Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

MAE llawer o berchnogion cŵn yn gallu bod yn ddiofal neu hyd yn oed anystyriol yn y modd maent yn gofalu am eu cŵn. Daw hyn yn amlwg yn y nifer fawr o achosion o gŵn yn lladd defaid ac mae hyn yn dod yn amlach yn ddiweddar. Am y drydedd flwyddyn yn olynol cafwyd dros fil o achosion o gŵn yn ymosod ar ddefaid eu cofnodi yn 2015. Cynyddodd y nifer o 1,044 yn 2014 i 1,051 yn 2015 ac roedd llawer ohonynt wedi arwain at ladd y defaid. Mae cannoedd o ddefaid yn cael eu lladd bob blwyddyn gan gŵn ac ychydig iawn o’r perchnogion sy’n cael eu herlyn yn y llysoedd. Er ei fod yn drosedd i beidio cadw ci dan reolaeth ychydig iawn sy’n cael ei wneud i erlyn y rhai sy’n gyfrifol am adael i’r ci fynd yn rhydd. Ym mis Mawrth cafodd 116 o ddefaid eu lladd gan gi neu gŵn yn Nwyrain Sussex a chafodd hyn lawer o gyhoeddusrwydd ond anaml iawn mae’r cyfryngau yn rhoi sylw i’r digwyddiadau yma. Pan mae person yn cael niwed gan gi mae’r cyfryngau yn sicr o adrodd y stori ond nid yn aml pan mae anifeiliaid fferm yn cael eu niweidio. Ar Ebrill 6 daeth y ddeddf fod cŵn i fod i gael microsglodyn i rym. Mae’r ddeddf i sicrhau fod perchnogion cŵn sy’n anghyfrifol yn cael eu darganfod. Yn anffodus mae’n bosibl bydd y perchnogion yma ddim yn cael eu cŵn wedi eu trin ac felly’n osgoi cael eu dal. Yng nghyswllt y cŵn sy’n rhedeg defaid bydd rhaid eu dal cyn ellid adnabod y perchennog drwy’r sglodyn. Os lledir y ci yna bydd yn bosibl olrhain y perchennog os bydd gan y ci sglodyn arno. Gobeithio gwnaiff y ddeddf yma wneud i berchnogion cŵn ymddwyn yn fwy cyfrifol. Y drwg gyda llawer o berchnogion yw eu bod yn gadael eu cŵn fynd allan heb eu bod yn eu goruchwylio a bydd yn anodd iawn eu haddysgu i newid eu harferion. Er bod llawer o fudiadau wedi cael ymgyrchoedd i geisio addysgu pobl i ymddwyn yn fwy cyfrifol gyda’i cŵn nid ydynt wedi cael llawer o effaith erbyn hyn. Gyda’r pwysau yn cynyddu i’r cyhoedd gael mwy o ryddid i grwydro cefn gwlad mae’n debygol bydd yr achosion o ymosodiadau ar ddefaid ac anifeiliaid eraill yn cynyddu. Mae’n rhaid i’r gwleidyddion sylweddoli eu cyfrifoldeb wrth roi mwy o ryddid i’r cyhoedd. Gyda rhyddid daw cyfrifoldeb i ymddwyn yn gyfrifol ac mae’n hanfodol bod y gwleidyddion yn sylweddoli bod rhai pobl yn anwybyddu eu cyfrifoldebau. Yn anffodus i’r mwyafrif allent golli allan oherwydd yr ychydig anghyfrifol ond mae’n ddyletswydd ar y llywodraeth i sicrhau diogelwch ffermwyr a’i hanifeiliaid a pheidio â rhoi rhyddid i unigolion achosi niwed. Mae’r helbulon gyda chŵn yn rhan o’r darlun ehangach o drafferthion ffermwyr a difaterwch llawer o’r cyhoedd at ffermio a chefn gwlad. Roedd yr orymdaith yn Llundain diwedd Mawrth yn benllanw anniddigrwydd ffermwyr gyda’r sefyllfa. Mae’r prisiau isel ym mhob maes, yn oedi wrth dderbyn y taliadau sylfaenol ac agwedd y prynwyr yn newid prisiau a’i seiliau ar hap i gyd yn achosi trafferthion dybryd. Nid yw agwedd y llywodraethau i’w cyfrifoldeb am sicrhau tegwch yn y taliadau na’r ffordd mae ffermwyr yn cael eu trin yn lleddfu’r sefyllfa. Yn ogystal â difaterwch llywodraethol mae agwedd llawer o’r cyhoedd yn creu pryder. Nid oes llawer o gydymdeimlad gan y cyhoedd i drafferthion ffermwyr ac mae rhai yn elyniaethus tua ffermwyr. Gwelwn hyn yn y ffordd mae ffermwyr yn yr ardaloedd ble mae moch daear yn cael eu difa, yn cael eu herlid. Er bod y cymylau duon uwchben ar hyn o bryd mae’r gwanwyn yma a bydd haul ar fryn yn y dyfodol. Ond hir yw pob ymaros.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.