Cadw Golwg o Ben Talar

“LLANAST LLWYR” yw beth roedd llawer yn ei ddweud am y tro pedol a wnaeth y llywodraeth mewn perthynas â bwriad y Canghellor i gynyddu yswiriant cenedlaethol pobl hunangyflogedig. O fewn wythnos roedd y pwysau gan rhai o’i blaid ei hun, ynghyd â llawer o bobl eraill, wedi achosi i Philip Hammond newid y cynlluniau a gyhoeddodd yn ei gyllideb. Roedd Philip Hammond wedi bwriadu cynyddu taliadau gradd pedwar yr yswiriant cenedlaethol o un y cant yn Ebrill 2018, ac un y cant arall yn Ebrill 2019, ond roedd am ddileu’r taliad wythnosol sy’n bodoli ar hyn o bryd. Yn sgil y protestio ei fod yn torri addewid a wnaed ym maniffesto’r etholiad cyffredinol i beidio â chodi’r yswiriant cenedlaethol, fe dynnodd y cynllun yn ôl. Y ddadl a roddodd dros gyflwyno’r cynnydd oedd ei fod am sicrhau tegwch rhwng y cyflogedig a’r hunangyflogedig. Ond mae’n amlwg nad yw wedi ystyried yn iawn faint yn fwy o fudd mae’r cyflogedig yn ei dderbyn. Mae’r cyflogedig yn derbyn nifer o fudd-daliadau sydd ddim ar gael i’r hunangyflogedig. Os yw person hunangyflogedig yn sâl neu heb waith ni all gael budd-dal, ac os ydyw am fynd ar wyliau nid oes tâl ar gael. Ni all gael cymorth sydd ar gael i rieni. Yn y bôn, rhaid i bobl hunangyflogedig dalu am lawer o bethau mae pobl cyflogedig yn eu cael fel rhan o’u cyflogaeth, felly ‘dyw ond yn deg eu bod yn talu llai o yswiriant cenedlaethol. Mae rhai busnesau wedi ymateb i anogaeth y llywodraeth i fod yn gwmnïau cyfyngedig a thalu difidend i’r cyfranddalwyr. Fel rhan o’r anogaeth roedd gwerth pum mil o’r difidend yn rhydd o dreth, ond mae Philip Hammond wedi gostwng y swm i ddwy fil o bunnoedd. Ni fydd hyn yn effeithio llawer ar fusnesau fferm gan nad oes llawer wedi’u rhestru fel cwmnïau cyfyngedig. Mae llawer yn gofidio y bydd gostwng y swm yn cyfyngu ar entrepreneuriaid yn gyffredinol ac o fewn amaethyddiaeth. Efallai y bydd llai yn barod i fentro ar gynlluniau newydd a thrwy hynny ehangu eu gorwelion. Heblaw am hyn, roedd ychydig i’w groesawu yn y gyllideb, ond trwyddi draw, ar ein colled y byddwn ni. Cynyddwyd y lwfans personol, ynghyd â throthwy’r radd uchaf o dreth incwm. Bydd hyn yn golygu bod ychydig yn llai o dreth incwm i’w dalu, ond mae codiadau eraill yn debygol o ddileu’r fantais honno’n llwyr. Bydd costau ffermio’n cynyddu yn sgil y gyllideb am fod y dreth yswiriant a’r dreth ar gerbydau’n cynyddu. Er bod y dreth petrol a disel yn aros yr un fath, a’r dreth lorïau wedi’i rhewi, mi fydd y cynnydd yn y costau cludiant yn effeithio ar bopeth yn ei dro. Bydd yn rhaid aros i weld a fydd y cymorth trethi busnes mae wedi’i addo yn lleddfu’r cynnydd arfaethedig yn sgil codi gwerth trethiannol busnesau. Gobeithio y bydd hyn o gymorth i’r ffermydd hynny sydd wedi arallgyfeirio ac sy’n wynebu cynnydd sylweddol yn eu trethi busnes. Yn ôl yr arfer, mae wedi codi’r trethi ar sigarets ac alcohol ond mae hefyd am drethu diodydd meddal sy’n cynnwys siwgr. Bydd hyn yn siŵr o gynyddu’r costau byw i bawb, a bydd y cynnydd yn y dreth hedfan hefyd yn effeithio ar y rhai sydd am hedfan ar wyliau neu fusnes. Wedi i’r helynt ynghylch yswiriant gwladol yr hunangyflogedig dawelu, ac wedi inni gael amser i ystyried gweddill y gyllideb, mi ddaw hi’n amlwg bod y wasgfa’n parhau ac mai felly y bydd hi am beth amser i ddod. Er bod Philip Hammond wedi gwneud tro pedol ar yr yswiriant gwladol, mae wedi dweud y bydd yn ystyried y sefyllfa erbyn y gyllideb nesaf yn yr hydref. Mae ganddo wagle yn ei gyllideb y bydd yn rhaid iddo ei lenwi rywffordd, ac yn anorfod mi fyddwn ni’n talu’r pris yn y diwedd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.