CORNEL CLECS

Cofio cawr o ddyn oedd ar dân dros Gymru a’r Gymraeg
gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

SUt ddewch chi i wybod am glecs yr ardal? Babi newydd? Rhywun wedi priodi? Hanes yr ysgol gynradd? Mae’n go bosib yn y byd modern sydd ohoni heddiw, eich bod wedi yn dod i wybod y clecs i gyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol. ond sut oedd pethau cyn i’r dechnoleg ddod mewn i’n bywydau? Roeddem yn troi at y papur bro wrth gwrs! Mae gan bapur bro le yn ein cartrefi o hyd, ac mae yna restr faith o bapurau ymhob cwr o Gymru, yn ymestyn o ‘Yr Arwydd’, papur cylch Mynydd Bodafon yn Ynys Môn i ‘Clochdar’ yng Nghwm Cynon, Aberdâr a Rhondda Cynon taf. ond er y pellter daearyddol sydd rhwng yr holl bapurau yma, mae un peth yn gyffredin rhwng pob un. Y ffaith bod y papur bro yn bapur newydd cymunedol lleol a gynhyrchir yn fisol gan wirfoddolwyr, sy’n ohebwyr, golygyddion ac yn ddosbarthwyr. Mae’r papur bro yn linyn pwysig yng nghefn gwlad – yn bwysig i’r iaith a’r diwylliant. Mae’n bapur uniaith Gymraeg sy’n cydlynu’r ysgolion, clybiau ffermwyr ifanc, Merched y Wawr ac ati, rhein oll yn cadw gwaed i lifo trwy wythiennau cefn gwlad. trefnir ambell i ddigwyddiad cymdeithasol er mwyn rhoi hwb i goffrau’r papur bro, hyn hefyd yn bwysig o ran yr ochr gymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru. Cafodd y papur bro cyntaf, ‘Y Dinesydd’, a sefydlwyd yng Nghaerdydd, ei gyhoeddi gyntaf ym mis Ebrill 1973 gan Dr Meredydd Evans. Erbyn heddiw, mae’r papur yn gwasanaethu’r brifddinas ei hun a hefyd Y Barri, Penarth, Y Bontfaen a maestrefi gogleddol y ddinas a hynny drwy’r capeli a’r ysgolion Cymraeg. Sbardun yr erthygl mis yma oedd gweld copi o’r gyfrol ‘Merêd: Dyn ar Dân’ yn glanio ar fy nesg ychydig o wythnosau nôl. Dyma gychwyn meddwl am gyfraniad Merêd fel casglwr, golygydd, hanesydd, canwr gwerin Cymraeg ac ymgyrchydd iaith. Collodd Cymru nifer o’i hoelion wyth yn 2015, ac yn eu plith, Merêd yn y mis Chwefror. Hyfryd yw gweld y gyfrol hon yn rhoi cyfle i awduron o bob oed rannu eu profiadau nhw o’r dyn oedd ‘ar dân dros Gymru a’r Gymraeg’. Ar nodyn personol, cefais y pleser o fod yng nghwmni Merêd lawer tro a hynny, diolch i bapur bro ‘Y Ddolen’ sy’n gwasanaethu ardaloedd sy’n ymestyn o Gwmystwyth i Lanrystud yng Ngheredigion. Ar ôl symud i fyw i Gwmystwyth yng nghanol yr wythdegau, mi daflodd Merêd, a’i wraig Phyllis eu holl egni i mewn i weithgarwch y gymdeithas, gyda’r capel a Chymdeithas y Cwm yn hawlio lle blaenllaw yng nghalonnau’r ddau. Daeth Merêd yn rhan o waith golygyddol ‘Y Ddolen’, ac, o dipyn i beth daeth yn lywydd ar y papur, a thrwy ei waith yno, y ddes i i’w adnabod. Roedd yn torchi llewys bob mis i gael y papur allan i’r gymuned, ac ni fyddai gwaith y mis yn gorffen bryd hynny! Roedd yn mynnu mynd o amgylch Cwmystwyth bob mis gyda Brython Davies, un o hoelion wyth arall y Cwm i ddosbarthu copïau o’r Ddolen. Gorchwyl fu’n ei wneud hyd at bron iawn y diwedd. Er bod Merêd yn ffigwr cenedlaethol a rhyngwladol, mi ddes i adnabod dyn y filltir sgwar, y dyn agos atoch. o un mis i’r llall, y cyfarchiad cyntaf fyddwn i’n glywed wrth Merêd oedd ‘Sut ma’r teulu bach na gen ti?’, a hynny, fydd i mi yn aros yn y cof am Merêd. Y ddawn o wneud i bawb deimlo’n bwysig yn ei gwmni, gan roi ei sylw’n gyfan gwbl i bwy bynnag fyddai’n sgwrsio gyda. Anrhydedd pur yw cael dweud fy mod wedi cael y cyfle i ddod i adnabod y cawr o ddyn oedd ar dân dros Gymru a’r Gymraeg. “os mêts, mêts!”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.