Mae ychydig o amser yn weddill i ymateb i’r cynigion

gan Glyn Roberts, llywydd UAC

DROS y mis diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn cynnal ein cyfarfodydd ymgynghori Brexit ar hyd a lled Cymru, a phob un ohonynt yn llwyddiant ysgubol. Nid oedd un cyfarfod na chafodd yr ystafell ei llenwi gydag aelodau, rhai sydd ddim yn aelodau a phobl sydd â diddordeb gwirioneddol yng ngoroesiad ein heconomi wledig ar ôl Brexit.

Darparodd ein tîm polisi fewnwelediad a dadansoddiad gwerthfawr o’r hyn a allai ddigwydd pe bai cynigion cyfredol Llywodraeth Cymru yn digwydd ‐ heb eu hystyried a heb eu profi.

Wrth gwrs, mae’n beth da i feddwl am ba bolisïau amaethyddol fydd eu hangen o bosib ar ôl Brexit, ond mae cyhoeddi cynigion ysgubol cyn i ni wybod beth mae Brexit yn ei olygu tra bod y trafodaethau’n parhau yn gynamserol.

Gwyddom fod yr UE yn cryfhau ei rheol Ffermwr Actif er mwyn sicrhau bod arian yn aros o fewn cymunedau gwledig a ddim yn mynd i elusennau, busnesau mawr, perchnogion coedwigaeth ac ati. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bron iawn i’r gwrthwyneb ‐ polisi ‘agored i bawb’ a allai gymryd arian i ffwrdd oddi wrth deuluoedd ffermio, lle gallai ‘pawb’ gynnwys elusennau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bancwyr cyfoethog, cronfeydd pensiwn, perchnogion planhigfa coedwigaeth a phobl sydd, yn ‘ffermwyr anweithredol’ yn y bôn ac sydd ddim yn cyfrannu i’r economi leol.

Yn anffodus, mae’r profiad o newidiadau a chynlluniau llawer llai uchelgeisiol ‐ er enghraifft Glastir a’r newidiadau i’r SPS/BPS yn Lloegr a’r Alban ‐ yn dangos bod angen blynyddoedd o gynllunio ar bethau ac yn gallu mynd o chwith, gan achosi oedi o ran talu ac ati.

Gwyddom nad yw’r hyn a gynigir erioed wedi cael ei brofi o’r blaen unrhyw le arall yn y byd ac yn golygu bod angen llawer o adnoddau i’w gynllunio a’i weithredu. Gyda hynny

mewn golwg, mae’n debyg na ellir ei gyflawni yn yr amserlen y maent yn gobeithio amdano (angen llofnodi’r cytundebau cyntaf erbyn oddeutu 2021).

Hysbyswyd y rhai hynny sydd wedi mynychu ein cyfarfodydd agored bod yr ymgynghoriad yn awgrymu y gofynnir i ffermydd gwahanol â gwahanol nodweddion/cynefinoedd ar neu gerllaw ac mewn ardaloedd datganiad gwahanol, wneud pethau gwahanol iawn a gallant fod yn gymwys i dderbyn lefelau gwahanol iawn o daliadau.

Mae hyn yn golygu loteri cod post a gwahaniaethu posibl o ran taliadau a chamau gweithredu a gall yr effaith ar fusnesau fferm ac economeg ‐ gan gynnwys economeg ehangach busnesau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth, fod yn drychinebus.

Yn rhyfedd fodd bynnag, mae’r ddogfen ymgynghori yn cydnabod y gall yr hyn a gynigir dorri rheolau Sefydliad Masnach y Byd. Felly pam cyflwyno cynnig cyn cael cadarnhad gan Sefydliad Masnach y Byd ac ydyw’n anghyfreithlon neu beidio?

Mae’n anodd credu bod ni’n wynebu cynllun nad oes unrhyw wlad yn y byd wedi profi erioed o’r blaen. Mae’n gwbl wahanol o’i gymharu â’r egwyddorion sydd ar waith ers yr Ail Ryfel Byd. Ond nid oes unrhyw asesiad effaith na dadansoddiad economaidd wedi’i wneud eto.

Fodd bynnag, nid yw popeth ar ben eto. Mae ychydig o amser yn weddill i ymateb i’r cynigion. Felly, os ydych chi eisiau gwneud eich rhan ‐ gwnewch yn siŵr eich bod yn ymateb i’r ymgynghoriad erbyn Hydref 30.

Ysgrifennwch at Ysgrifennydd y Cabinet, eich Aelod Cynulliad lleol, Aelod Seneddol a’r Cynghorydd lleol a chyflwyno’ch barn (gellir gweld y ddogfen ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru yn beta.gov.wales/consultations/) Wrth wneud hyn, efallai y bydd gennym gyfle.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.