Cynhaliwyd lansiad swyddogol o Gynllun Prynu’n lleol Gwynedd yng ngŵyl Fwyd a Chrefftau Portmeirion ar ddechrau mis Rhagfyr. Roedd y lansiad yn cyd-fynd gyda dydd Sadwrn Busnesau Bach sydd yn ymgyrch cenedlaethol i geisio annog pobl i gefnogi busnesau annibynnol lleol. Mae Cynllun Prynu’n lleol Gwynedd yn gynllun Economaidd Strategol gan Gyngor Gwynedd ac yn anelu i weithio gyda chymunedau ar draws y sir i geisio datblygu cynlluniau fydd yn annog pobl i brynu yn lleol, cefnogi’r economi leol ac yn diogelu swyddi i bobl leol. Bu cynrychiolaeth o Undeb amaethwyr Cymru yn bresennol yn ystod y lansiad ac yn y llun ar y dde gwelir huw Jones, Swyddog Sirol Meirionnydd ynghyd a’r gwahoddedigion eraill. Os hoffech mwy o wybodaeth ewch i wefan www.prynunlleolgwynedd.co.uk neu cysylltwch â post@prynunlleolgwynedd.co.uk