Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

RYDYM yn nesáu at agor y drws i’r byd newydd. Y drwg yw nad ydym yn gwybod sut fyd sy’n ein hwynebu. Yr unig sicrwydd yw y byddwn faes o law yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ond ychydig o wybodaeth sydd am beth fydd y dyfodol oddi allan i’r UE yn debyg o fod. Mae Theresa May wedi gwneud yn glir ein bod am adael y farchnad sengl a hefyd yr Undeb Tollau Ewropeaidd yn ogystal â Llys Iawnderau Dynol Ewrop. Mae am geisio cael cytundebau newydd a’r UE ar faterion unigol ond fe all hyn fod yn ddadleuol iawn. Beth bynnag fydd mai llawer o drafodaethau i gymryd lle cyn byddwn yn ffarwelio a’r UE. Un peth sy’n sicr yw y byddwn yn yr UE tan 2019 ac yn derbyn y cymorth o farchnad sengl a’r cymorthdaliadau ond hefyd yn talu i mewn i’r gronfa. Beth fydd ein tynged ar ôl hynny rhaid aros i weld. Ar hyn o bryd mae materion mwy ymarferol yn deillio o’r cyfandir sef yr afiechydon Schmallenberg a’r ffliw adar. Mae’r ffliw adar wedi cyrraedd Cymru ac mae Schmallenberg wedi dod i’r Iwerddon a de orllewin Lloegr. Er bod y ffliw adar wedi ei ganfod mewn nifer o safleoedd ar draws Prydain mae nifer o’r achosion wedi bod mewn adar gwyllt ac wedi eu darganfod mewn safleoedd natur. Y pryder i ffermwyr yw y gall adar gwyllt drosglwyddo’r haint i’w heidiau hwy. Mae’r achosion sydd wedi ei darganfod mewn ieir a hwyaid wedi bod yn y rhai sy’n cael eu cadw mewn niferoedd bach yn aml mewn “iard gefn”. Y drwg yw gall yr haint ledu’n hawdd i’r heidiau masnachol ac achosi llawer o golled mewn da byw ac yn ariannol. Mae nifer fawr o heidiau ar y cyfandir wedi eu difa gan olygu gostyngiad yn yr wyau ar gael. Canlyniad hyn yw bod prinder wyau ac mae’r pris wedi codi sy’n newyddion da i’r cynhyrchwyr yn y wlad yma. Yr her yw cyfyngu ar ymlediad yr haint ac i’r perwyl yma mae cyfyngiadau ar berchnogion adar i’w cadw dan do ac i rwystro adar gwyllt rhag cael mynediad i’r adeiladau. Fe all hyn fod yn haws nawr yn y gaeaf gan na fydd yr ieir yn barotach i aros mewn na mynd allan i’r oerni. Hwyrach ein bod wedi mynd yn foddhaus am y clwyf Schmallenberg gan na welwyd achosion o honno er gaeaf 2012/2013. Gan na fu son amdano yn y blynyddoedd diwethaf mae perygl ein bod wedi ei anghofio neu ei anwybyddu ond mae wedi dod yn ôl eleni. Mae’n debyg mae tywydd mwyn yr hydref yw’r rheswm ei fod yn ôl. Roedd y tywydd yn ffafrio’r piwiaid sy’n cludo’r haint ac fe ddaethant drosodd o’r cyfandir a heintio gwartheg a defaid. Er mae ychydig o enghreifftiau o anifeiliaid sydd wedi eu heintio sydd wedi cael eu hadrodd erbyn hyn mae’n debyg daw llawer mwy i’r golwg pan fydd y tymor wyna a lloio ar ei anterth. Mae’r haint yn achosi i anifeiliaid gael eu geni gydag effeithiau anarferol yn aml gyda nam ar y coesau neu’r pen. Er bod brechlyn wedi ei gynhyrchu nid yw wedi ei drwyddedu ym Mhrydain felly nid oes modd osgoi’r haint. Os cafodd buwch neu famog ei heintio yn ystod ei beichiogrwydd fe all yr epil gael ei eni gyda nam. Gan nad yw’r heintiau yma na llawer o rai eraill yn parchu ffiniau gwledydd mae’n hanfodol ein bod yn cadw cysylltiad agos gyda’r awdurdodau ar y cyfandir i wybod beth sy’n digwydd. Bydd hyn yn bwysig iawn wedi i ni adael yr UE er mwyn gwybod pa heintiau sy’n codi ac yn symud ar draws y gwledydd. Mae’n debygol, wrth i’n hinsawdd gynhesu bydd rhai clefydau newydd yn symud yn nes i’r gogledd ac yn ein cyrraedd ni. Mae’r trafodaethau gadael yr UE yn mynd i fod yn rhai tyngedfennol ac yn effeithio ar genedlaethau i ddod. Bydd cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r gwleidyddion i sicrhau cytundeb deg i bawb ac nid yn bodloni dogma personol neu wleidyddol. Mae’n rhaid cael cytundeb economaidd ond hefyd sicrhau bod gwybodaeth sy’n effeithio ar iechyd y cyhoedd a’n hanifeiliaid yn cael ei rannu. Yn anffodus rydym wedi gweld yn y gorffennol gwleidyddion yn gwneud cytundebau oedd yn ymateb i’w safbwynt personol neu wleidyddol oedd ym mhen blynyddoedd yn troi allan i fod yn anghywir. Gobeithio na wnaiff yr arweinwyr yma ddim gwneud yr un peth ac y byddwn yn dioddef yn y dyfodol.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.