Parhad gwahanol i’r ‘sioe’

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

I NIFeR fawr ohonoch fel ninnau, mae haf 2020 yn dipyn gwahanol i’r arfer – yn dawelach. erbyn hyn mi fyddai’r tri ohonom yma wedi bod yn arddangos mewn oleiaf tair sioe leol, a’r calendr yn go lawn o sioeau arall yn ymestyn dros yr haf. Ond nid felly eleni, wrth i ni gyd wynebu ‘normal’ newydd a hynny heb rai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y calendr amaethyddol yng Nghymru.

Ond mae’r diwydiant amaethyddol wedi profi’i hunan mor addasol ag erioed. Rhwydd iawn byddai dweud ‘fyddwn nôl flwyddyn nesaf’, ond yn hytrach, mae nifer o ddigwyddiadau wedi dewis peidio ildio’n llwyr i Covid-19, ac wedi chwilio am ffyrdd arall o weithredu, a hynny’n ddigidol. Ond er bod hyn yn torri tir newydd, ac yn ysgafnhau ychydig ar y sefyllfa anghyffredin bresennol, a’i dyma ddyfodol ein sioeau’n llwyr?

er bod technoleg yn datblygu’n gyflym, a
bron iawn unrhyw beth yn bosib, yn
bersonol nid wyf yn meddwl bod modd i
unrhyw dechnoleg gymryd lle’r sioe draddodiadol yn llwyr, ac yn sicr ddim yr elfen gymdeithasol sy’n hanfodol ac yn allweddol i lwyddiant unrhyw sioe, boed yn fach lleol, neu’n genedlaethol enfawr.

O fod yn sefyll mewn caeau sioe, penwythnos ar ôl penwythnos, weithiau dwywaith mewn wythnos dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae arwyddocâd y sioeau bach lleol a’r ffordd maent yn rhan o fframwaith amaethyddiaeth yn ei gyfanrwydd yn amlwg. Dyma ffermio a’r gymdeithas amaethyddol ar ei gorau.

Wrth reddf ac yn naturiol, mae pobl yn cymryd diddordeb mewn pobl arall, nid i fod yn fusneslyd, ond i rannu baich, syniadau, rhoi’r byd yn ei le a thynnu coes. Dyna le mae sioeau amaethyddol yn darparu llwyfan i bawb ddod ynghyd i gymdeithasu, yn enwedig rhai cyntaf y tymor, y diwrnod cyntaf allan i nifer wedi cyfnod hir o wyna. Mae teuluoedd cyfan yn cyd-dynnu er mwyn paratoi a chystadlu a daw cymunedau o sawl ardal at ei gilydd.

er gwaethaf siom pawb na fydd sioeau’n cael eu cynnal eleni, mae pawb ymhob man yn cefnogi penderfyniad pwyllgorau gwirfoddol, pob sioe ar hyd a lled Cymru, y mwyafrif llethol wedi gorfod gwneud un o’r penderfyniadau anoddaf i ganslo’r digwyddiadau yma sy’n hanfodol i’n diwydiant, diwylliant a’n heconomi leol. Mae pawb yn gwerthfawrogi bod dim dewis arall ac yn cydnabod difrifoldeb y clefyd yma sy’n rhemp ar draws y byd ar hyn o bryd.

Ond, er bod y sefyllfa’n ymddangos yn ansicr iawn ar hyn o bryd, rwy’n sicr o un peth, mi ddaw cyfle eto i gystadlu, cefnogi, cymdeithasu a mwynhau sioeau a phob

digwyddiad amaethyddol arall. Mae’r sioeau wedi bod trwy lawer, rhyfeloedd ac afiechydon anifeiliaid ac wedi goroesi i’w llwyddiant presennol.

Felly, er ein bod ar wahân ar hyn o bryd, mi ddaw cyfle eto i ni gyd fod gyda’n gilydd, nôl yn y sioeau ac yn mwynhau popeth sydd yn cyfrannu cymaint at eu llwyddiant. Ond yn y cyfamser, pob llwyddiant i barhad gwahanol y ‘sioe’.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.