Ni weithiais mor galed erioed

Atgofion Yr Arglwydd Morris o Aberafan o’i gyfnod fel dirprwy ysgrifennydd cyffredinol a sut bu’n allweddol i esblygiad yr undeb…

CYFARFOD I DRAFOD: Dirprwy ysgrifennydd cyffredinol a cynghorwr cyfreithiol yr undeb Yr Arglwydd Morris yn cwrdd ac aelodau ym 1955.

CYFARFOD I DRAFOD: Dirprwy ysgrifennydd cyffredinol a cynghorwr cyfreithiol yr undeb Yr Arglwydd Morris yn cwrdd ac aelodau ym 1955.

FEL Golygydd cyntaf Y Tir, mae’n bleser ysgrifennu erthygl i ddathlu ei ben blwydd yn 60 mlwydd oed. Mae’n bosib iawn mae hwn yw’r cylchgrawn diwydiant henaf yng Nghymru. O safbwynt personol, cofiaf fod yn bresennol mewn cyfarfod ymgyrch UAC yn yr hen Westy Lion Royal yn Aberystwyth gyda’n llys dad, Evan Lewis, Abernant. Roeddwn adre dros y Nadolig ar ôl gadael y Fyddin fel swyddog ifanc ac wedi dechrau fy hyfforddiant proffesiynol fel Bargyfreithiwr yn un o’r siambrau Cymru Lundain gorau gyda’r darpar Syr, William Mars-Jones. Cafodd yr areithiau y clywais o blaid undeb ffermwyr Cymreig yn ystod y cyfarfod hwnnw argraff fawr iawn arnaf. D J Davies, Aberaeron, hen ffrind i mi oedd un o’r siaradwyr. J B Evans wrth gwrs, a Llewelyn Bebb o bosib, croes doriad gwleidyddol da. Ar ddiwedd y cyfarfod, daeth D J ataf i ganfod beth oeddwn yn ei wneud fel Bargyfreithiwr ifanc. Cynigodd gynnig hollol ryfeddol, mi holodd i fi ymuno gyda’r undeb fel cynghorwr cyfreithiol. Rhoddwyd cynnig arni am 3 mis. Dyma’r cyfnod lle’r oedd y critigiaid yn meddwl efallai byddai’r undeb yn parhau. Cafodd ei gwawdio fel clwstwr o “bregethwyr, cenedlaetholwyr, gwrthwynebwyr cydwybodol” ac yn fwy rhyfedd fel “gyrwyr tacsi”. Roedd fy nheulu’n synnu’n fawr fy mod wedi derbyn y cynnig. Gwelodd llawer fy nghynlluniau i adael cyfleoedd di-ri Llundain fel cam gwael, amser a ddengys. Aeth tri mis yn flwyddyn, ac yna’r ail flwyddyn. Roeddwn wedi addo i’n hun na fyddai’n fwy na hyn. Mae gan fy llyfr “50 Years in Politics and the Law” bennod yn disgrifio ffurfio’r undeb yn fanwl, yn nodi’r anawsterau i mi fel ei chyfreithiwr, trefnydd a siaradwr ymgyrchol. Ni weithiais mor galed erioed ac mae fy mywyd wedi bod yn un prysur tu hwnt! Bum yn Weinidog y Goron am 13 mlynedd, AS am 41 mlynedd, yn ogystal â fy ngyrfa fel Bargyfreithiwr Cyfreithiol, ac yn fwy diweddar fel Cwnsler y Frenhines a Twrnai Gwladol. Mae gen i’r parch mwyaf aruthrol tuag at J B a’r “sylfaenwyr” a oedd yn benderfynol o ehangu’r undeb i fod yn undeb Gymreig genedlaethol, ac yn datblygu tu allan i ardaloedd diogel sir Gaerfyrddin a Ceredigion. Roedd angen cenhadwr ar gyfer y gwaith. Roedd angen i J B gadw golwg ar bethau’n nes at adref, ac fel cyn ysgrifennydd sirol i’r NFU, ni allai gefnu ar gymaint o ffermwyr a oedd yn dibynnu arno am gyngor. Fel dirprwy, cefais fy anfon i Ogledd Cymru. Cyfeiriaf yn fy llyfr at ein siom ym Meirionnydd, cafon ein gwrthod a hynny wedi gobeithion uchel o’n cysylltiadau yno; roedd y sir bellach yn un drafferthus. Penderfynodd y pwyllgor gwaith ar gynllun arall, anghofio am Feirionnydd a mynd am sir Gaernarfon. Dyma’r elfen filwrol ynof, gweithio o amgylch y rhwystr anorchfygol. O gyrraedd Caernarfon, nid oedd pethau’n edrych yn addawol yno chwaith. Es ati i logi swyddfa fach yng Nghaernarfon. Trefnais gynhadledd i’r wasg ac anfon datganiad allan i’r wasg. Enillais gryn dipyn o gyhoeddusrwydd o hyn, ac os cofiaf yn iawn, mi gefais gymorth Mr O T L Huws. Roedd fy nghyfarwyddiadau’n glir. Llunio rhestr o gyfarfodydd, llogi neuaddau a byddai’r aelodau o’r pwyllgor gwaith oedd yn fodlon gadael eu ffermwyr a theithio o Gaerfyrddin a Ceredigion yn siarad. Nid oedd unrhyw aelod o’r pwyllgor gwaith tu allan i’r siroedd hynny. Mantais bryd hynny oedd ei bod hi’n gyfnod tawel ar y ffermydd, ac roedd y teuluoedd yn barod i ymgymryd â gwaith hanfodol y ffermydd. Roedd Caernarfon yn dipyn o her! Roedd yr aelodau newydd posib yn ffermwyr bach gan fwyaf ac roedd economeg yn peri iddynt fod yn amheus o ymuno ag undeb newydd. Felly, noson ar ôl noson, roeddwn yn ymateb i’r her. Trefnais drafodaeth fawr rhwng siaradwyr o’r NFU ac UAC. Camgymeriad tactegol o ran yr NFU oedd datgelu’r ddadl o flaen cannoedd o ffermwyr ym marchnad Chwilog. Chwilfrydedd oedd yn gyfrifol am y gynulleidfa y noson honno. Ynys Môn oedd fy nharged nesaf. Yn ôl pob son, roedd y ffermwyr yno yn fwy hyderus, felly roedd fy ngwaith yn rhwyddach. Roedd rhai o’r cyfarfodydd yn rymus, a daeth talentau Glyngwyn Roberts, a aeth ymlaen i fod yn aelod ac is lywydd yr Undeb i’r amlwg. Daeth llwyddiant yn Ynys Môn wrth sicrhau pobl megis John Williams, Brynsiecyn gan roi hyder i Gaernarfon a sicrhau cefnogaeth pobl fel D T Rowlands yn nwyrain y sir. Ac felly, parhau gwnaeth y daith o un sir i’r llall. Cynghorwr cyfreithiol wrth fy ngwaith bob dydd ac yna allan gyda’r nos mewn cyfarfodydd. Ymhen amser, roedd gen i chwech neu saith sir o dan fy ngofal, ac felly i ffwrdd o adre am y rhan fwyaf o’r amser. Sut ddes i ben, wn i ddim! Ar yr un amser, llwyddais i golli’r enwebiad Llafur ar gyfer sir Gaerfyrddin i’r Foneddiges Megan Lloyd George o un bleidlais. O rywle daeth digon o amser i agor ei hymgyrch etholiadol ar yr un llwyfan a’r cyn Brif Weinidog Attlee ym Mhenygroes. Yn y pen draw, fi oedd y dewis annisgwyl fel ymgeisydd ar gyfer Aberafan. Ychwanegodd hyn at y brys i adael yr Undeb, ail afael yn fy hyfforddiant cyfreithiol fel Bargyfreithiwr, y tro hyn yn Abertawe, fel bod modd gofalu ar ol fy narpar etholaeth. Yn y cyfamser, ac yn bwysicaf na dim byd arall, roeddwn yn ffodus dros ben o gwrdd â’n narpar wraig Margaret, a chytunodd i’m mhriodi. On that happy note, I left the union in January 1958 and since then I’ve watched it grow and strengthen, similarily to the Welsh Assembly Government, of which I was privileged to be part of its formation too.

Cyhoeddir “50 Years in Politics and the Law” gan yr Arglwydd Morris o Aberafan gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac ar gael o bob siop lyfrau ac Amazon

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.