Rhaid i grwpiau amgylcheddol ‘gymryd ychydig o gyfrifoldeb’

gan Glyn Roberts, llywydd FUW

MAE ffermwyr wedi ymateb i honiadau ynghylch rôl ffermio yn nirywiad gylfinirod a rhywogaethau eraill, drwy ddweud bod rhaid i elusennau ac ymgynghorwyr amgylcheddol gymryd cyfrifoldeb am bolisïau sydd wedi arwain at ddiraddio cynefinoedd a’r cynnydd mewn ysglyfaethu.

Mae’r RSPB yn honni bod arferion ffermio yn rhannol ar fai am ostyngiad o 80 y cant yn nifer y gylfinirod yng Nghymru ers 1 9 9 0 , ond mae ffermwyr yn dweud bod polisïau amgylcheddol ar ardaloedd eang o gynefin y gylfinir yn seiliedig ar gyngor gan elusennau ac ymgynghorwyr amgylcheddol ‐ a bod llawer o’r rhain wedi bod yn niweidiol iawn i rywogaethau megis y gylfinirod.

Mae tua 40 y cant o dir amaethyddol Cymru yn gorfod glynu at reolau cynllun amgylcheddol, gyda’r ganran yn llawer uwch yn yr ucheldiroedd allweddol a oedd unwaith yn ardaloedd nythu craidd ar gyfer gylfinirod.

Mae nifer o ardaloedd, a oedd unwaith yn llawn o gylfinirod nythu wedi bod ynghlwm wrth gynlluniau sydd wedi lleihau pori yn sylweddol ers dau ddegawd neu fwy, ac mae’r gylfinirod bellach wedi diflannu ‐ felly mae’n amlwg bod y cyngor gan elusennau ac ymgynghorwyr amgylcheddol ynghylch lleihau pori yn anghywir.

Mae’r RSPB wedi cyfaddef bod gordyfiant llystyfiant yn cael effaith andwyol ar gynefin nythu addas a bod angen cynyddu lefelau pori i helpu gylfinirod a rhywogaethau eraill fel chwilgorn y mynydd.

Mae gordyfiant llystyfiant ar dir a oedd unwaith yn ddelfrydol ar gyfer gylfinirod a rhywogaethau eraill yn ganlyniad uniongyrchol i danbori, yn aml o ganlyniad i reolau cynllun amgylcheddol, ac mae ffermwyr, a oedd yn falch gweld gylfinirod yn nythu ar eu tir yn ddig iawn bod eu rhybuddion nhw am effeithiau amgylcheddol andwyol symud anifeiliaid oddi ar y cynefin wedi cael eu hanwybyddu.

Mae’n dda gweld bod y broblem hon yn cael ei chydnabod o’r diwedd gan bobl fel y RSPB, ond mae angen cydnabod hefyd bod y polisïau a arweiniodd at ostyngiad mawr mewn bywyd gwyllt wedi’u seilio yn y lle cyntaf ar gyngor a lobïo gan elusennau ac ymgynghorwyr amgylcheddol.

Mae adroddiad cyflwr adar yng Nghymru’r RSPB, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn nodi “… bod gylfinirod yn hoffi cynefinoedd gyda llai o lystyfiant ac ychydig o frwyn” ac yn cydnabod lle mae dwyseddau da byw wedi gostwng yn sylweddol o gymharu â lefelau hanesyddol “…mae’n debygol iawn bod yr amodau cynefin wedi dirywio ar gyfer gylfinirod.”

Mae tanbori hefyd yn peryglu rhywogaethau’r ucheldir oherwydd y risg cynyddol o danau gwyllt yn ystod cyfnodau nythu. Yn ddiweddar rydym wedi gweld tanau mawr ar ucheldiroedd Cymru a Lloegr ar dir lle mae tanbori a diffyg rheolaeth wedi arwain at lystyfiant yn tyfu’n wyllt ac yn fwy agored i danau gwyllt.

Roedd pori a llosgi wedi’i reoli ar adegau priodol o’r flwyddyn yn golygu bod yna gynefin delfrydol ar gyfer gylfinirod, ond erbyn hyn rydym yn wynebu sefyllfa lle mae tan‐reoli a thanbori yn arwain at danau yn llosgi allan o reolaeth yn ystod y tymor nythu.

Mae ymchwil y RSPB hefyd wedi amlygu’r rôl y mae ysglyfaethwyr yn ei chwarae, gydag un astudiaeth o lwyddiant bridio gylfinirod yn darganfod bod ysglyfaethu yn cyfrif am tua 9 0 y cant o fethiannau nythu ‐ gyda llwynogod a brain yn un o’r prif broblemau. Mae’r elusen hefyd wedi tynnu sylw at y rôl gadarnhaol y mae rheoli ysglyfaethwyr yn ei chwarae i sicrhau bod gylfinirod a rhywogaethau tebyg yn magu rhai bach yn llwyddiannus.

Mae llawer o’r ysglyfaethwyr mwyaf trafferthus yn cysgodi ym mhlanhigfeydd coedwigaeth Llywodraeth Cymru, ac mae ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru i’w rheoli bellach yn ddibwys, tra bod y Comisiwn Coedwigaeth wedi talu symiau sylweddol ar gyfer rheoli plâu o’r blaen.

Mae ffermwyr wedi blino ysgwyddo’r bai am ddirywiad rhywogaethau, ac mae’n hen bryd bod y sefyllfa’n glir ‐ gan gynnwys y rôl sydd gan gyngor gwael cyrff anllywodraethol ac eraill ynghylch lleihau niferoedd defaid, planhigfeydd coedwigaeth a ffactorau eraill sydd wedi dinistrio cynefin a bywyd gwyllt.

Yn y pen draw, mae angen mwy, a dim llai o amaethyddiaeth ar lawer o ardaloedd.

This article is in English on page 1: “Environment groups must ‘take share of blame’.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.