
DATRYS PROBLEMAU: Swyddog sirol UAC Meirionnydd Huw Jones (chwith) gyda Dafydd Elis Thomas AC, cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru a Glyn Griffiths cadeirydd pwyllgor Traenio Mewnol yr ardal.
BU UAC yn rhan o gyfarfod gyda’r Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas ar ddiwedd mis Tachwedd pryd y trafodwyd problemau llifogydd yn ardal Porthmadog a materion yn ymwneud a Ardaloedd Traenio Mewnol Llanfrothen, Glaslyn a Pensyflog. Yn benodol trafodwyd yr anawsterau mawr a gafwyd gyda’r dorau yno, a rhoddwyd pwysau trwm i ddatrys y sefyllfa. Cafwyd addewid y byddai hyn wedi ei gwblhau erbyn canol Ionawr 2017. Yn y cyswllt hyn hefyd trafodwyd y problemau gyda maes parcio Gŵyl Rhif 6.