A’R flwyddyn 2015 yn dirwyn i ben bu farw Gwen Meirionwen Jones, Bontuchel, Rhuthun, ysgrifennyddes am flynyddoedd yng nghanghennau sir Ddinbych a sir Fflint o’r undeb. Miss Jones oedd hi ymysg swyddogion ac aelodau’r undeb, hyn yn arwydd o’r parch iddi. Pan ddaethum yn swyddog sirol i Ddinbych yn 1966 bu yn help enfawr i mi ddod dros y gwahaniaeth rhwng tafodiaith y gogledd a’r de yr adeg hynny. Bu y ffaith ei bod yn ferch fferm o fantais mawr wrth ddelio a’r aelodau ac fe wnaed hynny gyda chwrteisi. Edmygwn ei chof o enwau’r aelodau a’r ffermydd. Daw atgofion yn ôl o’r corddi cyn anfon hysbysiadau, yr adeg hynny roedd wyth pwyllgor lleol yn sir Ddinbych heb anghofio am bwyllgorau misol gwaith a threfn a phwyllgor gwaith sir Fflint. Nid oedd y peiriannau modern yn bodoli y dyddiau hynny. Diolch iddi am yr holl waith yn y dyddiau arloesol. Tu allan i’r undeb roedd ganddi ddiddordeb ym myd cerddoriaeth a bu yn aelod ffyddlon capel Galltegfa. Estynnwn gydymdeimlad a’i chwaer sy’n byw yn Seland Newydd ac edmygwn gyda diolch iddi ddychwelyd o swydd dda yn y wlad honno i ofalu am Miss Jones. Trysoraf yr atgofion o weithgarwch gyda Miss Jones.
More
M | T | W | T | F | S | S |
---|---|---|---|---|---|---|
« Dec | ||||||
1 | 2 | 3 | ||||
4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 |
11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 |
18 | 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 |
25 | 26 | 27 | 28 | 29 | 30 | 31 |
Archives
- December 2020 (36)
- November 2020 (27)
- October 2020 (25)
- September 2020 (26)
- August 2020 (27)
- July 2020 (26)
- June 2020 (26)
- May 2020 (30)
- April 2020 (26)
- March 2020 (28)
- February 2020 (30)
- January 2020 (30)
- December 2019 (23)
- November 2019 (35)
- October 2019 (32)
- September 2019 (30)
- August 2019 (39)
- July 2019 (34)
- June 2019 (33)
- May 2019 (63)
- March 2019 (30)
- February 2019 (32)
- January 2019 (29)
- December 2018 (30)
- November 2018 (29)
- October 2018 (28)
- September 2018 (28)
- August 2018 (39)
- July 2018 (27)
- June 2018 (33)
- May 2018 (25)
- April 2018 (26)
- March 2018 (34)
- February 2018 (35)
- January 2018 (44)
- December 2017 (38)
- November 2017 (36)
- October 2017 (33)
- September 2017 (38)
- August 2017 (36)
- July 2017 (40)
- June 2017 (34)
- May 2017 (43)
- April 2017 (47)
- March 2017 (45)
- February 2017 (47)
- January 2017 (54)
- December 2016 (60)
- November 2016 (54)
- October 2016 (47)
- September 2016 (54)
- August 2016 (54)
- July 2016 (46)
- June 2016 (48)
- May 2016 (62)
- April 2016 (73)
- March 2016 (74)
- February 2016 (80)
- January 2016 (65)
- December 2015 (73)
- November 2015 (55)
- October 2015 (59)
- September 2015 (67)
- August 2015 (77)
- July 2015 (43)
- June 2015 (60)
- May 2015 (48)
- April 2015 (51)
- March 2015 (55)
- February 2015 (60)
- January 2015 (73)
- December 2014 (61)
- September 2014 (52)
- December 2010 (1)
- November 1920 (1)