Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

“LLWGA di’r ddaear, mi lwgith o di yn y diwedd” oedd dywediad tad Huw Roberts Y Gyrn, Llanuwchllyn fel yr adroddodd wrth Dei Jones ar raglen Cefn Gwlad. Mae llawer o ffermwyr erbyn hyn yn dechrau sylweddoli ei fod yn wir. Hyd at ganol y ganrif ddiwethaf roedd y “Norfolk four course rotation” yn rhan o faes llafur gwersi amaeth. Yn ôl y drefn yma roedd cnydau yn cylchdroi ac yn sicrhau fod y tir yn cael ei faethloni. Y cylch oedd gwenith, maip, haidd ac yna porfa ac wrth i’r maip ar borfa gael eu defnyddio gan anifeiliaid roeddent yn gwrteithio’r tir. Daeth gwrtaith cemegol yn fwy poblogaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif ac roedd yn cymryd lle gwrtaith yr anifeiliaid. Yn raddol trodd ffermydd yn fwy arbenigol gyda llawer ond yn tyfu cnydau ar dir âr gyda’r canlyniad roeddent yn hollol ddibynnol ar wrtaith cemegol. Erbyn hyn mae ‘na fwy o bwyslais ar ansawdd y pridd a’r sylweddoliad na ddyw gwrtaith cemegol yn unig yn dda i ansawdd y pridd. Er mwyn cynnal ansawdd y pridd mae angen hwmws roedd gynt yn cael ei ychwanegu gan y tail/dom anifeiliaid. Nawr mae llawer o ffermwyr tir âr yn edrych am ffyrdd i roi hwmws yn ôl yn y pridd. Mae rhai yn ystyried mynd yn ôl a chadw anifeiliaid fel rhan o’i chylch cnydau. Nid yw’r trafferthion yma yn effeithio ar lawer o ffermwyr yng Nghymru gan mae porfa ac anifeiliaid yw’r rhan helaethaf o’r ffermydd. Mae hyd yn oed y rhai sydd â mwyafrif eu fferm yn dir âr gyda rhywfaint o dail/dom ar gael. fe all yr anghenraid i gael gwrtaith naturiol gael effaith ar ffermwyr Cymru os bydd llawer o’r ffermydd âr yn troi at anifeiliaid. Bydd hyn yn agor marchnad newydd i rai ond fe all effeithio’n wael ar stoc tew os byddent yn magu a phesgi’r epil. Wrth i’r peiriannau fynd yn fwy ac yn drymach maent yn cael mwy o effaith ar y tir ac yn gwasgu’r pridd. Mae hyn yn ei dro yn achosi haenen galed sy’n rhwystro dŵr rhag mynd i lawr i’r isbridd ac o ganlyniad mae dŵr yn cronni ar y wyneb. Yn ogystal â rhwystro’r dŵr rhag mynd drwy’r pridd mae hefyd yn rhwystro gwreiddiau rhag datblygu. Mae pryfed genwair yn hanfodol i gynnal iechyd y pridd ac mae’r haenen galed yma’n rhwystro’r pryfed genwair rhag symud drwy’r pridd a gwneud eu gwaith o gynnal a chadw’r pridd. Mae’r broblem yma’n effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd, byddent yn dir âr neu yn gyfan dan borfa. Bydd y defnydd o’r peiriannau mawr yma’n effeithio ar bob man maent yn mynd. Hefyd mae gwyddonwyr wedi darganfod fod anifeiliaid yn gallu achosi’r haenen yma drwy gerdded yn ôl a blaen dros y tir. Mae cyfanswm eu pwysau yn gallu gwasgu’r pridd a chreu haenen galed dan y wyneb. Mewn ymateb i’r broblem mae llawer yn defnyddio teclyn gyda choes sy’n cyrraedd o dan yr haenen ac yn ei dorri. Drwy dorri’r haenen mae’n rhoi cyfle i’r dŵr dreiddio drwy’r pridd, cyfle i’r gwreiddiau datblygu a gwella ansawdd y pridd ac yn galluogi’r pryfaid genwair wneud eu gwaith. Drwy dorri’r haenen a gwella ansawdd y pridd mae’r cnydau’n gwella ac yn y diwedd mae’r cynnyrch yn cynyddu. Mae hyn yn arwain at bridd iach a gwell elw i’r ffarmwr. fel roedd Huw Roberts yn dweud mai’n rhaid edrych ar ôl y tir neu mae ffermio’n dioddef. I raddau mae ffermwyr wedi esgeuluso’r tir ond nawr yn sylweddoli ac yn ceisio dadwneud camgymeriadau’r gorffennol. Er bod llawer i’w wneud ar nifer o ffermydd âr ac fe gymer peth amser i ddadwneud y drwg nid yw’n rhy hwyr ac fe allent gael y pridd yn ôl i’w lawn botensial.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.