Wythnos arbennig

gan Glyn Roberts, Llywydd FUW

MaE’r Eisteddfod yn un o ddigwyddiadau pwysig y calendr Cymreig, ac mae’n braf cael y cyfle yn yr Eisteddfod bob blwyddyn i gyfarfod aelodau, staff lleol a’r rheiny nad ydynt yn ymwneud â’r byd amaeth. Cyfle unigryw i ni fel undeb i drafod ag unigolion a sefydliadau eraill am sefyllfa y byd amaeth, a phwysigrwydd y diwydiant i ddiwylliant Cymru, i’r Gymraeg ac ir economi Gymreig.

Mae’n wyl arbennig iawn, ac yn gyfle
i bontio gwlad a thref yn aml, ac yn
gyfle i werthfawrogi a blasu cornel
newydd o Gymru bob blwyddyn. roedd
yr eisteddfod eleni yn un arbennig i mi
am nifer o resymau, gan mai ein cyfle ni yn Nyffryn Conwy oedd croesawu’r genedl i’n cornel fach ni o Gymru. Gan nad oedd yr eisteddfod wedi ymweld â Dyffryn Conwy ers 1989, roedd yn braf cael ei chroesawu’n nol, a hithau bellach yn wyl liwgar, fyrlymus, gosmopolitan, braf oedd gweld fod ein stondin ni fel Undeb yn cystadlu gyda’r gorau o’r stondinau o ran apel, lliw, ac o ran bwrlwm. Doedd dim syndod i ni dderbyn y wobr am y stondin orau a mwyaf croesawgar. Diolch i bawb fu’n ymwneud a’r stondin dros yr wythnos, yn staff ac yn aelodau.

Yn dilyn yr Eisteddfod ddi-ffiniau yng Nghaerdydd flwyddyn diwethaf, braf oedd profi fod y naws yn dal i fod i Eisteddfod Sir Conwy 2019, gyda theimlad cryf o groeso iddi, croeso i bawb, o bob cefndir, cenedl a chred, i fod yn rhan ohoni. Dewis bod yn Gymry ydym, a gwefr oedd cael bod yn rhan o ddigwyddiad oedd mor groesawgar mewn cyfnod gweleidyddol mor ansicr.

Er nad yw’n wyl draddodiadol wledig, braf oedd y cyfeiriadau tuag at amaeth gan yr archdderwydd eleni wrth iddo adrodd o’r Maen Llog yn ystod seremoni’r Urddo, am bwysigrwydd cynnyrch Cymreig, a phwysigrwydd baner y Ddraig Goch i

hyrwyyddo cynnyrch Cymreig bob tro. Wrth feddwl am gyfraniad holl aelodau Undeb amaethwyr Cymru i lwyddiant yr Eisteddfod eleni dechreuais feddwl amdanynt, yn aelodau cor yr Eisteddfod, yn enillwyr prif wobrau’r wyl, yn stiwardiaid, stondinwyr ac aelodau pwyllgorau apel, sylwais yn ddigon buan fod llawer gormod i’w henwi, a pheth hynod yw hynu, testun balchder mawr i mi fel llywydd yw sylweddoli cyfraniad enfawr ein haelodau i’r wyl eleni, diolch i chi oll.

Ddechrau’r wythnos cefais y cyfle I gymryd rhan mewn sesiwn banel ‘Gwylltio gyda Gwylltio’ ym mhabell y Cymdeithasau, yn rhannu llwyfan gyda Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor. roedd yn un o’r profiadau
i mi ei fwynhau fwyaf ers tro byd, gan iddo fod yn gyfle i mi ddatgan fy marn ar fater sy’n agos at fy nghalon, a gwneud hyn gan bwysleisio bygythiad ail-wylltio nid yn unig i’r byd amaeth ond i’r cymunedau gwledig Cymreig sy’n holl bwysig i barhad a ffyniant y diwylliant Cymraeg. Defnyddiais ran o farddoniaeth yr archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, Gwilym r Tilsley, William Jones, Nebo, a gorffen gyda dyfyniad o Vers Lidre buddugol yn Eisteddfod Y Wyddgrug yn 1991: “I Ble” rhodri Jones, Crignant. Yn galonogol i’r trafodaethau i gyd roedd teimlad pur gryf yn y gynulleidfa o bwysigrwydd cadw pobl yn byw ac yn cyfrannu i’n diwylliant yng Nghefn Gwlad, a bygythiad ail-wylltio i hyn.

Un ddarlith roeddwn wedi edrych ymlaen i fod yn bresennol ynddi oedd – Cig Coch – yn fwy gwyrdd nag yr ydych yn feddwl? – gan Doctor Prysor Williams, ond yn anffodus roedd galwadau eraill. Cefais y cyfle i wrando ar ddarlith hynod o ddiddorol gan Jeremy Miles dydd Llun hefyd, un darn arbennig o berthnasol i ni fel undeb yw’r rhan ganlynol: “Fe alwon ni am gyngor pwerus o weinidogion y Deyrnas Unedig sy’n annibynol o’r llywodraethau, i system o ddatrys anghydfodau mewn ffordd deg a thryloyw, fe alwon ni am ysgrifennyddaieth annibynnol, ac alwon ni am gonfensiwn gyfansoddiadol ar gyfer y Deyrnas Undedig i ystyried sut mae angen i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig newid.”

Er ein bod yn aml yn anghytuno gyda’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, diddorol oedd y rhan uchod, gan ei fod y datgan a galw am rywbeth sydd bron iawn yn union yr un peth ac ydym ni fel Undeb wedi galw amdano yng Nghyd- destun dyfodol fframweithiau amaethyddol.

Dydd Mawrth cyfle i gyfarfod gyda Chomisiynydd y Gymraeg, aled roberts, gan drin a thrafod ein cynllun iaith o fewn Undeb amaethwyr Cymru. Braf oedd cael adborth bositif ganddo, a’i fod yn hapus fod gennym fel Undeb agwedd gytbwys a rhesymol tuag at y Gymraeg.

Dydd Mercher, cymryd rhan mewn trafodaeth banel, wedi ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, ar ddyfodol Cefn Gwlad. Er i mi gydnabod fod cwmwl Brexit am gael effaith pell-gyrhaeddol ar ddyfodol amaeth ymdrechais i edrych ar yr ochr bositif, gan ddweud fod dyfodol i gefn gwlad Cymru gyda ewyllys gwleidyddol i gyd-weithio oherwydd mae gennym yma yng Nghymru adnoddau e.e ein adnodd gorau yw’n gallu i dyfu glastwell cystal a unrhyw wlad arall yn byd, mae gennym gynnyrch o’r safon uchaf gyda dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI) ar ein Cig Eidion a Chig Oen sydd ar yr un un lefel a Champagnne yn y diwydiant gwin.

Mae Prydain Fawr yn un o’r 5 gwlad gyfoethocaf yn y byd, gyda rhwng 60 a 70 miliwn o bobl yn byw yma. Gyda’r holl adnoddau hyn, a’r ewyllys gywir, wrth gwrs fod dyfodol i gefn gwlad, ond bydd rhaid goresgyn y rhwystrau er mwyn gwireddu’r potensial sydd yng nghefn gwlad.

Dydd Gwener – Er fod yr Undeb wedi trefnu panel ar ddyfodol cefn gwlad hoffwn ddiolch i’r Dirprwy Lywydd, Brian Thomas am gamu i’r adwy i fod yn rhan o’r panel hwn. roeddwn yn falch iawn o glywed fod y digwyddiad wedi bod yn un llwyddiannus.

Dydd Sadwrn – Dau ddigwyddiad pwysig i mi ddydd Sadwrn oedd rhaglen deyrnged i Dan Puw, un o hoelion wyth yr undeb yn Sir Feirionnydd, ei gyfraniad i fyd amaeth a diwylliant cefn gwlad yn hysbys i Gymru ben baladr. Mor braf oedd gweld parti canu o ffermwyr cefn gwlad yn cael eu harwain gan un arall yr wyf yn ei ystyried yn un o hoelion wyth Sir Feirionnydd.

Un arall o uchafbwyntiau dydd Sadwrn oedd darlith rhun Emlyn: Llywelyn Fawr; Cymru, Ewrop a Llanrwst. Er mai darlith am ddyn oedd wedi byw dros 800 mlynedd yn ôl oedd hon, roedd neges gyfoes iddi, diddorol

oedd y cysylltiad hyn gyda chystadleuaeth y Goron dydd Llun, pan gyfeiriwyd at y neges yn y gerdd fuddugol: fod ateb i’r dyfodol yn y gorffennol. Fel Undeb, elfennau y dylem ni gymeryd ystyriaeth ohonynt oedd y tri pwynt pwysig yn nheyrnasiad Llywelyn Fawr:

• Hybu cydweithio a pharch at eraill. Cyd-weithio fel un. •Datblygu.
• Moderneiddio.

Pwysigrwydd cyd-weithio gyda gwledydd Ewropeaidd eraill, a’r cyd ddibyniaeth rhwng gwladwriaethau. Cyfeiriodd at Ucheldir Dyffryn Conwy, Ysbyty Ifan yn benodol a’r newid a fu mewn amaethu yn y canol oesoedd, o gadw gwartheg, i gadw defaid ar y mynyddoedd.

Gan fod galw mawr am wlan defaid ucheldir Cymru ar y cyfandir newidiwyd y system amaethu i un oedd yn bennaf gynhyrchu defaid. Diddorol fod amaethwyr y cyfnod hwn wedi addasu i farchnadoedd ewropeaidd gan fod yn hyblyg ac agored i farchnadoedd newydd. Tybiaf fod gweledigaeth amaethwyr yr oesoedd canol, er yn gyfnod cyntefig yng ngholwg llawer, yn un llawer mwy eang a hyblyg na’r weledigaeth sydd gan rai i ddyfodol amaeth heddiw, rhai sydd am gau y drws ar farchnadoedd ewropeaaidd yn hytrach na gweithio ar hwyluso masnach rhwng gwledydd.

I orffen ar nodyn gobeithiol, diddorol oedd ethos enillydd y Gadir eleni, Jim Parc Nest, yn dangos gobaith a gwrthod derbyn ein bod wrth y dibyn olaf fel cenedl. Neges bwysig ganddo yw pwysigrwydd y dychymyg, ar posibiliadau sy’n esgor o’r dychymyg, hwyrach fod yna her i ni fel Undeb yma?

This article is in English on the FUW website – News – Y Tir News: “Fantastic week.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.