill 2018. Rhaid aros i weld beth ddaw. Hwyrach mae di ddrwg a ellir dweud am y gyllideb ac o leiaf nid yw ffermwyr yn mynd i golli’n uniongyrchol.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.