Mae cangen Ynys Môn o UaC wedi ymuno gyda “Snowcem Plus”, sef y dosbarthwr mwyaf o’r paent haen enwog draddodiadol yn y DU ac ewrop er mwyn rhoi naws Cymreig i’w cynnyrch. Dywedodd swyddog gweithredol Ynys Môn heidi Williams: “Rydym yn gwario miliynau o bunnoedd ar baent yng Nghymru’n unig, felly, oni fyddai’n hyfryd enwi lliwiau er mwyn cynrychioli rhannau o Gymru megis machludau haul, caeau gwyrdd, traethau, mynyddoedd ayyb, unrhyw beth sy’n hyrwyddo treftadaeth a diwylliant ein cymunedau gwledig o fewn Cymru. “Dyma’r cerdyn lliw Cymraeg cyntaf o’i fath, a bydd gwefan Cymraeg yn cael ei chreu i fynd law yn llaw gyda hyn. “Yn naturiol mae hyn yn sialens fawr, felly mae UaC wedi penderfynu cynnal cystadleuaeth a bydd gwahoddiad yn cael ei anfon i bob cymdeithas a chlwb ffermwyr ifanc yng Nghymru.” Bydd y clwb buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £250 ac yn derbyn y cerdyn lliw Cymraeg swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf. Rydym am annog gwaith tîm, felly gall unrhyw glwb gyflwyno cynifer o geisiadau ag y dymunant. Y dyddiad cau yw dydd Llun Gorffennaf 4 2016. Ychwanegodd Mrs Williams: “Nid oes amheuaeth bod hyrwyddiad o’r fath, nid yn unig yn mynd i bortreadu Cymru mewn lliw ond hefyd yn dangos bod cwmnïau mwy yn awyddus i ddatblygu gwasanaeth ychwanegol ar gyfer pobl Cymru wrth gyflwyno gwefan hollol Gymreig.”
More
Archives
- February 2021 (28)
- January 2021 (22)
- December 2020 (36)
- November 2020 (27)
- October 2020 (25)
- September 2020 (26)
- August 2020 (27)
- July 2020 (26)
- June 2020 (26)
- May 2020 (30)
- April 2020 (26)
- March 2020 (28)
- February 2020 (30)
- January 2020 (30)
- December 2019 (23)
- November 2019 (35)
- October 2019 (32)
- September 2019 (30)
- August 2019 (39)
- July 2019 (34)
- June 2019 (33)
- May 2019 (63)
- March 2019 (30)
- February 2019 (32)
- January 2019 (29)
- December 2018 (30)
- November 2018 (29)
- October 2018 (28)
- September 2018 (28)
- August 2018 (39)
- July 2018 (27)
- June 2018 (33)
- May 2018 (25)
- April 2018 (26)
- March 2018 (34)
- February 2018 (35)
- January 2018 (44)
- December 2017 (38)
- November 2017 (36)
- October 2017 (33)
- September 2017 (38)
- August 2017 (36)
- July 2017 (40)
- June 2017 (34)
- May 2017 (43)
- April 2017 (47)
- March 2017 (45)
- February 2017 (47)
- January 2017 (54)
- December 2016 (60)
- November 2016 (54)
- October 2016 (47)
- September 2016 (54)
- August 2016 (54)
- July 2016 (46)
- June 2016 (48)
- May 2016 (62)
- April 2016 (73)
- March 2016 (74)
- February 2016 (80)
- January 2016 (65)
- December 2015 (73)
- November 2015 (55)
- October 2015 (59)
- September 2015 (67)
- August 2015 (77)
- July 2015 (43)
- June 2015 (60)
- May 2015 (48)
- April 2015 (51)
- March 2015 (55)
- February 2015 (60)
- January 2015 (73)
- December 2014 (61)
- September 2014 (52)
- December 2010 (1)
- November 1920 (1)