Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

MAE Ewrop wedi bod yn y newyddion ers misoedd ac mi ddaeth i uchafbwynt ym mis Mehefin. Roedd dau ddigwyddiad wedi bod yn cyffroi pobl sef y gystadleuaeth pêl-droed, Ewro 2016, a’r etholiad i benderfynu mewn neu allan o’r Undeb Ewropeaidd (EU). Gwelsom orfoledd a siom o fewn ychydig i’w gilydd. Y wefr a’r gorfoledd o weld ein pêl-droedwyr yn cyrraedd safle’r cynderfynolyn y gystadleuaeth a hynny yn erbyn pob disgwyliad. Roedd eu perfformiadau yn codi calon pawb hyd yn oed os nad oeddent yn dilyn pêl-droed a’r gobaith yw bod hyn yn hwb i ddyfodol y gamp yng Nghymru. Bydd y llwyddiant yn golygu fod llawer mwy na phêl-droed yn elwa o’r llwyddiant yma ac y bydd cynnyrch fferm hefyd yn cael mwy o sylw. O ochr y bleidlais dros yr UE roedd gorfoledd ym mysg y rhai oedd am adael yr UE ond siomedigaeth fawr i’r rhai oedd am aros yn enwedig gan fod nifer wedi meddwl byddem yn aros o drwch blewyn. Fel sydd wedi ei ddweud ganwaith yn barod mae’n rhaid edrych ymlaen a chynllunio am fywyd tu allan i Ewrop. Un o’r canlyniadau ddaeth yn sgil y bleidlais oedd ymddiswyddiad David Cameron a nawr mae ganddom Brif Weinidog newydd sef Teresa May a hefyd llywodraeth newydd. Mae hyn yn dod a sialensiau i bawb i greu byd newydd o fewn amaethyddiaeth a’r wlad yn gyffredinol. Heb unrhyw amheuaeth mi fydd angen i ffermwyr a phawb sy’n ymwneud a chefn gwlad sicrhau fod polisïau’r llywodraeth newydd yn gwarchod bywyd gwledig yn ei gyfanrwydd.Mae hyn yn mynd i gynnwys y llywodraethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain i sicrhau fod y cyllid angenrheidiol yn dod i’r ardaloedd gwledig. Dros y blynyddoedd mae llawer o arian sydd wedi dod o’r UE wedi sicrhau fod cefn gwlad yn gallu dal ati. Mae’r arian yma wedi dod i ffermwyr ac i brosiectau eraill oedd yn sicrhau fod peth gwaith yn aros a busnesau yn dal eu tir. Cadw pobl yn eu cymunedau wnaeth yr arian yma, nid, fel mae llawer yn meddwl, gwneud elw mawr i’r derbynwyr. Yn anffodus cafodd y toriadau yng nghyllid yr awdurdodau lleol effaith mawr ar gymunedau gwledig. Gwelwyd cau ysgolion a cholli gwasanaethau sydd wedi arwain at ddirywiad yn yr ardaloedd gwledig. Yn ystod yr ymgyrch addawodd y rhai oedd am adael yr UE y byddai’r arian sy’n dod o’r UE yn parhau i gael ei dalu o’r Trysorlys ond wedi’r etholiad mae peth gwadu yn mynd ymlaen. Nid oes yr un sicrwydd bydd yr addewidion yma’n cael eu gwireddu. Felly mae gofid am ddyfodol yr ardaloedd gwledig os na welir arian cyfatebol i hyn ddaeth o Ewrop yn dal i ddod i gefn gwlad a hefyd y bydd cyllid awdurdodau lleol yn dal i gael ei gwtogi. Bydd ysgolion a gwasanaethau yn dirywio ac yn y diwedd bydd y cymunedau’n dioddef ynghyd a’r diwylliant. Mae llawer o ddiwylliant Cymru’n deillio o’r cymunedau gwledig ac oni dyw’r rhain yn ffynnu bydd y diwylliant yn dioddef. Gwelir bod llawer o’r rhai sy’n ymwneud a’r diwylliant yn ein trefi mawrion a dinasoedd yn deillio o’n hardaloedd gwledig ac os bydd dirywiad yno bydd diwylliant Cymru gyfan yn dioddef. Gwelwyd bod llwyddiant ein tîm pêl-droed cenedlaethol yn gallu codi brwdfrydedd y genedl a’i gobeithion at y dyfodol. Yn yr awyrgylch newydd sydd o’n blaen yn arwain at ein hymadawiad a’r UE ac wedyn i’r dyfodol bydd galw am yr un brwdfrydedd i lunio Cymru newydd. Bydd gofyn i bob cymdeithas sy’n ymwneud a bywyd Cymru godi llais er mwyn sicrhau tegwch i’r wlad, ei chymunedau a’i diwylliant. Y dasg fwyaf bydd sicrhau digon o adnoddau a chyllid er mwyn cadw’r hyn sydd gennym ac i adeiladu arni i’r dyfodol. Bydd ffyniant Cymru yn ddibynnol ar ffyniant amaethyddiaeth a phob diwydiant arall yn y wlad. Mae Brexit yn rhoi her i’n llywodraethau ond hefyd i bawb i lunio dyfodol llewyrchus i’n plant a phlant ein plant. Yn ôl y gan “mae’n dyfodol yn ein dwylo ni” beth bynnag gwnaethom bleidleisio ar Fehefin 23.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.