Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

DOEDD enwau’r gwyddonwyr o Brydain Syr J Fraser Stoddard, Duncan Haldane, James Thouless a Michael Kosterlitz ddim yn gyfarwydd i ni tan ddechrau mis Hydref pan gyhoeddwyd Gwobrau Nobel. Derbyniodd Syr Fraser Stoddard y wobr am gemeg a’r tri arall am ffiseg. Roedd y gwaith a wnaed ganddynt tu draw i ddirnadaeth y rhan fwyaf ohonom ond gwyddom bydd y gwaith yn ddefnyddiol yn y dyfodol i greu pob math o bethau. Crëwyd peiriannau molecwlar gan enillwyr y wobr am gemeg a dywedir bydd y rhain yn effeithlon mewn llawer maes. Yn yr un modd bydd y gorgludwyr (superconductors), gwobr ffiseg, yn cael eu defnyddio’n helaeth yn y byd electronig fydd yn y dyfodol yn effeithio ar lawer o feysydd. Mae gwaith y mae’r gwyddonwyr yma’n ei wneud yn edrych fel petai o ddim gwerth i fywyd bob dydd ond mi fydd yn effeithio ar lawer yn y dyfodol. Wrth edrych yn ôl dros y can mlynedd diwethaf allwn weld sut mae darganfyddiadau wedi trawsnewid ein bywydau. Yn y byd amaethyddol rydym wedi symud o ddefnyddio ceffylau fel cyfrwng i’r tractor sydd heddiw yn gallu llywio ei hun. Mae’r beirianneg electronig yn golygu gall tractorau a pheiriannau eraill gael eu llywio yn defnyddio signal o loeren. Golyga hyn fod y peiriant yn gweithio mwy effeithiol nag yw wrth gael ei lywio gan y gyrrwr. Dros y blynyddoedd mae chwistrellwyr wedi gwella fel eu bod yn fwy cywir ac yn yr un modd mae’r chwalwyr gwrtaith yn fwy cywir. Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r dechnoleg wedi gwella fel y gall y chwistrellwr neu’r chwalwr newid maint yr allbwn yn ôl angen y cnwd o’i amgylch. Yn ogystal â’r gwelliant yn effeithlonrwydd y peiriannau mae awyrennau bach di‐beilot nawr yn cael eu defnyddio i gadw golwg ar gnydau a llawer arall. Mae’r awyrennau yma’n effeithiol iawn mewn llawer maes ac fe allent fod yn arf newydd ym myd bugeilio, yn enwedig mewn tiroedd garw. Gellir eu defnyddio i wylio defaid mewn llefydd anghysbell ac anodd ei chyrraedd. Ar hyn o bryd maent yn ddrud iawn ond fel popeth arall gyda mwy o ddefnydd fe ddaw’r pris i lawr. Wrth ystyried y sector laeth mae’r newidiadau wedi bod yn syfrdanol. Rydym wedi mynd o’r stôl a godro a llaw drwy’r peiriant godro a’r caniau llaeth i’r parlwr godro, parlwr rotary a nawr mae’r peiriannau godro awtomatig yn dod yn boblogaidd. Mae’r systemau newydd yma wedi eu cyplysu a chyfrifiaduron sy’n golygu ei bod yn haws trin y gwartheg a delio gydag anhwylderau yn gynt a mwy effeithiol. Ym myd anifeiliaid rydym wedi gweld chwyldro yn y ffordd mae bridiau wedi gwella ac mae hyn yn deillio o’r defnydd o darw potel. Pan ddaeth y gwasanaeth tarw potel yn boblogaidd roedd y gallu i ddewis tarw neilltuol yn golygu gwelliant yn yr epil. Erbyn hyn mae’r gwasanaeth yma wedi ehangu fel bod trawsblannu embryo yn digwydd yn aml. Mae’r gwyddonwyr wedi arbrofi a chreu cemegau sydd wedi hwyluso tyfu cnydau drwy chwynladdwyr a phlaladdwyr sy’n amddiffyn y cnydau. Yn ogystal â’r cemegau i gynorthwyo gyda chnydau maent wedi creu meddyginiaethau i drin clefydau mewn anifeiliaid. Mae ganddom feddyginiaethau nawr i wella clefydau oedd yn y gorffennol yn angheuol. Yn anffodus mae clefydau newydd yn dod i’r wlad ac mae angen meddyginiaethau newydd o hyd i’w gwella ac mae’n rhaid i’r gwyddonwyr ddal ati i greu meddyginiaethau newydd. Hefyd mae rhai clefydau fel y diciâu mewn gwartheg sydd wedi bod gyda ni ers degawdau yn dal i achosi trafferthion dybryd. Mae hyn yn deillio o’r ffaith fod y pwyslais wedi newid o’r gwyddonol i’r gwleidyddol. Mae Cymru wedi bod yn flaenllaw ym myd cynhyrchu cnydau gyda’r sefydliad yn Aberystwyth yn creu nifer fawr o fathau newydd o blanhigion. Meillion yw’r cnwd sydd fwyaf adnabyddus ond mae’r blanhigfa wedi creu nifer fawr o gnydau eraill sy’n bwrpasol i rannau eraill o’r byd ac mae’r gwaith yn dal i fynd i geisio cnydau mwy effeithiol. Wrth edrych yn ôl a gweld y camau breision mae amaethyddiaeth wedi ei gymryd gyda chymorth datblygiadau gwyddonol mae’n hawdd gweld bydd llawer mwy i ddod yn y dyfodol. Hwyrach bod rhai o’r darganfyddiadau yn edrych yn annelwig ac yn amherthnasol nawr ond mae’n sicr y byddent yn cael lle yn y byd amaeth. Mae’r byd a’r hinsawdd yn newid a bydd angen oll adnoddau gwyddonol i sicrhau dyfodol llewyrchus a llwyddiannus.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.