Gofynnwch am help

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

MAe mis Chwefror wedi bod yn anodd i ni fel ffermwyr. Mae’r tywydd wedi creu helynt i ni gyd ac rydym wedi gweld delweddau torcalonnus o gaeau dan ddŵr, da byw yn boddi, a bywoliaethau wedi eu heffeithio’n wael, os nad wedi cael eu dinistrio.

Disgrifiwyd stormydd y gaeaf fel y gwaethaf a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Gan nad yw’r tywydd yn debygol o wella’n fuan, nid oes gan y caeau amser i sychu cyn cael eu taro gyda’r llwyth nesaf o law.

Mae llifogydd yn effeithio’n fawr ar ein diwydiant ac mae bob amser o dan fygythiad posibl afonydd ac ardaloedd arfordirol, dyna beth yw gweithio gyda natur.

Yn anffodus, nid yw’r math hwn o batrwm tywydd yn rhywbeth unigryw, ac mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo ledled y byd. Yr hyn y mae’r llifogydd diweddar wedi pwysleisio eto bod yn rhaid amddiffyn tir fferm – yn ogystal ag eiddo trefol.

O ran atal llifogydd, dylai ein diwydiant hefyd fod ar y rhestr gyda busnesau ac aelwydydd trefol. Yn wir, ni ddylai ardaloedd gwledig a thir amaethyddol, yr ydym yn eu defnyddio i gynhyrchu bwyd, ac sy’n darparu hafan i fywyd gwyllt, adar a llawer o rywogaethau eraill fod o dan fygythiad.

Ffermio sy’n gyfrifol am reoli a diogelu’r dirwedd a’r amgylchedd yn ogystal â chynhyrchu bwyd ar gyfer poblogaeth sy’n cynyddu o hyd.

Felly mae gweld ein tir a’n da byw yn boddi, yn newyddion drwg i bob un ohonom. Ac i waethygu’r sefyllfa, mae adfer y tir hwnnw, sy’n cynnwys clirio’r llanast, ffensio ac ail-hadu, yn gost i ni.

Rydyn ni i gyd yn ceisio ein gorau i frwydro yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd, gyda llawer o’n ffermwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol fel Glastir a Glastir Uwch.

Trwy gymryd rhan mewn cynlluniau cynefinoedd, mae ffermwyr yn pori rhostiroedd i’r lefelau stocio penodol, yn gofalu am wrychoedd, yn plannu coed, yn gofalu am goridorau bywyd gwyllt ac yn creu coridorau ar lan nentydd

ar dir gwell, yn ogystal â gwarchod bioamrywiaeth a storio carbon – un o fanteision y rheolaeth tir yma yw arafu symudiad dŵr o ucheldiroedd a bryniau Cymru.

Dylid cofio, fel ffermwyr, dim ond hyn a hyn allwn ni wneud ar ben ein hunain. Yr hyn sydd ei angen yw cydweithrediad gwell a dealltwriaeth bod atal llifogydd yn fwy na’r ffermwr yn unig. Rhaid i ni, wrth gwrs, gymryd cyfrifoldeb ac ymdrechu i sicrhau effeithlonrwydd wrth gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond ni ddylai ymladd llifogydd a newid yn yr hinsawdd fod yn ymdrech unigol.

I’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, rydym yn eich annog i ofyn am help. Mae’r Royal Agricultural Benevolent Institution wedi rhyddhau £50,000 cychwynnol o’i Gronfa Argyfwng i ddarparu grantiau brys i deuluoedd amaethyddol trwy

ei Linell Gymorth – 0808 281 9490. Ar ôl darparu tua £75,000 o gymorth grant brys eisoes i’r rhai sydd wedi dioddef oherwydd y tywydd gwlyb eithafol yn ystod yr hydref/gaeaf, maent yn gwybod pa mor ddinistriol yw’r effeithiau i ffermwyr yn y tymor byr a’r hir dymor. Mae symleiddio eu meini prawf a’u proses ymgeisio yn golygu y gallant gyflymu cymorth ar unwaith i ffermwyr sydd wedi cael

eu heffeithio.
Gall y cronfeydd hyn, er yn elfen

gymharol fach o’r help y maent yn disgwyl ei ddarparu dros yr hirdymor i’r rhai sydd wedi dioddef, wneud

gwahaniaeth wrth ddelio â blaenoriaethau brys – a helpu i leddfu pryderon ariannol dybryd, gan ganiatáu i chi ganolbwyntio ar ddelio â effeithiau uniongyrchol y tywydd eithafol.

I gloi’r mis hwn – cofiwch, os yw’r cyfan yn mynd yn ormod i chi, neu os ydych chi’n meddwl bod aelod o’r teulu yn fregus – siaradwch â rhywun. Nid oes unrhyw gywilydd o gwbl dros beidio â bod yn iawn. Rydym yn wydn, ond mae hyd yn oed y person cryfaf angen ychydig o help weithiau. Cofiwch, mae’n iawn i beidio bod yn iawn.

This article is in English on the front page: “Weather playing havoc”.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.