Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

MAE cysgod Prydain Allan neu Brexit drosom ac mi fydd am flynyddoedd. Ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) mae llawer wedi digwydd a llawer wedi bod yn ceisio darogan beth sydd i ddod. Ar hyn o bryd mae’r penderfyniad i adael wedi achosi i’r bunt wanhau ac i Fanc Lloegr ostwng y cyfraddau llog i chwarter un y cant. Fe all y ddeubeth yma fod o fudd i ffermwyr yn y tymor byr beth bynnag. Mae’r gwanhad yn y bunt wedi golygu bod ein hallforion yn rhatach ac mae’n debyg ei fod wedi effeithio’n barod ar y farchnad cig oen. Ers y penderfyniad i adael mae’r farchnad ŵyn wedi gwella a’r gobaith yw bydd gwendid y bunt yn hybu’r farchnad ymhellach. Fe fydd yr oll o’n hallforion yn elwa o’r sefyllfa yma gan gynnwys cig eidion a chynnyrch llaeth. Bydd y ffermwyr grawn hefyd yn ei chael yn hwylusach i allforio’i gynnyrch. I’r gwrthwyneb o hyn mae ein mewnforion yn mynd i fod yn ddrytach sy’n effeithio ar ddefnyddion ffermwyr sydd wedi eu mewnforio. I’r rhan fwyaf o ffermwyr y cynhwysion mewn bwydydd anifeiliaid fydd yn cael yr effaith mwyaf. Wrth i bris rhain gynyddu mae perygl bydd cost y dwysfwyd hefyd yn codi ond y gobaith yw bydd cynnydd yng ngwerth y stoc yn fwy. Gan nad oes sicrwydd am ganlyniadau’r cytundeb gadael mae’n rhaid gweithio’n ddygn yn ystod y blynyddoedd nesaf i ganfod marchnadoedd newydd. Mae’n rhaid bod yn barod i gael marchnadoedd newydd i gymryd lle marchnad yr UE os bydd tollau yn cael eu gosod. Yn y blynyddoedd nesaf bydd llawer o bwysau ar Hybu Cig Cymru i ehangu’r marchnadoedd sydd ganom yn barod ac i ddarganfod rhai newydd. Bydd galw ar HCC i dorchi llewys a gweithio’n galed dros ffermwyr Cymru. Wrth edrych am farchnadoedd newydd bydd rhaid bod yn wyliadwrus o’r gwledydd sy’n unbenaethol gan y gallent weithredu’n ein herbyn yn sydyn. Gwelsom hyn gyda Rwsia pan waharddwyd ein cynnyrch oherwydd anghydfod gwleidyddol. Mae Tsiena wedi bygwth cymryd camau tebyg dros yr oedi yn y penderfyniad i adeiladu pwerdy niwclear yn Hinckley Point, Gwlad yr Haf. Bydd y gostyngiad yn y llogau o fudd i’r ffermwyr sy’n benthyca arian yn enwedig yn awr gan fod incwm ffermydd dan straen. Hefyd mae’n rhoi cyfle i’r rhai sydd eisiau buddsoddi mewn tir, adeiladau neu beiriannau newydd gan y bydd y gost o fenthyg arian yn llai. Er y bydd cyfle i fuddsoddi gostyngodd George Osborne’r lwfans treth incwm o £500,000 i £25,000 o ddechrau’r flwyddyn. Gan ei fod am hybu’r economi hwyrach gwnaiff ei olynydd, Phillip Hammond, godi’r lwfans yn ei Ddatganiad yr Hydref. Fel popeth mae mantais i un yn aml yn anfantais i un arall ac yn hyn o beth mae’r gostyngiad yn y llogau yn mynd i effeithio ar y rhai sy’n dibynnu ar eu buddsoddiadau. Y rhan fwyaf o rhain yw’r bobl hŷn sydd wedi cynilo ac yn ddibynnol ar y llogau i’w cynnal. Un ansicrwydd sydd wedi ei ddileu yw’r cadarnhad gan y Canghellor fod y taliadau sydd wedi eu cymeradwyo gan yr UE yn mynd i gael eu talu gan y llywodraeth ar ôl gadael yr UE. Mae hyn yn galondid fod yr addewidion wnaed gan y rhai oedd am adael yn mynd i gael eu gwireddu. Y drwg yw mai ond hyd 2019 neu 2020 fydd hyn yn digwydd ac mae’r dyfodol wedi hynny’n aneglur.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.