Disgwyl yn eiddgar at glywed y gwcw’n canu

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Y GWCW.

Y GWCW.

“Fy amser i ganu yw Ebrill a Mai A hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai” RWy ’ n cario darn o arian yn f y mho ced drwy’r amser yn ddiweddar. Pam y clywaf i chi’n holi? Mae’r rheswm yn syml! Rwyf yn disgwyl yn eiddgar at glywed y gwcw’n canu! yn ôl traddodiad, os bydd arian yn eich poced pan fyddwch yn clywed y gwcw’n canu am y tro cyntaf y tymor hwnnw, mi fy ddwch yn gyfoethog am weddill y flwyddyn! Darllen erthygl fach ysgafn y n y papu r newydd lleol sydd wedi fy ysgogi i fynd ar drywydd y gwcw, neu ’ r gog. Mae’n debyg bod yr un gwcw, a elwir erbyn hyn yn David, wedi dychw e lyd nôl i Dregaron yng ngheredigion bob gwanwyn ers pedair blynedd. Tipyn o gamp i aderyn mor fach! Mae’n bosib profi bod hyn wedi digwydd gan fod David wedi cael ei dagio yn nhregaron ym mis Mai 2012. y B r it is h T r us t for Ornithology sy’n gyfrifol am y gwaith o ddilyn trywydd y cwcwod ac i geisio deall pam b od po blogaeth y DU wedi diflannu yn ystod y r ugai n m ly nedd diwethaf. O gyfeirio nôl at fy erthygl yn y Ti r mis diwethaf, a’r ffaith bod gwanwyn bellach wedi gwawrio ar nom, yn ôl ein llên gwerin, cân y gwcw sy’n cyhoe ddi dyfodiad y gwanwyn. Felly, i nifer ohonom, nid yw’r gwanwyn y n dechrau ‘n ‘ swydd ogol’ hyd nes bydd y gwcw’n cyhoe ddi hyn ny, a hynny, yn ôl pob son, ar yr union ddiwrnod bob blwyddyn. Er nad wyf yn bersonol wed i c lywed y gwcw’n canu eleni eto, rwy’n gwybod bod yna rai wedi ei chlywed hi’n canu ganol mis Ebrill yn ardal y Myn ydd Bach ger Trefenter yng ngheredigion. P an glywc h ch i’r gwcw’n canu, wyddoch c hi mae dim ond y gwryw sy’n canu’r gân gyfarwydd?! Golygfa gyffredin tuag at ddiwedd y gwanwyn yw gweld poeri’r gwcw ar wrychoedd. Ond wyddoch chi nad y gwcw sy’n gyfrifol am y poeri yma?! Trychfilyn bach o’r enw Llyffant y Gwair sy’n gyfrifol am y poer yma ac felly nid y gwcw sydd ar fai o gwbl! Cysylltiad arall rhwng natur a’r gwcw yw Clychau’r Gog sy’n rhannu’r un enw gan fod nhw’n blodeuo ar yr un adeg. Mae’r gwcw’n gaeafu draw yn Affrica ac yn cyrraedd Cymru tua canol mis Ebrill. Un o’r ffeithiau enwocaf am y gwcw yw ei bod hi’n dodwy ei hwyau yn nyth math arall o aderyn, a hynny fel arfer yn nyth y rhywogaeth fagodd y gwcw ei hun sef Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun neu Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw “Gwas y Gog” ac mae hyn yn ddigon gwir o ystyried bod aderyn arall yn mynd i’r drafferth i adeiladu nyth a’r gwcw’n cymryd mantais o hyn! Mae wy’r gwcw’n debyg iawn i wy’r aderyn arall. Mewn amser, ar ôl cael gwared â’r wyau eraill o’r nyth, mae cyw’r gwcw’n taflu’r cywion eraill o’r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd. Wel! Mawr obeithiaf, erbyn y byddwch yn darllen hwn, y byddaf wedi clywed y gwcw, ac y byddaf yn gyfoethog tu hwnt am weddill y flwyddyn!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.