Mynd ar dramp iFrianne

DYDD Sul, Awst 2 2 0 2 0 . Diwrnod reit hanesyddol. Ond pam, rwy’n clywed chi’n holi? Wel, mentrwyd allan ymhellach na’r ffiniau lleol am y tro cyntaf ers 2 0 wythnos. Roedd pawb yn barod i weld golygfa wahanol, ond i rywle lle nad oedd eisiau poeni rhyw lawer am brysurdeb a phellhau cymdeithasol. Felly bant a ni gyda’n picnic ar drywydd antur fach, a dilyn ein trwynau i raddau!

Mynd i gyfeiriad Tregaron, a sylweddoli pa mor dawel oedd y dref, gwahanol iawn i beth ddylai wedi bod yn ystod wythnos gyntaf mis Awst 2 0 2 0 , wythnos Eisteddfod Ceredigion wrth gwrs, ond mi ddaw eto haul ar fryn, a fydd Tregaron yn fwy na pharod i estyn croeso cynnes i bawb yn 2 0 2 1 .

Ymlaen wedyn ar hyd ffordd Abergwesyn, gan gyrraedd y bocs teliffon coch eiconig cyn cyrraedd hen gapel bach hanesyddol Soar y Mynydd. Er bod ni’n ceisio dianc oddi wrth Covid‐1 9 am ddiwrnod, buan y sylweddolom fod dim modd dianc yn llwyr ohono, hyd yn oed yn llecynnau anghysbell mynyddoedd Tregaron, wrth weld poster ar giât y capel gyda’r geiriau ‘Dim Mynediad, Coronafirws’. Mae’n siŵr mae hen arwydd oedd hwn, ond allan o barch i’r bobl leol, edmygu’r Capel o’r tu allan y gwnaethom y tro hyn.

Erbyn hyn, daeth yn amlwg bod ni’n anelu am Lyn Brianne, sef cronfa ddŵr ym mlaen afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin, lle adeiladwyd argae i greu llyn ym
1 9 7 2 er mwyn rheoli llif yr afon ac i gynorthwyo tynnu dŵr o Nant Garedig yn rhan isa’r afon. Bellach mae’n cyflenwi dŵr yfed i Abertawe a rhannau eraill o’r de hyd at gyffiniau Caerdydd.

Wrth edmygu’r golygfeydd godidog, daeth yn amlwg iawn hefyd, bod yna dipyn o hanes yn gorwedd ar waelod y llyn, gan fod yna dai a fferm, Y Fannog wedi cael eu boddi er mwyn llunio’r

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

gronfa ddŵr. Yn y 7 0 egau, cyn i’r lefelau dŵr godi’n raddol, roedd hi’n bosib cerdded i’r Fannog, a pan fydd y lefelau dŵr yn isel heddiw, sydd ddim yn digwydd yn aml iawn oherwydd hinsawdd wlyb unigryw Cymru, mae’n bosib gweld top y tŷ yn ystod cyfnodau sych o dywydd.

Arweiniodd hyn i mi feddwl am y nifer o gronfeydd dŵr arall sydd yma yng Nghymru, a’r hanes oedd yn perthyn i’r ardaloedd cyn llunio’r cronfeydd. Sut newidiodd ffurf a gwead cymdeithas? Beth am yr effeithiau ieithyddol, a’r sgileffeithiau trwy’r cenedlaethau?

Does dim amheuaeth bu newid mawr ym mywydau’r rhai yr effeithiwyd arnynt pan orfodwyd nhw i adael eu cartrefi, bywoliaeth, a’i ffermydd, a oedd, o bosib wedi bod yn nwylo’r teulu ers sawl cenhedlaeth. Ond nid dyma’r canlyniad bob tro. Achubwyd Cwm Senni wrth gwrs, a ni foddwyd y cwm. Mae ymgyrch ardal Cwm Senni wrth gwrs o ddiddordeb mawr i ni yn yr Undeb, gan mae ein haelod oes Glyn Powell, arweiniodd y ffordd mewn ymgyrch ffyrnig, ond llwyddiannus i atal y boddi.

Ac felly, wrth fynd ati i orffen ysgrifennu Cornel Clecs mis hwn, roedd hi’n hyfryd clywed bod Glyn yn derbyn anrhydedd y Wisg Las gan Orsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2 0 2 1 yn Nhregaron (darllenwch mwy ynglŷn â’r anrhydedd honno yn yr ethygl ‘Anrhydedd fawr yr athro, amaethwr ac arweinydd o Gwm Senni, Glyn Powel’ sydd ar dudalen 6 ).

Rydym yn hynod o lwcus bod cymaint o hanes, treftadaeth, prydferthwch naturiol a llonyddwch ar stepen drws ‐ oes mae gan Gymru fach lawer i’w gynnig i bawb!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.