Profiad arbennig cael ymweliad a’r Ysgwrn

gan Huw Jones, swyddog gweithredol UaC sir Feirionnydd
Braint fawr iawn, a gwefr yn wir, oedd bod yn rhan o ail agoriad swyddogol Yr Ysgwrn yn nechrau mis Medi, a chael cyfle i sgwrsio am beth amser efo Gerald Williams.

Ers ychydig amser bellach, mae yna gyfle i ymweld y ffermdy a’r adeiladau yma yn nhrawsfynydd ar eu newydd wedd yn dilyn adferiad y safle drwy waith cadwraeth a datblygu gofalus.

Yn ystod y digwyddiad, cafwyd cyflwyniadau gwych gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru; y Farwnes Kay andrews, sef Cadeirydd Cymru Cronfa treftadaeth y Loteri; ac ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru. Cafwyd hefyd berfformiad ‘Mewn Cymeriad – Hedd Wyn’ – sef sioe drwy gyfrwng un dyn, lle daw’r actor ifanc Sion Emyr a stori Hedd Wyn yn fyw o flaen ein llygaid.

Bu imi fwynhau’r profiad yn fawr iawn, gyda diolch i awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am y cyfle i fod yno.

Bydd hanes yr Ysgwrn yn adnabyddus i bawb wrth gwrs, oherwydd dyma gartref y bardd Elis Humphrey Evans, un yr ydym yn ei adnabod yn well o dan yr enw barddol Hedd Wyn.

Daeth y fferm fynydd draddodiadol hon yn adnabyddus yn 1917 wedi i Hedd Wyn ennill y Gadair am ei awdl ‘Yr arwr’ yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, chwech wythnos wedi iddo cael ei ladd yn y rhyfel Mawr. Yn y tŷ y mae’r Gadair Ddu – mae yn

sicr un o ddodrefn mwyaf nodedig Cymru. Fe gelwir yn Gadair Ddu oherwydd iddi cael ei gorchuddio a lliain du yn ystod y seremoni Gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol 1917, a dyma roddodd yr enw yma arni.

roedd y digwyddiad gan y Parc Cenedlaethol wrth gwrs union gan mlynedd ers yr Eisteddfod yn Penbedw, ac yn amlwg felly yn ddigwyddiad cofiadwy iawn.

Wedi marwolaeth Hedd Wyn, croesawyd pobol o bell ac agos i’r Ysgwrn, a dymuniad ei fam Mary Evans cyn iddi farw oedd “cadw y drws yn agored” gan y teulu, gyda Gerald Williams nai Hedd Wyn yr olaf o’r teulu i wneud hynny cyn trosglwyddo’r awenau i awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Ym mis Mawrth 2012 prynodd Parc Cenedlaethol Eryri fferm yr Ysgwrn er mwyn ei diogelu ar gyfer y genedl i’r dyfodol. Cafwyd grant gan Cronfa treftadaeth y Loteri a llywodraeth Cymru i wneud gwaith sylweddol ar y ffermdy a’r adeiladau.

Mae’r fferm yn ymestyn i 168 acre o dir amaethyddol gyda hawl pori i 300 o defaid ar y comin gyfagos. Mae elfen amaethyddol y fferm bellach dan ofal tenant.

Mae yna waith arbennig wedi mynd ymlaen yno sy’n galluogi rhywun i deimlo naws y gorffennol, a’r aelwyd lle magwyd y bardd, agorwyd derbynfa, canolfan ddehongli a chaffi yn yr hen feudy islaw’r tŷ, sef Beudy Llwyd. Bydd rhaid ymweld eto!

This article is available in English on the FUW website “Official re-opening of Yr Ysgwrn”.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.