Camu mewn i fyd o hud a lledrith

Ladi Fach Tŷ Ni yw ysbrydoliaeth Cornel Clecs y mis yma. dros wyliau’r Pasg cafodd waith cartref i’w wneud yn seiliedig ar chwedlau. Faint o chwedlau ydych chi’n ymwybodol ohonynt ac yn bwysicach oll, ydych chi’n credu’r straeon hyn?!

Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth tair blynedd i hyrwyddo Cymru yn seiliedig ar gyfres o themâu blynyddol sef antur, Chwedl a’r Môr rhwng 2016 a 2018. Roedd y thema Chwedlau yn gyfle i Gymru’n dathlu ei
gorffennol, ei phresennol, a’i dyfodol anhygoel, gydag atyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau mewn lleoliadau chwedlonol Rhyfeddod natuRiol BoRth.ar draws Cymru.

Yr uchelgais hirdymor o wneud hyn yw creu brand cryfach a mwy pendant ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, cyfle i ganolbwyntio ar fuddsoddi ac arloesi ym maes twristiaeth a helpu i gynyddu nifer a gwerth yr ymweliadau â Chymru bob blwyddyn.

Y chwedl fwyaf adnabyddus o bosib yw Cantre’r Gwaelod – gwlad a foddwyd gan y môr mewn chwedloniaeth Gymreig. dywedid ei bod wedi ei lleoli yn yr hyn sydd bellach yn Fae Ceredigion i’r ochr orllewinol o Gymru rhwng Ynys dewi yn y de Orllewin ac Ynys Enlli yn y Gogledd Orllewin.

Yn ôl y sôn roedd Cantre’r Gwaelod yn wlad gyfoethog a hynod ffrwythlon, gymaint felly nes yr ystyriwyd un erw yma yn werth pedair erw yn unrhyw le arall. Y broblem oedd bod y tir yn dibynnu ar forglawdd i’w amddiffyn rhag y môr. Roedd llifddorau yn y morglawdd a gâi eu hagor ar lanw isel i ddraenio dŵr o’r tir, a’u cau wrth i’r llanw godi. Roedd y llifddorau yng ngofal Seithenyn.

Meddwodd Seithenyn adeg gwledd un noson, ac esgeulusodd gau’r llifddorau. O ganlyniad gorchuddiwyd Cantre’r Gwaelod gan y môr a boddwyd pawb o’r trigolion. Yn ôl traddodiad llafar, o wrando’n ofalus iawn ar ddiwrnod tawel, gellir clywed sŵn y clychau’n canu o hyd – y clychau a genid i rybuddio pobl fod y llanw’n dod i mewn a bod angen cau’r llifddorau.

Felly, dyma ni bant ar dramp yng nghanol gwyliau’r Pasg i chwilio am y rhyfeddod naturiol, ond roedd rhaid astudio amserlen y llanw er mwyn amseru hyn yn berffaith! Felly gyda’r llanw allan, dyma ni’n wynebu golygfa go arbennig. Wrth ymlwybro rhwng coedwig danddwr y Borth, ac ynghanol y naws hudolus, taniwyd y dychymyg a hawdd iawn byddai credu y gall y chwedl adnabyddus yma fod wedi digwydd canrifoedd maith yn ôl.

Mae’r olygfa’n ymestyn oddeutu dwy neu dair milltir ar hyd yr arfordir rhwng Ynyslas a’r Borth, ac fe saif tua hanner ffordd rhwng penllanw a distyll. Yr hyn sy’n ei gwneud yn gyfrinach yw’r ffaith ei bod fel arfer wedi’i

chladdu dan dywod, ac ni ddaw i’r amlwg ond mewn rhai amgylchiadau penodol.
ar ôl gwrando’n astud, yn anffodus ni chlywsom glychau eglwys Cantre’r Gwaelod yn canu o Ynyslas. Mae yna gryn ddadlau ynghylch yr amser gorau i’w clywed. Mae rhai’n mynnu mai noswaith dawel sydd orau, eraill yn cynnig bore Sul, ac eraill yn dweud bod y

clychau’n canu’n uwch pan fo rhywun mewn perygl.
i gloi, rwyf am gyfeirio at eiriau adnabyddus y bardd a’r llenor Cymraeg John James

Williams, a oedd yn ysgrifennu fel J J Williams, geiriau sy’n crynhoi’r chwedl yn berffaith:

gan angharad evans, Golygydd y Gymraeg

o dan y môr â’i donnau Mae llawer dinas dlos, fu’n gwrando ar y clychau yn canu gyda’r nos;

trwy ofer esgeulustod
y gwyliwr ar y twr,
aeth clychau Cantre’r Gwaelod Ô’r golwg dan y dŵr.

This story is available in English on the FUW website: “Stepping into a world of make-believe.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.