Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

MAE’R diwydiannau amaeth a bwyd yn debygol o gael eu haberthu ar allor Brexit er mwyn achub y diwydiant ceir a’r farchnad ariannol yn y Ddinas yn Llundain. Rydym wedi clywed sawl tro fod y llywodraeth am geisio amddiffyn y rhain a chael masnach rydd iddynt i Ewrop. Er bod arweinwyr yn Ewrop wedi dweud nad ydynt am adael i Theresa May ddethol a dewis beth mae am gael masnach rydd ynddynt, mae’n amlwg ei bod hi am geisio arbed y rhain. Mae hi wedi rhoi rhyw fath o addewidion i’r diwydiant ceir i’w cadw yn y Deyrnas Unedig (DU) neu ni fyddem yn clywed bod rhai o’r cwmnïoedd yn buddsoddi yn y DU. Mae nifer o’r banciau a’r sefydliadau ariannol wedi gwneud cynlluniau i drosglwyddo gwaith o Lundain i ddinasoedd ar y cyfandir, ac yn sicr mae hyn wedi cythruddo’r llywodraeth. Cadw gafael ar y fasnach ariannol yn y Ddinas yw un o brif amcanion y llywodraeth a byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud hyn. Byddai aberthu amaeth yn bris y byddent yn barod i’w dalu. Yn ogystal â diogelu’r diwydiant ceir a’r Ddinas trwy aberthu amaeth fe allai hyn alluogi’r llywodraeth i gadw pris bwyd i lawr, a thrwy hynny gadw chwyddiant yn is. Mae llawer o sôn am gytundebau marchnad rydd gyda Seland Newydd a byddai hynny’n niweidiol i ffermwyr y DU. Pe byddai hyn yn cael ei wireddu mi fyddai’n drychinebus i ffermwyr Cymru. Mi fyddai cytundeb o’r fath yn golygu cig oen rhad yn dod i’r wlad ac yn tanseilio’r pris i ffermwyr Cymru, ond byddai hefyd yn gostwng pris bwyd a chwyddiant, a fyddai’n gymorth i’r llywodraeth. Mi allai’r llywodraeth sicrhau’r un math o gytundebau â gwledydd eraill sy’n allforio bwyd i’r wlad yma a thrwy hynny danseilio’n prisiau ni. Drwy hyn byddai’r llywodraeth yn gostwng prisiau bwyd ac yn gobeithio cadw chwyddiant i lawr. Gan fod codiadau cyflog a nifer o fudd‐daliadau cymdeithasol yn cael eu gosod ar sail chwyddiant, byddai ei gadw’n isel yn gymorth i’r llywodraeth. Felly mae’n anodd osgoi’r ffaith y byddai sicrhau cytundebau masnach rydd gyda gwledydd sy’n allforio bwyd i’n gwlad ni o fudd i’r llywodraeth ond yn drychinebus i ffermwyr. Yn ogystal â hyn rydym yn debygol o golli’r hawl i fasnachu’n rhydd ag Ewrop a bydd colli marchnad sylweddol o’r fath yn effeithio ar ein prisiau. Fe all y ddau beth yma greu argyfwng ym myd amaeth ac felly mae’n rhaid gwneud y llywodraeth yn ymwybodol o’r peryglon, nid yn unig i ffermwyr, ond i gefn gwlad yn gyffredinol. Rhaid i’r llywodraeth gofio hefyd yn byddai hyn yn cael effaith andwyol ar yr holl amgylchedd naturiol. Mae’r llywodraeth i’w gweld yn benderfynol o gau’r drws ar weithwyr o dramor, a byddai hyn yn drychinebus i amaeth a bwyd. Mae nifer helaeth o weithwyr y sector amaeth a bwyd yn dod o Ewrop a byddai bron yn amhosib i’r lladddai a’r proseswyr gynnal eu busnesau hebddynt. Yn yr un modd mae nifer fawr o ffermwyr yn dibynnu ar weithwyr o Ewrop. Nid yn unig y ffermwyr sy’n tyfu ffrwythau a llysiau ond hefyd ffermwyr llaeth. Nid oes pobl yn y DU sy’n barod i wneud y gwaith mae’r gweithwyr yma o dramor yn barod i’w dderbyn. Nid y diwydiant bwyd ac amaeth yn unig sy’n ddibynnol ar y gweithwyr yma o Ewrop a thu hwnt. Ni allai’r gwasanaeth iechyd, milfeddygon, gwestai ac arlwyo ddal iti i weithredu hebddynt. Hefyd mae’r rhai sy’n gweithio yma’n barod yn teimlo’n bryderus y byddant yn cael eu herlid oddi yma. Mae’n hanfodol bod y llywodraeth yn datgan yn glir a chyhoeddus bod croeso i’r rhai sydd yma’n barod i aros, a bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi. Bydd rhaid sicrhau, yn y dyfodol, ei fod yn bosibl cael pobl o Ewrop a thu hwnt i ddod i’r wlad yma i lenwi swyddi nad yw pobl leol am eu gwneud. Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o ffermwyr wedi arallgyfeirio, gan sefydlu nifer o wahanol fentrau sydd wedi dod â budd i’w busnesau. Yn ddiweddar daeth y newyddion bod llawer o’r mentrau yma’n wynebu codiad sylweddol yn eu trethi busnes. Bydd hyn yn cael effaith ar effeithlonrwydd rhai o’r cynlluniau yma ac felly rhaid ystyried apelio yn ei erbyn. Rhaid i’r rhai sy’n cael eu heffeithio weithredu’n fuan a chael cyngor a chymorth proffesiynol i gyflwyno’u hapêl. Fel y gwelir mae llawer o ffactorau’n creu ansefydlogrwydd ac ansicrwydd ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn deillio o’r ansicrwydd sy’n bodoli ar draws Ewrop a’r sefyllfa wleidyddol fyd‐eang. Bydd angen i ffermwyr asesu eu busnesau a chynllunio ar gyfer beth allai ddigwydd. Mae ystyried beth ellir ei wneud i wella’r busnes nawr, a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn mynd i roi’r busnes mewn sefyllfa gryfach i wynebu’r heriau sydd i ddod.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.