Felly beth sy’n digwydd o ran y PAC UE nesaf?

gan Glyn Roberts, llywydd UAC

Pan fyddwn yn cwrdd â phobl mewn rhannau eraill o’r DU – yn enwedig yn Llundain – maent yn aml yn synnu bod hi’n gynt i nifer o’n haelodau ni fynd i Weriniaeth Iwerddon nag i dde- ddwyrain Lloegr. nid yw’n syndod felly ein bod ni hefyd yn cadw llygad barcud ar newyddion Gwyddelig – wedi’r cyfan, mae llawer o’r lorïau sy’n teithio trwy ein porthladdoedd yn Sir Benfro ac Ynys Môn yn cario cynnyrch amaethyddol, tra bod gan gwmnïau llaeth a chig gysylltiadau agos â’r Weriniaeth o ran perchnogaeth a masnach. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r prif lif o newyddion a’r wasg amaethyddol yn Iwerddon wedi rhoi sylw i ddyfodol Polisi amaethyddol Cyffredin (CaP) yr UE a’r gyllideb a fydd yn ei gynnal. Efallai y bydd rhai yn gofyn pam mae hyn yn berthnasol i ffermwyr Cymru – wedi’r cyfan, byddwn allan o’r UE a fframwaith y PaC cyn hir? Ond os bydd synnwyr cyffredin yn gorchfygu byddwn yn gallu masnachu’n rhydd gyda’r UE, gan olygu y bydd ein ffermwyr yn cystadlu â ffermwyr Gwyddelig a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd – a bydd y system gymorth yn effeithio’n gryf ar ba mor dda y gallwn gystadlu ym marchnadoedd y DU yn ogystal â marchnadoedd tir mawr Ewrop. Yn y bôn, bydd yn effeithio ar ein prisiau marchnad. Ers y bleidlais Brexit, mae UaC wedi dadlau y dylai’r gweinyddiaethau Cymreig a gweinyddiaethau eraill y DU fonitro datblygiad PaC nesaf yr UE yn ofalus am y rheswm hwn, ac y dylai unrhyw bolisïau ôl-Brexit a ddrafftiwyd yma gymryd y datblygiadau hyn i ystyriaeth. Yn anffodus, ymddengys bod rhai o’r gwleidyddion sy’n cefnogi Ewrop yn mabwysiadu ymagwedd fewnol o ran polisïau amaethyddol y DU, gan awgrymu, pan ddaw hi i’r pen, bod gennym ni feddylfryd cul sy’n methu â deall rhai o’r egwyddorion craidd sy’n sail i bolisïau cyffredin a marchnadoedd sengl. Felly beth sy’n digwydd o ran y PAC UE nesaf? Yn gyntaf, mae’r cynigion ar gyfer cyllideb yr UE o 2021 i 2027 a gyhoeddwyd ddechrau mis Mai yn awgrymu toriad o 5 y cant yng nghyllideb y PaC ar ôl ystyried ymadawiad y DU, gyda’r mwyafrif o hyn yn dod o ostyngiad o 15 y cant yng nghyllid datblygiad gwledig Piler 2. Yn y cyfamser, ar ddechrau mis Mehefin cyhoeddodd y Comisiynydd amaethyddol Phil Hogan, a chyn-weinidog amgylcheddol yr Iwerddon gynigion ar gyfer y PaC nesaf. Yn ei hanfod, mae’r hyn a gynigir yn rhyddhau fframweithiau llym y PaC presennol, yn enwedig ar gyfer datblygu gwledig, gan gynnwys hyblygrwydd sy’n caniatáu i aelod- wladwriaethau ddefnyddio arian eu hunain i wneud iawn am y gostyngiad o 15 y cant mewn cyllid datblygu gwledig. Byddai’n rhaid i gynllun pob gwlad gydymffurfio ag amcanion cyffredin yr UE gyfan, gyda dangosyddion cynnydd cyffredin yn caniatáu i’r comisiwn gamu i’r adwy os bydd unrhyw grwydro o’r llwybr cul neu ganfod camau sy’n cyflwyno cystadleuaeth annheg. Er bod y Comisiynydd Hogan wedi pwysleisio “nad yw’r model darparu newydd yn rhoi rhyddid i aelod- wladwriaethau”, ac y byddai’r mesurau diogelwch allweddol yn sicrhau “polisi gwirioneddol Ewropeaidd” a “chwarae teg i bawb”, mae llawer wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o wanhau’r fframweithiau cyffredin a’r gyllideb sy’n sail iddynt. Mae gweinidogion amaethyddiaeth o Sbaen, Ffrainc, Iwerddon a Phortiwgal, a chynrychiolwyr o’r Ffindir a Groeg a fynychodd uwchgynhadledd ddiweddar ym Madrid wedi arwyddo datganiad ar y cyd sy’n tanlinellu’r effaith negyddol a fyddai’n deillio o ostyngiad cyllideb PaC ar incwm gwledig, a galwodd am ei gadw. Yn y cyfamser, dywedodd Gweinidog amaethyddiaeth Gweriniaeth Iwerddon, Michael Creed, wrth yr uwchgynhadledd nad yw “hi’n rhesymol nac yn deg gofyn i ffermwyr wneud mwy a mwy yn nhermau’r holl bethau yr ydym yn galw ac yn disgwyl gan y PaC a’r nwyddau cyhoeddus sydd angen arnom, am lai a llai o gymorth ariannol. Mae Creed hefyd wedi amlygu ei bryder ynglŷn â’r ymadawiad o fframweithiau cyffredin sy’n sicrhau chwarae teg i bawb, gan ddweud wrth y cyhoeddiad Gwyddelig agriLand y bod caniatáu i aelod-wladwriaethau fanteisio ar ddiffygion ariannu o gyllidebau domestig “…ddechrau’r broses o ddatgymalu’r PaC …. Hynny yw, gall aelod-wladwriaethau â phocedi dwfn gyd-ariannu cyllid Piler II mwy na all aelod-wladwriaethau eraill wneud.” Mae’n naturiol bod gwledydd fel Gweriniaeth Iwerddon yn ymladd mor frwd dros ffermwyr, ac fel diwydiant rydym yn edmygu’r rhai sydd ochr draw i Fôr Iwerddon – yn enwedig pan mae ein gwleidyddion ni, yn gyffredinol, am weld ffermwyr yn gwneud ‘mwy a mwy am lai a llai o arian. Yr hyn sy’n syndod yw, er bod y rhan fwyaf o wleidyddion y DU yn siarad geiriau gwag ynglyn a’r egwyddor o fframweithiau ôl-Brexit o fewn marchnad sengl y DU, mae’r sefyllfa rydd y mae Comisiynydd Hogan ac eraill yn cydnabod fel perygl enfawr i farchnad sengl yr UE nid yn unig yn anochel yn y DU – ond mae’n cael ei groesawu, boed hynny o ran fframweithiau ariannol neu ddeddfwriaethol. Felly, yw Hogan, Creed ac eraill sy’n dadlau am reolau llym i atal afluniad yn y farchnad wedi gwneud camgymeriad enfawr? a yw ein gwleidyddion ni yn gwybod rhywbeth am sut mae marchnadoedd sengl yn gweithredu nad yw eu cyfatebwyr yng ngweddill yr UE yn deall? neu efallai nad ydyn nhw erioed wedi deall yr egwyddorion sy’n sail i’r farchnad sengl a’r UE, a dal ddim yn deall – er gwaethaf grwgnach rhai dros ganlyniad y bleidlais Brexit. This article is in English on page 12: “So what is happening in terms of the next EU CAP?”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.