Rhoi llais i’r salwch cudd

CORNEL CLECS

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

ESTYN ALLAN AM GYMORTH...MAE’N IAWN I SIARAD.

ESTYN ALLAN AM GYMORTH…MAE’N IAWN I SIARAD.

UNIGRWYDD. Oriau hir. Pwysau’r byd ar ysgwyddau un person. Dyma’r darlun bellach o’r ffermwr cyfoes. Mae’r byd modern wedi mynd i ddibynnu bron yn llwyr ar dechnoleg sy’n golygu nad oes angen mwy nag un person i wneud gwaith y fferm. Mae’r dyddiau o’r cymdogion yn dod at ei gilydd i gneifio, a hel y cynhaeaf wedi hen ddiflannu gyda’r tasgau mawr yn cael eu cyflawni mewn bach iawn o amser. Mae ffermwyr yn treulio amser maith ar ben eu hunain ac mae hel meddyliau yn anorfod, a dyma beth sy’n arwain at deimladau o deimlo’n isel. Ar unrhyw adeg benodol, mae un o bob chwech o’r boblogaeth o oedran gweithio ym Mhrydain Fawr yn dioddef symptomau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Darlledwyd wythnos o raglenni arbennig gan S4C yn ddiweddar er mwyn tynu sylw at y pwnc o iechyd meddwl ac i geisio cael gwared a’r stigma sy’n parhau i gael ei gysylltu gyda’r pwnc. Un a ddatgelodd ei fod wedi bod yn dioddef oedd Alun Elidyr, ac er ei fod yn ffigwr cyhoeddus ac ar y teledu yn wythnosol, roedd yna fywyd arall tu ôl i’r camera. Ond beth arweiniodd at y newid syfrdanol ym mywyd Alun? Dyma, yn ei eiriau ef, yr hyn ddigwyddodd: “Ddechre Tachwedd 2014 mi ddes i o hyd i Mam, oedd yn 91 oed, yn farw ar waelod y grisiau yn Caecoch. Roedd hi a minnau wedi bod yn ffarmio gyda’n gilydd ers ugain mlynedd ar ôl i dad farw. Mi sbardunodd y sioc o’i cholli cyfres o newidiadau andwyol yn fy mywyd, manion i ddechre, blinder, negyddiaeth, pryder…pwysau bywyd cyfoes allech chi feddwl. “Ond erbyn Chwefror 2015 ro’n i’n methu cysgu, wedi colli awch bwyd ac yn colli pwysau, gyda chorddi adrenalin cyson yn fy stumog, ac yn dawel yn gymdeithasol, os nad yn osgoi pobl petawn ni’n gallu. Wrth edrych yn y drych, roedd yn amlwg fod rhywbeth o’i le. Symptomau corfforol oedd y rhain, a oedd ynddynt ei hunain yn ychwanegu at fy mhryderon. “yn feddyliol, doeddwn ni ddim yn hyderus, yn teimlo’n euog am farwolaeth fy mam, yn gweld dim ond trafferthion ym mhob sefyllfa, ac yn hollol swrth, yn dyheu am ddianc o’r cyflwr nes i mi ddechre meddwl am hunanladdiad. Trwy lwc, mi gyffesais hyn i’r bobl agosaf ataf, gan arwain at ymweliad i’r meddyg teulu, ac roedd hyn yn gam pwysig yn y broses o wella. Mae’n debyg fod 40 y cant o ymweliadau y feddygfa yn cynnwys elfen o iechyd meddwl, ond does ‘na fawr o rheini a hyfforddiant yn y maes, ac fel darganfyddes i, roedd rhestr aros o dri mis i weld arbenigwr. Mewn gwlad gyfoethog a gwaraidd, ddyle hyn ddim bod; diffyg ewyllys gwleidyddol sydd wrth wraidd y broblem, ac mae cyfle o’n blaenau i newid y sefyllfa. “Cyffuriau oedd y driniaeth, tabledi cysgu erchyll sy’n dylu bywyd tan amser cinio’r diwrnod canlynol; a thabledi gwrth-iselder, sy’n gallu cymryd tri mis cyn gweithio, ond sydd yn araf ddifa’r adrenalin afiach sy’n gyrru’r pryder a’r panig afreolus. Ennill amser mae’r rhain yn fy marn i er mwyn gallu gweithio ar y meddwl, ac er i mi casáu a diddyfnu fy hun oddi ar y 2 bilsen mor fuan ag y bo modd, taswn i wedi torri ‘nghoes, faswn i wedi derbyn “painkillers” heb oedi. “I mi, cymdogion achubodd fi mewn gwirionedd, yn galw heibio i helpu am awr, yn fy swcro i swper, yn fy herio i drafod, i chwilio am y “marginal gains” cadarnhaol sy’n arwydd o wella. Roedd gwaith rŵan yn therapi, gweld wal Glastir wedi’i chodi’n galondid, a diet cytbwys ddi-alcohol yn iachau. Mi gymerodd flwyddyn dda i adennill hyder, ond o’r eiliad ces i enw ar y broblem a chyfaddef i’r bobl o’n gwmpas, mi ddechreuodd pethau wella ac mae fy nyled yn anferth i’n gymdogion a’m ffrindiau. y syndod mwyaf oedd bod cymaint ohonyn nhw wedi dioddef iselder, ac yn gallu cynnig cyngor clir o brofiad; peidiwch fod yn unig, siaradwch amdano, gofynnwch am gymorth; mae o i’w gael, ond nid yn rhwydd; mae’n warth ar fywyd cyfoes nad oes darpariaeth ddigonol o ran triniaeth iechyd meddwl ar gael…achos mae’n epidemic sy’n llechu yn y cysgodion. “Boed i ni fyw gyda chydymdeimlad ac eangfrydedd gan warchod y gwannaf yn ein mysg; dyna sylfaen cymdeithas. Diolch am eich cefnogaeth.” Mae fy nyled yn fawr i Alun am fodloni i ddatgelu profiad mor bersonol yn Cornel Clecs. Mae’n bryd torri’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl, does dim cywilydd bellach, mae’n cymryd cryfder aruthrol i ofyn am gymorth, ac mae gan bawb yr hawl i hynny.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.