Cyfle g wleidyddo l g wych Cai

ganAngharad Evans, Golygydd y Gymraeg

1 0 DIWRNOD! Mae’n Fawrth 1 9 a ninnau 1 0 diwrnod i ffwrdd o’r diwrnod mawr hanesyddol, Mawrth 2 9 2 0 1 9 ‐ diwrnod ‘gadael’ yr UE. Pwy a ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn i chi ddarllen hwn! Beth bynnag fo’ch barn am y sefyllfa wleidyddol bresennol, mae’n dda gweld bod y genhedlaeth nesaf yn awchu i fod yn rhan o’r cnwd newydd o wleidyddion, a hynny diolch i Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gorff etholedig o bobl ifanc rhwng 1 1 a 1 8 oed. Safodd dros 4 6 0 o ymgeiswyr i gael eu hethol, ac fe’u dewiswyd gan eu cyfoedion mewn etholiad ar‐lein. O’r 6 0 aelod a etholwyd, mae 4 0 yn cynrychioli etholaethau Cymru. Cafodd 2 0 o ymgeiswyr eraill eu hethol gan sefydliadau partner i adlewyrchu cyfansoddiad Cymru a sicrhau y caiff grwpiau amrywiol o bobl ifanc eu cynrychioli.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dymuno:
• Grymuso pobl ifanc Cymru i nodi, cynyddu ymwybyddiaeth, a thrafod y materion sydd o bwys iddynt.
• Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli eu barn, a gweithredu ar y materion sy’n bwysig iddynt.
• Gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru a rhannu’r hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’r materion maent wedi’u codi.

Ar ôl cael eu hethol ym mis Tachwedd 2 0 1 8 , cyfarfu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn eu rhanbarthau am y tro cyntaf ym mis Ionawr, a chyfarfod fel senedd lawn yn ystod penwythnos preswyl ym Mae Caerdydd ddiwedd mis Chwefror. Yn ystod y penwythnos preswyl, cynhaliwyd dadl yn siambr y Senedd, pryd y siaradodd pob aelod dros fater penodol i bleidleisio arno.

Aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw Cai Phillips, mab i aelod ffyddlon yr undeb yn Sir Gaerfyrddin a bu’n siarad ynglŷn â Ffermio a Chyfleoedd Gwledig. Cafodd Cornel Clecs gyfle i ofyn i Cai am ei brofiad hyd yn hyn gyda’r Senedd:

Su t dechreu odd dy ddiddordeb mewngwleidyddiaeth?

Mae gan Mamgu ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae bob tro yn aros lan ar noson etholiad felly cefais fy ngeni mewn i wleidyddiaeth. Dechreuodd fy mrwdfrydedd nôl yn 2 0 1 6 pan oedd y Refferendwm yr UE yn cael ei gynnal. Roeddwn wedi cyffroi gyda’r

ymgyrchu a barn pobl yn cael eu dweud, a theimlais yn rhwystredig fel person ifanc bod ni ddim yn cael lleisio barn. Wedyn nôl ym mis Medi blwyddyn ddiwethaf codwyd y cyfle i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid a neidiais ar y cyfle, oherwydd roeddwn eisiau bod yn rhan o’r newid sydd angen; i roi llais i bobl ifanc fy ardal.

Su t brofiad oed d bod ynSiambr y Sened d ?

Roedd yn brofiad anhygoel i fod yn eistedd,
dadlau, gwrando a phleidleisio mewn lle mor
ddylanwadol â’r Senedd. Roeddwn i wedi
areithio am 2 munud ar ffermio a chyfleoedd
gwledig. Roeddwn yn sôn am sut rydym ni fel
ffermwyr yn “crynu yn ein Wellingtons”
oherwydd ansicrwydd Brexit. Ac ar y mater
pwysig o gysylltiad band eang cyflym sy’n bwysig ar gyfer pobl ifanc a busnesau mewn ardaloedd gwledig. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i fod yn gwrando ar areithiau pwerus, personol a phroffesiynol y grŵp cymhwysol ac ysbrydoledig o bobl ifanc. Y blaenoriaethau dewisom fel aelodau i weithio arnyn nhw yn ystod y tymor o ddwy flynedd oedd:

1 . Cymorth Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.
2 . Sbwriel a gwastraff plastig.
3 . Sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.
Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio ar y materion holl bwysig yma ac i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo heddiw ac i’r dyfodol.

Mae gweld brwdfrydedd ac egni Cai yn ysbrydoliaeth a dymunwn yn dda iddo fe yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Cai Phillips, cofiwch yr enw, mae dyfodol disglair o’i flaen!

This article is available in English on the FUW website: “Cai’s great politicalopportunity.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.