Pa mor gyffredin yw eich cyfenw chi?

YN ddiweddar, rhaid oedd troi at y dull traddodiadol o chwilota trwy’r hen lyfr ffôn na sydd bellach yn segur gan fod dulliau mwy modern yn gyfleus ac yn gyflym! Wrth droi’r tudalennau llawn print i’r llythyren briodol, stopiais am eiliad a sylweddoli bod pob math o gyfenwau, y rhyfedd a’r rhyfeddol, yn bodoli.

O edrych nôl ar hanes, dull yr hen Gymry oedd defnyddio enw bedydd y tad fel cyfenw, gyda chyfenw’r teulu yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Er enghraifft, byddai Iolo Griffith yn fab i Griffith William, ac yntau’n fab i William Dafydd, a byddai’n cael ei ysgrifennu fel Iolo ap Griffith ap William ap Dafydd! Dyna i chi lond ceg!! Byddai merched yn defnyddio’r un drefn weithiau wrth ddefnyddio’r rhagddodiad ‘ferch’ neu ‘ach’ yn lle ‘ap’. Roedden nhw hefyd yn cadw eu henwau morwynol wrth briodi oherwydd nad oedd cyfenwau’n cael eu defnyddio.

Diolch i’r uchelwyr, dechreuodd y drefn newid yn y 15fed ganrif, ac mewn dim o dro, roedd y werin bobl wedi dechrau mabwysiadu’r drefn o seisnigeiddio enwau, felly dyna gychwyn ar gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg ap Hywel (Powell), ap Rhys (Price) ac ap Richard (Pritchard). Dechreuodd John fynd yn Jones, William yn Williams, David yn Davis a Hugh yn Hughes.

Dyma fi’n dechrau pendroni am fy nghyfenwau i, fy enw cyn priodi, Morris a’n nghyfenw ar ôl priodi, Evans. Roeddwn am wybod pa mor boblogaidd yw’r ddau enw o’i gymharu â’i gilydd felly cychwynnais ar ychydig o waith ymchwil. Wrth chwilota, mi ddes i ar draws gwefan www.named.publicprofiler.org sydd yng nghofal Adran Daearyddiaeth, Coleg Prifysgol Llundain, ac yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mae’n ffordd gyflym a rhwydd i roi syniad i chi ble mae cyfenw penodol yn boblogaidd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi eich cyfenw ac mae’r wefan yn mapio lle mae nifer anarferol o uchel o bobl â’r enw hwnnw yn y DU.

Mae ymchwilwyr yn dweud ei fod yn datgelu llawer yn fwy na lle mae pobl ar hyn o bryd ‐ gall hefyd ddweud llawer am ein

gwreiddiau. Mae’n rhyfeddol i weld lle mae’r mwyafrif o unigolion a theuluoedd yn aros ar hyd y cenedlaethau.

O ganolbwyntio ar Gymru, edrychwch ar y ddau ddarlun sy’n cydfyd gyda’r erthygl hon, un ar gyfer Morris a’r llall ar gyfer Evans. I ddweud y gwir, syndod mawr i mi oedd cyn lleied o Morris sydd yng Ngheredigion.

Yn ôl y map byddai’n rhaid mynd lawr i Sir Gaerfyrddin neu lan i’r Gogledd Ddwyrain, yn agos iawn i’r ffin i ganfod y clwstwr mwyaf o Forisiaid. Darlun hollol i’r gwrthwyneb yw’r Evans! Mae llawer iawn mwy ohonom! Mae’n debyg bod yna 231,844 o bobl yn rhannu’r cyfenw Evans yn y DU i’w gymharu gyda 131,499 o Forisiaid. Felly, boed chi’n Morris, Evans, Jones, Davies, neu ychydig bach yn fwy anghyffredin, yn Isbitt neu’n Vanwell, beth am edrych i weld pa mor gyffredin ydych chi! Mi fyddai i wastad yn gweld fy hunan yn Evans, ond mae tipyn o’r Morris ynof hefyd!

This artice is available in English on the FUW website: “How common is your surname?”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.