MAE’R Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi penodi rheolwr ymgysylltu’r cyfrifiad/cynghorydd cymunedol i gefnogi trigolion Cymru a helpu i wneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant.
Bydd rheolwyr ymgysylltu’r cyfrifiad/cynghorydd cymunedol, yn helpu
sefydliadau, elusennau a grwpiau ffydd ac arweinwyr cymunedol yn y ddinas/rhanbarth i godi ymwybyddiaeth o’r cyfrifiad a pha mor bwysig yw sicrhau bod trigolion yn cymryd rhan.
Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd yw’r cyfrifiad ac mae’n cynnig ciplun o gartrefi yng Nghymru a Lloegr sy’n helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd gofyn i bawb ledled Cymru a Lloegr gymryd rhan a bydd y wybodaeth y bydd pobl yn ei rhannu yn penderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u hariannu. Yn y pen draw, bydd yn sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd, lleoedd mewn ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill.
Dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Cyfrifiad: “Mae rheolwyr ymgysylltu’r cyfrifiad a’r cynghorwyr cymunedol rydym wedi’u penodi yn chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau bod pawb yn deall pam bod y cyfrifiad yn bwysig a gwneud yn siŵr bod pob cartref ledled Cymru a Lloegr yn gwybod pam mae’n bwysig cymryd rhan a sut i gael yr help sydd ei angen arnynt.”
Am y tro cyntaf, bydd y cyfrifiad yn cael ei gynnal ar lein yn bennaf, gan ei gwneud hi’n haws i’r rhan fwyaf o bobl lenwi’r holiadur ar unrhyw ddyfais ‐ boed yn gyfrifiadur, yn ffôn symudol neu’n llechen. Bydd canolfannau cymorth lleol y cyfrifiad yn cynnig help, a bydd holiaduron papur ar gael i’r bobl hynny y bydd eu hangen arnynt. Bydd holl staff y cyfrifiad yn gweithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar COVID‐1 9 .
Bydd Cyfrifiad 2 0 2 1 yn cynnwys cwestiwn newydd am gyn‐filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, ynghyd â chwestiynau gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd i’r rhai sy’n 1 6 oed a throsodd.
Caiff y cyfrifiad ei gynnal ar Mawrth 2 1 2 0 2 1 . Er y bydd canlyniadau ar gael y flwyddyn ganlynol, bydd yr holl gofnodion personol yn cael eu cadw dan glo am 1 0 0 mlynedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk
This article is in Eng lish on the FUW website ‐ News ‐ Y Tir News: “Communities throug hout Wales will g et extra support as the 2021 Census approaches.”
I gael gafael ar eich rheolwr ymgysylltu’r cyfrifiad/cynghorydd cymunedol lleol, defnyddiwch y
manylion cyswllt isod:
Rhondda a Merthyr Tudful ‐ Darren Alderman ‐ darren.alderman7 9 @field.census.gov.uk
Caerdydd ‐ Ena Lloyd a Phillip Burkhard ‐ ena.lloyd1 6 @field.census.gov.uk / philip.burkhard7 0 @field.census.gov.uk
Casnewydd, Sir Fynwy a Torfaen ‐ Ellie Barker ‐ helen.barker8 5 @field.census.gov.uk
Abertawe ‐ Sharon Jones ‐ sharon.jones7 5 @field.census.gov.uk
Ceredigion a Powys ‐ Huw Davies ‐ gareth.davies8 2 @field.census.gov.uk
Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg ‐ Michael Mulcahy ‐
michael.mulcahy3 0 @field.census.gov.uk
Sir Gar a Sir Benfro ‐ Nia Taylor ‐ nia.taylor1 7 @field.census.gov.uk
Gwynedd, Ynys Môn a Conwy ‐ Darren Thomas ‐ darren.thomas0 6 @field.census.gov.uk
Caerffilli a Blaenau Gwent ‐ Alan Cotterill ‐ alan.cotterill8 8 @field.census.gov.uk
Castell Nedd a Phort Talbot ‐ Katie Powis ‐ katie.powis0 1 @field.census.gov.uk
Sir Dinbych, Wrecsam a Sir Y Fflint ‐ Denzil Hughes ‐ denzil.hughes1 2 @field.census.gov.uk