gan Tegwen Morris, cyfarwyddwraig cenedlaethol, Merched y Wawr
Mae’r gair “cyfle” yn golygu cymaint, cyfle i berfformio, i greu, i arallgyfeirio, i fod yn rhan o gymdeithas neu yn wir cyfle i ddarganfod. Credaf fod creadigrwydd merched Cymru yn wych, yn ysbrydoledig ac yn cynnig cyfleoedd i arddangos ffenestr siop i weddill y byd.
Ble yn well na Ffair aeaf, Ffair Nadolig neu’r wledd a baratoir ar ddydd Nadolig i roi cyfle i ferched ddangos eu sgiliau creadigol ac yn wir i roi cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf ddysgu a throsglwyddo sgiliau.
Mae bywyd yn brysur, yn llawn eithriadol o sialensiau dyddiol, ond mae cael y cyfle i ddangos cyfeillgarwch at ein gilydd, i gyfarch eraill gyda gwên ac i gael ychydig o hwyl yn bwysig iawn.
Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y Ffair aeaf, yn arddangos eu doniau creadigol, gobeithio fod pawb a wnaeth fynychu wedi cael eu hysbrydoli i wneud rhywbeth newydd neu yn wir i flasu cynnyrch newydd.
Cofiwch fod cefnogi ein gilydd trwy ein cyfeillgarwch yn bwysig iawn, ceisiwn feddwl am y rhai o fewn ein cymunedau cefn gwlad a fedr wneud ag ychydig o gymorth ar adeg mor dymhestlog o ran Brecsit a’n bywydau.
Parhewch i wenu a mwynhau’r profiad o fod yn rhan o gymuned sydd mor unigryw ag sy’n cynnig cymaint o gyfleoedd.
Opportunity is such an important word, opportunity to perform, create, diversify and to be part of a community. Ladies have the opportunity to showcase their creative skills and that was apparent at the Winter Fair.