Trafod dyfodol ein cymunedau gwledig

gan Alun Edwards, Cynrychiolydd Meirionnydd ar bwyllgorau Addysg ag Hyfforddiant a Tir Uchel a Thir Ymylol UAC

Fuodd ‘na rioed amsernpwysicach i’r sector amaeth gynghreirio’n
strategol, ac edrych allan wrth ateb ei beirniaid a dweud ei stori. Felly ro’n
i’n barod iawn I dderbyn gwahoddiad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i banel trafod ar ddyfodol ein cymunedau gwledig yn ‘steddfod Llanrwst.

Yn ymuno a mi ar y panel roedd Llywydd uAC, Glyn Roberts, a Non Gwenllian Williams, sy’n astudio polisi amaeth ar gyfer Ph.d. ym mhrifysgol Bangor, ac yn flaenllaw gyda’r Ffermwyr Ifanc ym Môn. Cadeiriwyd y trafod gan gyn milfeddyg y Wladwriaeth, a’r ymgyrchydd gwrth-niwcliar blaenllaw, Robat Idris, yn rhinwedd ei swydd fel is-gadeirydd grŵp cymunedau gwledig y Gymdeithas.

Gwych oedd gweld adeilad y cymdeithasau’n llawn ar gyfer y digwyddiad, ac mi gafwyd trosolwg o sefyllfa’r diwydiant yng nghyd- destun Brexit gan Glyn, a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwariant amaethyddol i ffyniant yr economi wledig.

Cyfeiriodd Non at y newid pwyslais o ran polisi Llywodraeth Cymru, o wobrwyo cynhyrchu bwyd i gyflenwi “nwyddau cyhoeddus”, gan awgrymu fod hyn yn mynd i fod yn heriol i nifer o ffermwyr, ond y byddai’n cynnig cyfleoedd hefyd i’r meddylwyr mwy hyblyg.

Fel arfer, roedd f’ymateb i’n fwy personol ac emosiynol! Mi geisiais i esbonio sut o’n i’n byw ar hyn o bryd, gyda threian incwm y ffarm yn daliad sylfaenol, treian yn Glastir a‘r gweddill o’r farchnad; a fy mod felly’n wynebu colli treian o’n incwm o ganlyniad i argymhellion Brexit a’n Tir, fyddai’n cyfyngu fy ngallu i

fuddsoddi yn yr economi wledig. Emosiwn oedd tu ôl i sylwadau Heledd Gwyndaf, cyn – gadeirydd y Gymdeithas hefyd, pan nododd hi pa mor aneffeithiol oedd ymateb ein Llywodraeth Lafur i’r argyfwng diciau yn ei hardal hi, a’r cwmwl oedd dros fywyd cymunedol o’r herwydd.

doedd awr ond yn caniatáu crafu wyneb y pwnc, a dewisais osod her wrth orffen, gan nodi oherwydd ein bod wedi pwysleisio pa mor

greiddiol oedd y diwydiant amaeth i barhad yr iaith a’n diwylliant yn ein hymateb i Brexit a’n Tir, fod rhaid i ni brofi’n gwerth. Faint o weithiau dwi wedi clywed “d’yw Nghymraeg i ddim digon da – dwi’n llenwi ffurflenni yn Saesneg”; a dyfynnais enghraifft ble ddefnyddiais i’r gair “beunyddiol” mewn troslais ar gyfer Ffermio, a gofynnwyd i mi ail- wneud gyda’r geiriau “bob dydd” gan na fyddai’r gynulleidfa’n deall y cynta!

Ni sy’n caniatáu glastwreiddio’n iaith, a ni fydd yn gyfrifol os bydd hi’n marw… yn hytrach gadewch i ni anwesu dysgu gydol oes, mireinio’n iaith a’i pharchu, ac edrych ymlaen yn adeiladol yn hytrach na chau drws ar gynnydd.

Yr un oedd fy thema wrth gynnal cyflwyniad ar iechyd meddwl yng nghefn gwlad y diwrnod canlynol i Conwy Cynaliadwy. Mae’r gwallgofrwydd Brexit ‘ma wedi creu byd llawn pryder, gyda’r pwyslais ar gau drysau a chodi waliau, pan mae’n gwerthoedd Cymreig naturiol ni’n ein cyfeirio at godi pontydd ac eangfrydedd; drwy gynghreirio ar ein telerau ni, sy’n mynd i fod yn waith diddiolch o heriol, mi fedrwn adeiladu dyfodol ffyniannus i Gymru.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.