Dilyn ôl traed y Porthmyn

Prin fod neb bellach yn cofio’r helbul a achoswyd gan y ‘Beast from the East’ a storm Emma ar ddechrau mis Mawrth wrth i ni fwynhau’r Gŵyl Banc Cyntaf Mai poethaf a gofnodwyd erioed, yn ôl gwybodusion y swyddfa dywydd. Pawb yn croesawu ychydig o dywydd sych a chynnes ac arwyddion o’r diwedd bod y borfa’n tyfu a rhyw fath o normalrwydd yn dychwelyd i’r tir.

Pen y daith i ni ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn oedd mart Llanybydder, ac wrth lwytho’r trelar ben bore, meddyliais pa mor hwylus yw cludo anifeiliaid o un man i’r llall heb unrhyw drafferth. Ond nid felly oedd pethau blynyddoedd yn ôl.

Heb drelar na lori, sut oedd modd mynd a anifeiliaid i’r farchnad? Cyfrifoldeb person o’r enw Porthmon oedd sicrhau bod anifeiliaid yn cyrraedd pen eu taith i gael eu gwerthu. roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru, yn enwedig yn y 18 ganrif. Gwartheg oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai defaid a hyd yn oed gwyddau hefyd yn cael eu gyrru.

Mae yna gofnod o borthmyn yn gyrru gwartheg o Gymru i Loegr i’w gwerthu mor gynnar â’r 14 ganrif, ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y 18 ganrif. Llundain oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i’r porthmyn Cymreig, a datblygodd Smithfield ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.

Byddai’r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu’r anifeiliaid, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu rhoi i’r porthmyn i’w trosglwyddo. Ond roedd hyn yn gofyn am drwbl gan ladron pen-ffordd, a dyma gychwyn y banciau. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri gan borthmon o’r enw David Jones ym 1799. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu ym 1909. Sefydlwyd Banc y Ddafad Ddu gan borthmyn defaid Tregaron ac Aberystwyth yn gynnar yn y 19 ganrif.

Diflannodd y porthmyn yn raddol yn ystod y 19 ganrif, oherwydd datblygiad y rheilffyrdd
yn bennaf. Yr unig olion bellach yw ffyrdd y porthmyn, yn enwedig ar dir uchel mewn gwahanol rannau o Gymru.

roedd rhwydwaith o lwybrau yn cael eu defnyddio gan y porthmyn yng nghymru i fynd a gwartheg i’r farchnad. Er mwyn osgoi talu tollau ar y ffyrdd tyrpeg byddai’r porthmyn yn dilyn hen lwybrau dros y wlad.

roedd y gwartheg yn cael eu pedoli cyn cychwyn a byddai rhaid eu pedoli eto sawl gwaith cyn diwedd y daith. Tua ugain milltir oedd y pellter arferol mewn diwrnod i’r gyrroedd.

roedd un o’r llwybrau yn dechrau ym Môn. Byddai’r gwartheg a gasglwyd o’r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i Borthaethwy, a chyn codi’r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio’r Fenai gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt.

Yng nghyffiniau Bangor deuai porthmyn eraill â gwartheg o Arfon a rhannau o Lŷn. Aent a’r eidionnau i fyny mewn gyrroedd mawr trwy nant Ffrancon (ar yr hen lôn sydd yno ar ochr orllewinol y cwm o hyd), i Gapel Curig, ac yna ymlaen i Lanrwst, dros Fynydd Hiraethog i Abergele (canolfan bwysig i’r porthmyn), i fyny Dyffryn Clwyd ac yna i Landegla. Mae Llandegla yn bentref bach tawel heddiw, ond bu’n fan cyfarfod pwysig ar lwybrau porthmyn y gogledd. O Landegla gyrrid y gwartheg naill ai i Langollen (lle pwysig arall lle ymunai gyrroedd o Feirion a’r cylch) neu i Wrecsam, ac oddi yno i Loegr

ac i lawr am Lundain, gan amlaf. Yng ngheredigion, roedd llwybrau o Dregaron a Llanddewi Brefi dros y mynydd i Abergwesyn. roedd yna lwybrau tebyg o bob rhan o orllewin Cymru, gyda’r rhai pwysicaf yn cychwyn o Feirionnydd a Sir Gâr.

Felly tro nesaf y byddwch yn mynd i’r mart yn y 4×4 a’r trelar, meddyliwch am y dasg lafurus oedd yn wynebu’r porthmyn er mwyn sicrhau bod modd prynu a gwerthu – yw’r byd yn fwy caredig i ni heddiw?

This article is available in English on the FUW website: “Following in the footsteps of the drovers.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.