Cerddwyr UAC yn codi £2,000 ar gyfer elusen

177 MILLTIR, 9 diwrnod a £2,000 – dyna i chi her ar gyfer tîm UAC a gerddodd llwybr Clawdd Offa yn ddiweddar er budd Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. Bu’r criw o Gaernarfon, yn cynnwys swyddog gweithredol sirol, cangen Caernarfon o UAC Gwynedd Watkin, Gwilym Evans o Gelli, Prenteg ger Tremadog ac Arfon Hughes o Baich-y-Bȋg, Cwm Ystradllyn, Garndolbenmaen yn cerdded yr holl lwybr gan ddechrau ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 23 ac yn cwblhau’r her mewn naw diwrnod. Ymunodd Richard Parry, Gwindy, Llecheiddior, Garndolbenmaen gyda nhw ar y diwrnod cyntaf. Gorffennwyd y daith lafurus o ddringo llethrau serth, bothellau a chyrff tost gan y grŵp cyfan ar ddydd Sul Gorffennaf 31, a oedd hefyd yn cynnwys, swyddog gweithredol sirol, cangen Meirionnydd o UAC Huw Jones ac swyddog gweithredol sirol, cangen Trefaldwyn o UAC Emyr Wyn Davies.

DIWEDD Y DAITH: O’r chwith, aelod UAC Richard Parry; llywydd UAC Glyn Roberts; Gwynedd Watkin; Huw Jones; aelod UAC Arfon Hughes; aelod UAC Gwilym Evans; Emyr Wyn Davies a chynrychiolydd Gwent ar gyngor yr undeb Elwyn Probert.

DIWEDD Y DAITH: O’r chwith, aelod UAC Richard Parry; llywydd UAC Glyn Roberts; Gwynedd Watkin; Huw Jones; aelod UAC Arfon Hughes; aelod UAC Gwilym Evans; Emyr Wyn Davies a chynrychiolydd Gwent ar gyngor yr undeb Elwyn Probert.

Dechreuodd huw ac emyr ar y daith ar ddydd Gwener Mehefin 17 ym Mhrestatyn gan gwblhau 52 milltir yn y cymal cyntaf ac yna ail gychwyn ar y llwybr cenedlaethol, sy’n dyddio nôl i’r wythfed ganrif, ar ddydd Llun Gorffennaf 25, ac yna cerdded gweddill y daith gyda’r criw o Gaernarfon. Cwblhaodd y ddau’r daith mewn 10 diwrnod a hanner. Agorwyd y llwybr yn haf 1971, ac mae’n cysylltu Clogwyni Sedbury ger Cas-gwent ar lannau Aber Afon hafren gyda thref glan môr Prestatyn ar lannau môr Iwerddon. Mae’r llwybr yn croesi wyth sir wahanol ac yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr dros 20 o weithiau. Mae’r llwybr Clawdd Offa’n chwilota drwy’r Gororau tawel ac yn mynd trwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gymal godidog hatterrall Ridge. hefyd, mae’n cysylltu tair Ardal o harddwch Naturiol eithriadol sef Dyffryn Gwy, Bryniau Sir Amwythig a Bryniau Clwyd/Dyffryn Dyfrdwy. Arweinydd tîm Caernarfon ar y daith oedd Gwynedd Watkin sydd wedi cwblhau Llwybr yr Inca ym Mheriw llynedd. “Rwyf am ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi ein hymgais ar hyd y daith. Ni fedrai wedi bod yn bosib heb eich cymorth,” dywedodd. “Roedd yn dipyn o her, a gair bach o gyngor i unrhyw un sy’n meddwl dilyn ôl ein traed, gwnewch yn siŵr bod digon o sanau cerdded gyda chi. Mae’n hanfodol ar gyfer taith gerdded mor llafurus. Mae’n bosib bod y 177 milltir yma yn anoddach na Llwybr yr Inca ym Mheriw llynedd.” Dymuna UAC ddiolch yn arbennig i’r bobl hynny sydd wedi cefnogi’r cerddwyr yn eu hymgais, ni fyddai’r daith yma wedi bod mor llwyddiannus heb eu help nhw. Cynigwyd lloches dros nos mewn carafanau a brecwastau gan lywydd cangen Sir Ddinbych o UAC Tim a’i wraig Fiona Faire ym Mhlas Bedw, Pentrecelyn, Ruthun; Tom a Lynne hughes a’r teulu, Caeau Gwynion, Y Waun; gweithredwr cyfrif gwasanaethau yswiriant FUW, Gogledd Sir Drefaldwyn, Kay Williams, Tŷ Nant, Sarn Wen, Four Crosses, Llanymynech a’i phartner Dai; cadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC Mark a helen Williams o Pen y Derw, Ffordun, Y Trallwng; Ivor a Ros Price o Travley, Llowes, Y Gelli; Idris a Gwen Jones o Wyliau Fferm Pen-y-Dre, Llanfihangel Crucornau, Y Fenni a Chris a Jill Lewis o Trevine, Llandeilo Gresynni, Y Fenni. “hoffwn ddiolch hefyd i Justin, helen ac Ieuan Rees o’r George & Dragon Inn, Trefyclo a gynigodd gwely a brecwast am ddim i’r pump ohonom ar y nos Fercher, ac roedd yna frecwast bendigedig wedi cael ei baratoi ar ein cyfer ar y bore dydd Iau,” ychwanegodd Gwynedd. Bu Kath Shaw, Blaenhow, Llandeilo Graban, Llanfair-ym-muallt sy’n llywydd sir Brycheiniog a Maesyfed ac yn gynorthwyydd gweinyddol rhan amser yn allweddol wrth gynnig cludo’r bagiau. hefyd bu elwyn Probert o Fferm Pant, Llanfihangel Ystum Llewern, Trefynwy yn hynod o amyneddgar wrth gwrdd â’r tîm a’i gyrru nhw yn nol ac ymlaen o lwybr Clawdd Offa o’r wahanol leoliadau ar gyfer treulio’r nos. Mae huw ac emyr am ddiolch hefyd i Richard Joyce, Fferm Woodville, Woodbrook, Trefyclo a John ac Alwenna Price o Glawddnewydd, Rhuthun am eu cymorth caredig. Wrth son am ei brofiad, dywedodd huw Jones: “Fy hoff ddarn o’r her yma oedd cerdded dros Foel Fammau a dros Y Mynyddoedd Duon, o’r Gelli i Bandy. Roedd y golygfeydd yn hyfryd ac roeddem yn hynod o lwcus gyda’r tywydd. “Y cyngor fuaswn i yn ei roi i unrhyw un sy’n bwriadu cerdded y llwybr yw cymryd mwy o amser i’w gerdded. ein her ni oedd cerdded y llwybr mor gloi a phosib ar gyfer yr elusen, ond petai amser gyda chi, i eistedd lawr a mwynhau’r golygfeydd godidog a’r lleoedd o ddiddordeb hanesyddol, a chael sgwrs gyda’r bobl chi’n cwrdd ar hyd y daith.” “Mae hon wedi bod yn her wych ac yn werth yr ymdrech,” dywedodd emyr Wyn Davies. “Oeddech chi’n gwybod petai chi’n cerdded yr holl lwybr o’r gogledd i’r de, mae oddeutu 28,000 troedfedd i’w ddringo, sy’n cyfateb i uchder everest? “Fy hoff ddarn i oedd cerdded o Drefyclo i Geintun. Golygfeydd hyfryd ar ddiwrnod heulog braf. Roedd yr holl daith yn brofiad bythgofiadwy – i weld Cymru ar ei hyd, ac yn gwybod bod yr holl ddiwrnodau poenus yn werth chweil ar gyfer yr elusen,” ychwanegodd. Mae’r pump am ddiolch i bawb sydd eisoes wedi eu noddi nhw’n hael, ac mae modd noddi’r tîm am eu hymdrechion hyd nes diwedd mis Medi wrth anfon siec i’r swyddfa sir briodol neu drwy noddi ar-lein drwy gyfrwng JustGiving – <http://www.justgiving.com/FUW-UACtaithClawddOffasDyketrek> Dywedodd Paul Davies, Pennaeth Codi Arian Cymru a Gogledd Iwerddon Sefydliad y Galon Prydeinig: “Diolch i gefnogaeth a haelioni sefydliadau fel UAC, mae Sefydliad y Galon Prydeinig yn medru brwydro dros bob calon yng Nghymru. “Yn ddyddiol, mae 375,000 o bobl yng Nghymru yn ymladd yn erbyn clefyd y galon a phroblemau tebyg arall. Mae cefnogaeth UAC yn galluogi Sefydliad y Galon Prydeinig i fuddsoddi mewn ymchwil meddygol i achub bywyd yng Nghymru, ac o wneud hyn, mae modd newid bywyd miliynau o bobl ar draws y DU ac yn fyd-eang. “Ni fyddai hyn yn bosib heb gymorth UAC ac eraill. Mae popeth rydym yn ei wneud yn lleihau’r difrod mae clefyd y galon yn ei achosi yn ein cymunedau.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.