Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

I NIFER fawr o ffermwyr mae diwedd eu blwyddyn ariannol yn nesáu. Mae blwyddyn ariannol llawer yn diweddu ar y 31 o fawrth tra mae eraill yn diweddu ar y 30ain o Ebrill ond yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru yn ddiweddar nid yw’r dyfodol yn argoeli i fod yn un llewyrchus iawn, yn enwedig i ffermwyr cig eidion a defaid yng Nghymru. Ar gyfer ffermydd gwartheg a defaid yn yr Ardaloedd Llai ffafriol mae incwm busnes fesul fferm ar gyfartaledd wedi gostwng oddeutu 11 y cant, i £ 19,200, o’i gymharu â 2012-2013. Yn y cyfamser, cynyddodd cyfartaledd incwm busnes fferm ar gyfer ffermydd gwartheg a defaid yr iseldir, ond dim ond o 5%, i £28,600.

Gwelodd ffermydd llaeth gynnydd mewn incwm busnes fferm ar gyfartaledd o tua 71 y cant o’i gymharu â 2012-13, i £ 77,000. Ar yr olwg gyntaf, mae hon yn stori gadarnhaol, ond mae’r argyfwng prisiau llaeth dros gaeaf 2014-15 yn dangos pa mor gyfnewidiol yw’r sector hwn, gyda’r angen i fusnesau reoli’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae’r ystadegau hyn yn dangos y gwahaniaethau rhwng y gwahanol fathau o ffermydd ar draws Cymru, ond cofiwch nid ydynt yn cyfeirio at broffidioldeb busnesau, dim ond y trosiant, a’r cymorth ariannol gan y PAC sy’n parhau I fod yn sylfaenol i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru

Mae nifer o ffermwyr yn poeni ac yn gorfod troi at gymorth oddi wrth elusennau. Yn y sefyllfaoedd yma rydym yn ddiolchgar am wasanaethau elusennau megis yr RABI, Yr Addington fund, farm Crisis Network a Rural Stress Helpline sy’n rhoi cymorth i’r rhai mewn angen.

Erbyn hyn mi fydd gan ffermwyr syniad sut flwyddyn maent wedi ei gael a bydd angen edrych ar ffyrdd i leihau’r dreth incwm fydd i’w dalu. Er bod yr ystadegau ar elw ffermydd stoc yn isel mae’r ffigyrau yma’n golygu eu bod tros y trothwy i dalu treth incwm. I’r rhai sydd a’i blwyddyn ariannol yn diweddu 31 Mawrth neu 30 Ebrill mae cyfle i gymryd camau i leihau’r faich. Os oes angen newid peiriannau hwyrach byddai’n ddoeth ystyried ei wneud cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Drwy wneud hyn gellir manteisio ar y lwfans buddsoddiad o £500,000 sydd ar gael a gostwng unrhyw dreth fyddai’n daladwy. fe fydd y lwfans yma yn gostwng i £25,000 y flwyddyn o’r 1af o Ionawr 2016 felly mae’n rhaid ystyried a chynllunio unrhyw fuddsoddiad i gymryd mantais o’r lwfans yma. Yn yr un modd os oes gwaith cynnal a chadw i’w wneud byddai’n synhwyrol ystyried ei wneud cyn diwedd y flwyddyn fel y gellir cael y gost yn erbyn elw eleni.

Wrth wneud y buddsoddiad neu’r gwaith cynnal a chadw yn y flwyddyn yma mae’n golygu na fyddai’r taliadau ar gael i leihau elw’r flwyddyn nesaf. Mae hyn yn golygu ystyried a chynllunio’n ofalus. Byddai unrhyw ostyngiad yn yr elw i 31 Mawrth yn golygu lleihau’r taliadau treth yn Ionawr a Gorffennaf 2016 ac efallai’r taliad yng Ngorffennaf 2015 yn dibynnu ar yr amgylchiadau. I’r rhai sydd â blwyddyn yn diweddu 30 Ebrill byddai’r taliadau yn 2017 yn cael eu heffeithio.

Mae’r drefn dreth yn gallu bod yn gymhleth a dylid trafod gyda chyfrifydd i wneud y cynllun gorau i leihau’r dreth a chadw cymaint ag sy’n gyfreithiol i fuddsoddi yn y busnes i’r dyfodol.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.