Cadw Golwg o Ben Talar

gan Aubrey Davies

MAE’N sicr fod y plant wedi cael hwyl yn chwarae ffŵl Ebrill ar eu rhieni ac unrhyw un arall y gallent eu plagio. Ond nid y plant yn unig sy’n ceisio gwneud ffyliaid ohonom gan fod y cyfryngau tros y blynyddoedd wedi cyhoeddi storiâu ffug fel rhan o’r hwyl ffŵl Ebrill.

Ambell dro cafwyd straeon ar y 1af Ebrill yn honni fod un ai’r Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn mynd i gael ei chynnal yn Llundain, Lerpwl, Birmingham neu hyd yn oed Efrog Newydd neu Baris. Ac wrth gwrs i gyd yn rhan o’r hwyl ffŵl Ebrill. Drwy lwc mae cyfnod ffŵl Ebrill ond am fore’r cyntaf o Ebrill ond gyda’r etholiad cyffredinol ond cwta fis i ffwrdd fe allem feddwl fod y cyfnod yn ddi-ben-draw.

Mae’r gwleidyddion wrthi’n ddiwyd yn addo pob math o bethau i’n cymell i bleidleisio iddynt. Y drwg yw a allwn ddibynnu ar yr addewidion neu a’i geisio’n twyllo yn ôl trefn ffŵl Ebrill y maent. Cafwyd gwers yn hyn o beth yn ystod ymgyrch annibyniaeth i’r Alban pan ddaeth y pleidiau at ei gilydd i lunio pecyn addewidion i geisio annog pobl yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

Cawsant eu dymuniad a gwrthododd pobl yr Alban dorri’n rhydd ond unwaith roedd y bleidlais wedi ei gwneud roedd y gwleidyddion yn brysur yn troi’n ôl ar eu haddewidion. Er bod materion amaeth wedi eu datganoli i lywodraeth Cymru mae’r llywodraeth yn San Steffan yn dal i reoli cysylltiadau gydag Ewrop. Felly mae canlyniadau’r etholiad mis nesaf yn bwysig gan fydd agwedd y llywodraeth newydd yn effeithio arnom ni.

Hefyd mae llawer o faterion sy’n ymwneud a ffermio yn dal i fod dan reolaeth Llundain ac mae pwy sydd wrth y llyw yn mynd i effeithio ar bawb. Un o’r materion pwysicaf, mae’n bosibl, yw cyllid ac mae datganiadau’r Canghellor yn cael effaith mawr. Bydd y gwleidyddion yn addo llawer yn yr ymgyrch etholiadol ond wedi’r etholiad fe fydd myrdd o resymau pam na allent eu cyflawni. Mae hyn yn digwydd yn aml pan mae plaid newydd yn dod i rym pan fyddent yn beio’i rhagflaenydd am adael sefyllfa anghynaladwy iddynt allu gwireddu eu haddewidion.

Ar y llaw arall os bydd yr un blaid yn aros mewn grym byddent hwythau yn prysur bellhau o’i haddewidion gan ddarganfod myrdd o resymau pam na allent weithredu.

Mae arolygon yn dangos mae hyn yw barn y rhan fwyaf o bobl ac felly does rhyfedd bod pobl yn mynd yn sinigaidd o wleidyddion. I raddau mae Canghellor y Trysorlys yn hybu’r teimladau yma o sinigrwydd yn y ffordd mae’n trin y gyllideb. Ym mlwyddyn etholiad mae’r Canghellor, bron yn ddieithriad, wedi cyflwyno cyllideb sy’n rhoi arian ym mhocedi’r etholwyr a dyw eleni ddim gwahanol. Llwgrwobrwyo’r etholwyr yw hyn medd llawer a gall hyn fod yn wir gan fydd cyllideb arall yn cael ei chyflwyno ar ôl yr etholiad a gall pethau newid a’r arian a roddwyd yn cael ei ddileu drwy ffyrdd eraill.

Mi wnaeth George Osborne fel y disgwyl drwy addo codi’r lwfans personol i £10,800 am y flwyddyn o Ebrill 5 2016 ac yna ei godi eto i £11,000 y flwyddyn wedyn ond fe gall yr addewidion newid ar ôl yr etholiad am mae am y blynyddoedd o Ebrill 2016 byddai’r codiadau yn weithredol.

Hefyd addawodd byddai’r trothwy pan mae’r dreth yn 40% yn codi i £43,300 erbyn 2017/2018 ond eto fe fydd yn ddibynnol ar y llywodraeth newydd i’w gyflawni. Dywedodd fod y dreth gorfforaethol yn mynd i ostwng un y cant i ugain y cant o’r cyntaf o Ebrill. Hefyd ei fod am ohirio’r cynnydd yn nhreth tanwydd ac yn lleihau’r dreth ar gwrw, ceiniog y peint, gwirodydd a seidr, dau’r cant. Mae’r rhain i gyd yn newyddion da gan fydd pawb yn cael ychydig mwy yn eu pocedi.

I ffermwyr a busnesau eraill roedd y datganiad ei fod am ddileu’r Yswiriant Cenedlaethol i rai o dan 21 mlwydd oed, i brentisiaid o 2016 ac i’r hunan cyflogedig yn newyddion da. Mae wedi addo cynyddu’r lwfans buddsoddi, sydd i ddod lawr o £500,000 i £25,000 ar y Ionawr 1 2016, ond ni ddywedodd i ba swm.

Eto addewid i’w hyn efallai na ellir ei wireddu. Addewidion i’r dyfodol yw llawer o’r gyllideb a bydd rhaid aros i weld os bydd yn gallu neu yn fodlon ei gwireddu.

Un peth ddywedodd sy’n sicr yw bydd mwy o doriadau yng ngwariant cyhoeddus ac mae wedi dweud bydd yn £30biliwn a llawer yn adrannau’r llywodraeth ac maen sicr yr arian a ddaw i’r Senedd yng Nghaerdydd.

Mae’r toriadau yma yn sicr o effeithio ar ffermwyr Cymru ac er bod y canghellor wedi addo ychydig mae’n mynd i ddal i fod yn gyfnod anodd am rai blynyddoedd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.