Eco-wladychiaeth a’n tir

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ffermwyr ac eraill yng nghymru wedi dechrau defnyddio’r term ‘eco- wladychiaeth’ i ddisgrifio agweddau rhai unigolion ac elusennau tuag at y tir yr ydym wedi’i ffermio ers miloedd o flynyddoedd, yn enwedig wrth i’r mudiad ailwylltio dyfu mewn poblogrwydd a dylanwad, a phan mae pobl yn wirioneddol ddig, maent weithiau hyd yn oed yn defnyddio’r term ‘eco- ffasgaidd’.

Ar y 3ydd o Fehefin, cynhaliwyd trafodaeth banel fyw a drefnwyd gan y mudiad
Ieuenctid Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) o’r enw The Eco-Fascist History of Conservation (ar gael i’w wylio ar YouTube), ar y ffyrdd ysgytiol y mae mudiadau cadwraeth yn parhau i drin poblogaethau brodorol mewn sawl rhan o’r byd.

Ymhlith y siaradwyr roedd yr ecolegydd a’r awdur Dr Mordecai Ogada, a siaradodd am gadwraeth yn Kenya o’r 1950au hyd heddiw, a Stephen Corry a Fiore Longo o Survival International, elusen sy’n ymladd dros hawliau pobl frodorol ledled y byd.

Soniodd Ms Longo am deuluoedd yn y Congo yn cael eu bygwth a’u curo gan ddynion arfog, bygythiad ar y fath raddfa yn arwain at y trigolion yn gadael pentrefi, ac un ddynes yn cael ei gorfodi i roi genedigaeth yn y goedwig ar ôl ffoi o’i phentref i ddianc rhag yr erledigaeth.

Mae llawer mwy o straeon torcalonnus o’r ardal yn cael eu cyflwyno mewn adroddiad Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig a ddatgelwyd i’r Guardian yn gynharach eleni, ond yr hyn sy’n syfrdanu llawer yw bod trais, bygwth, llosgi gwersylloedd coedwig a gwaeth yn eu cyflawni yn enw cadwraeth, a bod y gangiau arfog mewn gwirionedd yn ymddwyn fel ‘eco- warchodlu’, a thalwyd amdanynt yn rhannol gan y Gronfa Fyd-eang ar gyfer natur (WWF).

ni allai golygfeydd erchyll o’r fath fod ymhellach o gysur ein cartrefi yng nghymru, ond bydd datganiad a roddwyd i’r Cenhedloedd Unedig gan un o’r bobl yr effeithiwyd arnynt yn dechrau adleisio ychydig o bethau i ni: “Daeth WWF atom i ddweud eu bod nhw’n mynd i wneud parc newydd ac ni fydd gyda ni’r hawl i fynd iddo fwyach. Ond dyna ein coedwig ni ac nid ydym eisiau’r parc hwn.”

A phan wrandewch ar yr hyn a ddywedodd Dr Ogada wrth gynulleidfa’r Gwrthryfel Difodiant am agwedd wladychol cadwraethwyr a chyrff cadwraeth yn Kenya, mae’r darlun yn dechrau edrych yn fwy cyfarwydd: “Gêm o bŵer yw hyn”, meddai. “Pan fyddwch chi’n dod o hyd i bobl sy’n arbenigwyr ar gynhyrchu da byw ar hyn o bryd a’ch bod chi’n tynnu da byw allan o’r sefyllfa, rydych chi’n mynd a’u pŵer nhw ac yn creu dibyniaeth [ar dwristiaeth], sef nod cadwraeth ar hyn o bryd.”

Mae Dr Ogada hefyd yn tynnu sylw at y ffaith “Mae’r argyfwng Coronafirws yr ydym yn mynd drwyddo ar hyn o bryd wedi datgelu’r chwedl bod twristiaeth yn sail ddilys ar gyfer cadwraeth. Nid oes yna unrhyw dwristiaid nawr, ac mae’r cymunedau brodorol sydd wedi cynnal bywoliaeth megis bugeiliaeth neu amaethyddiaeth yn hapus braf, ond mae’r rhai sydd bellach yn rhan o’r microcolonïau hyn a elwid yn warchodfeydd bywyd gwyllt yn dibynnu’n sydyn iawn ar gymorth bwyd.”

Ac i gloi, dywedodd Cyfarwyddwr Rhyngwladol Survival, Stephen Corry: “Mae’n gwaethygu mewn gwirionedd … Ac mae’n frwydr sydd nid yn unig yn

cynnwys carfan o bobl a phobloedd frodorol yn unig. Mae’r sefydliadau cadwraeth mawr eisiau troi 30% o’r byd yn ardaloedd gwarchodedig. Dywedant wnelo hyn â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Mewn gwirionedd bydd yn cael yr effaith hollol i’r gwrthwyneb … Bydd yn drychineb llwyr. Bydd yn golygu troi degau o filiynau o bobl allan o’u cartrefi. Byddai’n dod â newyn eang…

“Mae’r holl leoedd hyn, gan gynnwys y rhai sy’n ymddangos fel y rhai mwyaf gwyllt, mewn gwirionedd yn greadigaethau dynol

a grëwyd dros filoedd o flynyddoedd. Mae gwastadeddau glaswellt Dwyrain Affrica yn ganlyniad miloedd o flynyddoedd o fugeiliaeth gan y bobl leol, felly nid yw’r hyn a welwn fel natur wyllt yn bodoli…

“Rydym yn sôn am arian mawr fan hyn. Pam bod nhw eisiau gwneud hyn? Pam bod nhw eisiau gwthio 30% o’r ardaloedd gwarchodedig hyn? Mae’n ymwneud yn bennaf ag arian, pŵer a rheolaeth ar dir. Gallant werthu cytundebau carbon … edrychwch ar y byrddau sy’n rheoli’r pethau hyn – daw pawb o’r diwydiannau llygrol mawr ac ar y lefel honno nid oes a wnelo o gwbl â chadwraeth.”

“… daw amser pan fydd pobl yn cael digon ac yn dweud, “digon yw digon.”

Yng nghymru, rydym yn mwynhau hawliau, systemau cyfreithiol a breintiau all y mwyafrif o bobl frodorol ledled y byd ond breuddwydio amdanynt, ond mae agweddau mawreddog, diystyriol, gwladychol ac weithiau senoffobig rhai amgylcheddwyr a chyrff amgylcheddol y cyfeirir atynt gan y siaradwyr yn gyfarwydd iawn i ni – ac yn sicr nid oes prinder pobl sydd, er bod nhw’n byw cannoedd neu hyd yn oed filoedd o filltiroedd i ffwrdd, â chynlluniau dwys o ran sut y dylid newid ein bywydau a’n tirweddau yn llwyr i wneud lle i’w fersiwn nhw o gadwraeth a datrys y broblem o newid yn yr hinsawdd.

Wrth feddwl am gymuned yn cyrraedd “amser pan fydd pobl yn cael digon ac yn dweud, “digon yw digon” ac yn dangos y gallwn ni yng nghymru herio a newid y prosiectau hyn, nid oes enghraifft well na’r hyn a ddigwyddodd yn ardal prosiect helaeth O’r Mynydd i’r Môr o gwmpas Pumlumon y llynedd.

Bydd darllenwyr Y Tir yn cofio mai O’r Mynydd i’r Môr oedd cynllun blaenllaw Rewilding Britain a lansiwyd ym mis Hydref 2018, a oedd yn anelu at ailwylltio ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen ym Mhrydain, gan greu ‘ardaloedd craidd’ yn cefnogi “twristiaeth a hamdden effaith isel” a fyddai’n ehangu dros amser (neu fel y disgrifiodd Dr Ogada, ‘microcolonïau’).

Targedodd y prosiect, a oedd hefyd yn anelu at ddylanwadu a newid polisi cymorth Llywodraeth Cymru ar ôl Brexit o blaid ailwylltio, tua 160,000 erw o dir yn Sir Drefaldwyn a Ceredigion, ardal a glustnodwyd gan George Monbiot fel un lle y dylai amgylchedd gwyllt gymryd lle ffermio yn ei lyfr Feral, yn ôl yn 2013 (ers hynny mae Monbiot yn hyrwyddo bwyd sy’n cael ei dyfu mewn labordy er mwyn cymryd lle ffermio).

Felly nid oedd fawr o syndod bod y cais gwreiddiol am gyllid ar gyfer y prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi’i anfon o gyfeiriad cartref George Monbiot yn Rhydychen, yn enw Rewilding Britain, elusen yr oedd yn allweddol wrth ei sefydlu, a’i bartner yn Brif Weithredwr ohono.

Roedd hi’n amlwg iawn i drigolion yr ardal o’r cychwyn cyntaf mae fersiwn o’r cynlluniau eithafol a ddisgrifiwyd yn llyfr Monbiot oedd y prosiect, O’r Mynydd i’r Môr, a phan ddaeth yn amlwg i Owen Pritchard, aelod o gangen UAC Sir Gaernarfon bod y cyllid ar gyfer y prosiect yn deillio o Arcadia – elusen a sefydlwyd gan y biliwnydd Lisbet Rausing, sydd hefyd wedi sefydlu ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol o Ingleby Farms and Forests sy’n cynhyrchu 61,000 o ŵyn a 300-400 tunnell o wlân ar ffermydd yn Seland Newydd ac Awstralia yn flynyddol – daeth y gymuned amaethyddol leol at ei gilydd er mwyn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Yn dilyn cyfarfod yn yr ardal ym mis Gorffennaf y llynedd, a fynychwyd gan fwy na 100 o bobl leol, a sefydlu Cymunedau Oll Pumlumon a’r Ardal (COPA) wedi hynny i wrthwynebu’r cynlluniau, y canlyniad terfynol yw bod Rewilding Britain wedi gadael y prosiect a newidiodd agwedd ac arweinyddiaeth y prosiect yn sylweddol sydd wedi’i groesawu gan y grŵp.

Roedd ymadawiad Rewilding Britain yn fuddugoliaeth fawr i’r gymuned leol, ond gyda’r bartneriaeth bellach yn cynnwys neb llai na’r Gronfa Fyd-eang ar gyfer Natur (WWF), does dim amheuaeth y bydd y grŵp yn parhau i fod yn wyliadwrus.

A pheidiwch ag anghofio, mor bwysig oedd y fuddugoliaeth, ei bod yn dod yn erbyn cefndir o bwysau enfawr a chyson gan unigolion a sefydliadau i newid tirweddau a disodli pobl a gweithgareddau traddodiadol â syniadau trefol o anialwch – pwysau sy’n bodoli yn y DU, yn union fel sydd yn Affrica a rhannau eraill o’r byd.

Nid yw’n gyfrinach chwaith fod yr awydd am gynlluniau o’r fath mor gyffredin yn lefelau uwch llywodraeth â’r lobïwyr amgylcheddol pwerus sy’n eu hannog, a gellir gweld awgrymiadau o’r archwaeth hyn mewn nifer o ddogfennau polisi’r llywodraeth a gyhoeddwyd yng Nghymru a Lloegr.

Mae yna dystiolaeth hyd yn oed o agweddau gwladychol amlwg a ddylai fod wedi marw allan yn y 19eg Ganrif: Mewn neges Drydar yn gynharach eleni yn ymwneud â gweithredoedd pobl leol yn ardal O’r Mynydd i’r Môr, cyfeiriodd aelod o Fwrdd Defra, Ben Goldsmith, at “… carfan fach o droliau yng Nghymru sydd wedi bod yn rhedeg o gwmpas yn swnian at ASau, a Duw a wyr pwy arall, bod gan rywun y beiddgarwch i gwestiynu’r ffordd y maent yn gweld pethau”, a arweiniodd at UAC yn galw am ymddiswyddiad Mr Goldsmith.

Mae grŵp COPA – sy’n mynd ati i hyrwyddo a chefnogi cadwraeth fel rhan, nid yn lle, o dirwedd ffermio – wedi dangos y gallwn ymladd yn ôl yn effeithiol, ac yng Nghymru rydym yn ddigon ffodus i beidio â gorfod gwneud hyn trwy herio lluoedd arfog y telir amdanynt gan elusennau amgylcheddol. Ond mae’n rhaid i’n gwleidyddion a’n grwpiau amgylcheddol ddechrau fod yn ymwybodol o agweddau gwladychol o fewn cylchoedd eu hunain – agweddau sydd ddim yn perthyn i’r gorffennol nac yn nodwedd o brosiectau mewn rhannau pellennig o’r byd yn unig.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.