Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

NID ceir moethus sydd fwyaf tebygol o gael eu dwyn ond ein hen gyfaill y Land Rover Defender. Ers i gwmni Land Rover rhoi gorau i gynhyrchu’r Land Rover Defender ym mis Ionawr mae’r nifer sy’n cael eu dwyn wedi codi. Mae’r lladron wedi sylweddoli fod y Defender nawr yn mynd yn gerbyd prin a’i fod yn un deniadol i lawer o bobl. Nid yn unig y cerbyd cyfan sy’n denu’r lladron ond rhannau ohonynt sy’n mynd yn fwy gwerthfawr o ddydd i ddydd. Yn ôl adroddiadau mae wyth y cant o gynnydd wedi bod yn y Defenders sydd wedi eu dwyn ers mis Ionawr i gymharu â’r un cyfnod llynedd. Mae hyn i’r gwrthwyneb o bopeth arall sy’n cael eu dwyn oddi ar ffermydd. Cafwyd gostyngiad yn y tractorau, ATV a defaid cafwyd eu dwyn hyd at Fawrth 2015 yn ôl ystadegau’r heddlu. Er ei fod yn ymddangos bod nifer y lladradau wedi disgyn hyd Fawrth 2015 nid ydym yn gwybod beth yw’r sefyllfa ers hynny. Yn anffodus y teimlad sydd ar led yw bod y sefyllfa wedi newid ac yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau’r tebygrwydd yw nad yw’r lleihad wedi dal ymlaen. Yn ôl yr adroddiadau mae peiriannau ac anifeiliaid yn cael eu dwyn o ffermydd yn rheolaidd ac mae rhai yn dioddef mwy nac unwaith. Y cyngor yw cadw cymaint ag sy’n bosibl yn ddiogel ac o dan glo. Peidio gadael allweddau yn y cerbydau a chadw gwyliadwriaeth am bobl amheus yn yr ardal. Mae’n anodd sicrhau diogelwch anifeiliaid sy’n pori ond eto’r cyngor yw diogelu gatiau sy’n agor i ffordd neu fan hwylus i lwytho anifeiliaid. Cyngor arall yw ymweld yn rheolaidd a’r anifeiliaid a sicrhau eu bod i gyd yno. Mae hyn yn rhan hanfodol o hwsmona da sy’n barod yn cael ei wneud gan y rhan fwyaf o ffermwyr. Yn rhan o hyn mae gofyn bod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion fod rhywun diarth wedi bod yn y cyffiniau ac yn ceisio mynediad i’r cae. Yn anffodus nid lladron yw’r unig rai sy’n aflonyddu ar yr anifeiliaid ond mae perchnogion cŵn sy’n anystyriol hefyd yn creu trafferthion. Mae nifer yr adroddiadau o ddefaid ac weithiau gwartheg sy’n cael eu lladd neu niweidio gan gŵn yn cynyddu. Mae dau ddosbarth o berchnogion sy’n achosi’r trafferthion. Y rhai sy’n gollwng eu cŵn o’r tŷ heb gymryd sylw o ble maent yn mynd a’r lleill yw’r rhai sy’n mynd a’r cŵn am dro ond heb gadw rheolaeth arnynt. Y cŵn sy’n cael eu gadael i grwydro ble y mynnent yw’r rhai sydd amlaf yn achosi difrod ac mae’n anodd dod o hyd i’r perchnogon i’w dal yn gyfrifol. Yn aml pan maent yn cael eu dal maent yn gwadu byddai eu ci yn gwneud y fath beth. Pan mae’r ci o dan oruchwyliaeth ond ddim dan reolaeth mae’n hawddach dal y perchennog y gyfrifol ond erbyn hynny mae’r difrod wedi ei wneud. Weithiau bydd y perchennog a’r ci wedi diflannu o’r cae heb wneud dim i leddfu’r anifeiliaid sydd wedi eu niweidio. Er bod llawer o gyhoeddusrwydd o’r niwed mae cŵn yn ei wneud mae’r nifer o achosion yn cynyddu. Mae’r nifer wedi codi yn ystod yr haf oherwydd bod mwy o bobl yn mynd a’i cŵn am dro i’r wlad ac yn gadael iddynt fynd yn rhydd. Mae gan ffermwyr yr hawl i saethu cŵn sy’n aflonyddu ar eu hanifeiliaid. Hwyrach mae’r unig ffordd i gael y cyhoedd i sylweddoli eu cyfrifoldeb yw i’r cŵn gael eu saethu ac i hynny gael cyhoeddusrwydd. Yn anffodus hwyrach mae hyn yw’r unig ffordd i gael y perchnogion anystyriol yma i ysgwyddo’i cyfrifoldeb. Mae’r cyhoedd yn barod iawn i feio ffermwyr am newidiadau ym mywyd gwyllt ac yn anffodus mae adroddiad wedi ei gyhoeddi sy’n cyhuddo ffermwyr o hyn. Yn Adroddiad Cyflwr Natur 2016 (State of Nature Report 2016) y pennawd yw bod y dirywiad wedi ei achosi gan y newidiadau yn null ffermio ac yn beio ffermwyr am hyn. Fel ym mhob adroddiad nid yw’r pennawd yn datgelu’r casgliadau’n llawn. Beth sy’n amlwg yw bod rhai rhywogaethau wedi lleihau ond mae eraill wedi cynyddu ac felly mae dweud fod natur yn gyfan yn dioddef yn anghywir. Y drwg yw bod penawdau fel hyn yn fel ar fysedd y rhai sydd am golbio ffermwyr ac mae rhai ohonynt yn bobl nodedig. Rhai yn wyddonwyr ond yn un llygeidiog ac yn dewis a dethol yr hyn sy’n ateb eu pwrpas eu hunain. Mae ffermio wedi newid yn sylweddol dros y ganrif ddiwethaf ond mae hyn yn ymateb i alwadau llywodraethau ac i newidiadau mewn technoleg a bridio anifeiliaid a chnydau. Ymateb i ofynion llywodraeth am fwyd rhad arweiniodd at lawer o’r newidiadau. Erbyn hyn mae’r llywodraeth yn newid agwedd ond mae’r cyhoedd a’r archfarchnadoedd yn dal i ddisgwyl bwyd rhad. Ymateb i’r marchnadoedd mae ffermwyr ac mae’r marchnadoedd i raddau helaeth yn cael eu dylanwadu gan yr archfarchnadoedd. Rydym yn gweithredu mewn marchnad rydd a’r cryfaf sy’n rheoli ac yng nghyswllt Ffermio, yr archfarchnadoedd a’r cyhoedd sy’n rheoli ac fel y gwyddom mai’r cyhoedd yn gallu bod yn anwadal iawn ac anystyriol.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.