Ffermwyr Ynys Môn yn trafod #AmaethAmByth

Mae ffermwyr Ynys Môn wedi codi materion hollbwysig sy’n effeithio ar y diwydiant amaethyddol, megis cyfyngiadau NVZ, cau cyfleusterau prosesu yng Nghymru, taliadau Glastir a pholisïau fferm y dyfodol gydag aC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ac aC Gogledd Cymru Llyr Huws Gruffydd.

Yn cynnal y digwyddiad roedd Is-gadeirydd FUW Ynys Môn, William Spencer Hughes, ar ei fferm, Fferm Graeanfa, Llanfaethlu.

ar ôl graddio o Goleg amaethyddol Cymru, aberystwyth, dychwelodd Mr Hughes adref i weithio ym 1988 gan ddod y 3edd genhedlaeth i ffermio yn Graeanfa, daliad cig eidion a defaid, cyfanswm o 240 erw o dir pori dan berchnogaeth a thenantiaeth.

Heddiw mae’r fferm yn gartref i fuches o 45 o fuchod sugno masnachol, allan o darw Limousin ac mae’r lloi hefyd yn cael eu pesgi ar y daliad gyda rhai yn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr yn 24 mis oed.

Mae diadell o 350 o ddefaid hefyd yn cael eu cadw gydag ŵyn yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i’w lladd. Gwerthir y defaid difa ym marchnad Gaerwen. Mae rhywfaint o dir yn cael ei gadw o’r neilltu ar gyfer tyfu cnydau o haidd a cheirch a ddefnyddir ar gyfer porthiant.

arallgyfeiriodd y teulu yn y 1960au i agor dau faes gwersylla ar y tir ar gyfer carafanau a hefyd, mae Mr Hughes yn gwneud rhywfaint o waith tractor ar gontract allanol.

Mae’r fferm yn rhan o Gynllun Grantiau Bach Glastir ond mae gan Mr Hughes bryderon ynghylch y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei redeg a pha mor hir y mae’n ei gymryd i ffermwyr gael iawndal am waith a wneir.

Dywedodd: “Mae ffermio yn waith anodd. Mae pawb yn gwybod hynny ond rydyn ni’n ei wneud oherwydd ein bod ni’n poeni am ein bwyd, y ffordd mae’n cael ei gynhyrchu, yr amgylchedd ac mae’n cadw ein ffordd draddodiadol o fyw i fynd. Mae ffermio yn bwysig i ni ac rydym am weld y genhedlaeth nesaf yn cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru a’r genhedlaeth ar ôl hynny ac ar ôl hynny. er mwyn i hynny ddigwydd, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni ofalu am yr amgylchedd. ac rydyn ni’n gwneud hynny.”

Dyluniwyd Cynllun Grantiau Bach Glastir i wobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau amgylcheddol buddiol ac er mwyn cyflawni’r amcanion dewisodd Mr Hughes blannu gwrychoedd newydd, a phrysgoedio gwrychoedd presennol, a oedd wedyn yn rhoi hawl iddo i ffens newydd. Trwy waith o’r fath, roedd yn hyrwyddo bioamrywiaeth, ond hefyd yn gwella ffiniau ei fferm.

“Nid yw’n hawdd. Mae’n rhaid i ni ymlwybro drwy waith papur, goddef rheoliadau llym, gwirion ac nid ydym yn cael ein gwobrwyo amdano yn y ffordd yr addawyd i ni ar y diwedd. edrychwch ar faint o amser mae’n ei gymryd i daliadau Grantiau Bach Glastir ddod drwodd. Pam hynny?

“Rwyf wedi buddsoddi llawer o arian, wedi gorffen pob un o’r prosiectau, ond rwy’n dal i aros am daliad. Hoffwn gymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd arall ond nid yw’n werth chweil. Mae fy mhrofiad o’r cynllun cyfredol hwn yn ddigon ac nid fi’n unig sy’n meddwl hynny chwaith.

“Yn seiliedig ar hynny, yn naturiol, rwy’n poeni am yr hyn sy’n cael ei gynnig yn yr ymgynghoriad diweddaraf hwn – os yw mwy o ffocws yn cael ei roi ar awyr iach, coed a’r amgylchedd, sut maent am lwyddo i wneud hynny

ddigwydd? Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymdopi nawr,” meddai Mr Hughes.

Ond nid cymhlethdod cynlluniau amaeth-amgylchedd yn unig sydd wedi gadael ffermwyr Ynys Môn yn teimlo’n siomedig â’r diwydiant. Mae’r cyfyngiadau NVZ newydd, sydd i fod dod i rym ym mis Ionawr 2020, wedi achosi cur pen go iawn i lawer o ffermwyr.

Dywedodd Llywydd FUW Ynys Môn, Gerald Thomas, y gallai’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y rheoliadau NVZ newydd, weld ffermwyr ledled Cymru yn gwneud newidiadau i’r hyn y maent yn ei gynhyrchu a hyd yn oed yn rhoi’r gorau iddi’n llwyr.

Dywedodd: “Mi wnaeth pob pwyllgor o’r Undeb archwilio’r cynlluniau hyn a rhybuddio y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau tebyg i NVZ ledled Cymru, fod yn drychinebus, yn enwedig yn sgil ansicrwydd Brexit.

“Rwy’n gwybod bod ffermwyr yma ar Ynys Môn eisoes wedi rhoi’r gorau i odro oherwydd y rheolau newydd hyn. Bydd y cynlluniau hyn yn effeithio ar ffermydd, yn enwedig y ffermydd teuluol llai, sy’n cyflawni arfer da ac a fydd yn wynebu cost ychwanegol heb unrhyw fai arnynt hwy. Mae’n trin y diwydiant cyfan fel un pan nad oes ond lleiafrif bach ar fai.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gymryd sylw o’r rhybuddion a wnaed gan FUW a rhoi’r gorau i’r cynlluniau hurt hyn. Rhaid iddyn nhw fabwysiadu dull cymesur wedi’i dargedu yn seiliedig ar dystiolaeth gytbwys,” ychwanegodd.

Dywedodd Is-lywydd FUW, eifion Huws: “Mae ein diwydiant dan bwysau aruthrol. Mae cyfleusterau prosesu yn cau i lawr ymhobman. Yn ddiweddar, rydym wedi colli prosesydd mawr arall yng Nghymru ac yn ergyd drom i ffermwyr, gweithwyr a’r diwydiant cyfan. a hyn i gyd ar adeg pan mae ymdrechion sylweddol yn cael eu gwneud i gryfhau ac adeiladu ar ein brand unigryw o Gymru.

“ac i wneud pethau hyd yn oed yn waeth, rydyn ni nawr yn edrych ar bolisi fferm cwbl newydd, sy’n cynnig y gallai cefnogaeth uniongyrchol i ffermwyr ddod i ben.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith bod ymrwymiad penodol i beidio â symud ymlaen gyda chynigion nes bod modelu ac asesiadau effaith, gan gynnwys asesiadau effaith economaidd, wedi’u cynnal.

“Fodd bynnag, yr hyn a gynigir yw disodli cefnogaeth uniongyrchol i ffermwyr gyda’r hyn sydd, yn ei hanfod, yn gynllun nwyddau cyhoeddus. Rydym yn naturiol yn pryderu am y ffaith y bydd ein cystadleuwyr yn yr Ue, o dan gynigion cyfredol y PaC, yn parhau i dderbyn cefnogaeth uniongyrchol, tra na fydd ffermwyr Cymru.

“Yn hynny o beth, o dan y cynigion, gofynnir i ffermwyr Cymru wneud fwy ac wynebu mwy o gyfyngiadau yn gyfnewid am lai o arian, ond byddai disgwyl iddynt gystadlu ar yr un marchnadoedd o hyd.

“Mae’r pryder hwn hefyd yn ymwneud â chystadleuaeth â ffermwyr yn yr alban neu Ogledd Iwerddon os yw’r gwledydd hynny yn cadw rhyw fath o gefnogaeth uniongyrchol neu wahanol safonau sy’n rhoi mantais gystadleuol iddynt,” ychwanegodd Mr Huws.

This article is in English on the FUW website – News – Y Tir News: “Anglesey farmers discuss #FarmingMatters with North Wales AM’s.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.