Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

YN ddiweddar gwahoddwyd fi i gyflwyno anerchiad yng nghwrdd diolchgarwch cangen Lledrod o fudiad y ffermwyr Ifanc. Rhaid oedd derbyn. yn wir, fedrwn i ddim gwrthod, gymaint fy nyled i’r mudiad. dyma, mi gredaf, yw mudiad ieuenctid pwysicaf Cymru. Nhw yw’r dyfodol. Hebddynt hwy fyddai ganddon ni ddim cefn gwlad gwerth son amdano. a dyna oedd byrdwn fy anerchiad. Mynegais gymaint yw ein dyled yn yr ardaloedd gwledig i’r gymuned amaethyddol yn gyffredinol. Heb deuluoedd amaethyddol yn ein hardal ni, byddai’n dlawd arnom yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. ac, yn wir, yn economaidd. y ffermwr heddiw yw ceidwad y Pethe. y ffermwr hefyd yw’r cadwraethwr. anghofiwch am yr RSPCa a’r RSPB. Pwysau oddi wrth fudiadau fel y rhain ynghyd ag aelodau Seneddol gwirionyn yn chwarae gwleidyddiaeth wnaeth arwain at lurgunio’r ddeddf Hela. arweiniodd honno yn ei thro at gynnydd mewn poblogaethau llwynogod a moch daear i’r graddau fel bod rhywogaethau fel y gylfinir a’r draenog wedi diflannu’n llwyr mewn rhai ardaloedd. Ond na, y ffermwr, druan, gaiff y bai am hynny. y gwrthwyneb sy’n wir, wrth gwrs, gyda’r ffermwr ar hyd y blynyddoedd wedi medru rheoli poblogaethau’r creaduriaid hyn, hynny er lles amaethu a lles natur. Cymerwch ein haddoldai wedyn, llawer wedi cau. Eraill yn denu ond dwsin neu lai i’r oedfaon. Heb gefnogaeth teuluoedd amaethyddol byddai mwy yn cau. Mae’r un peth yn wir am ddigwyddiadau diwylliannol. Nac anghofiwn yr iaith. ffermwyr ifanc ac aelodau o fudiad y ffermwyr Ifanc sy’n sefyll rhyngom a diflaniad yr iaith mewn aml i ardal wledig. Nhw sy’n cadw’r ffynnon rhag y baw. Nhw sy’n cadw’r winllan rhag y moch. Tra mae protestio ac ymgyrchu’n holl bwysig, mae ieuenctid y gwahanol ganghennau yn gwneud yr hyn sy’n bwysicach fyth sef siarad yr iaith bob dydd. Nhw, chwedl dic Jones, sy’n cynnal ‘yr iaith yn ei dillad gwaith.’ Braf yng Nghapel Rhydlwyd fu gweld dros ddau ddwsin o bobl ifanc y clwb lleol yno. Nhw oedd wedi trefnu’r oedfa. Nhw oedd yn cymryd rhan. daeth criw sylweddol o oedolion yno i’w cefnogi. ac o gyfeirio at dic Jones teimlais mai perthnasol fyddai atgoffa pawb y bydd awdl fawr dic i’r ‘Cynhaeaf’ yn dathlu’r hanner cant fis awst nesaf. Cadeiriwyd yr awdl yn aberafan ym 1966. Barn y gwybodusion yw mai hon yw awdl gadeiriol fwya’r iaith. dim ond bardd o ffermwr neu ffermwr o fardd fyddai wedi medru ei chyfansoddi. yn anffodus mae darlun dic o amaethu hanner canrif yn ôl mewn perygl o ddiflannu. Rhwng polisïau cibddall y Llywodraeth a hunanoldeb yr archfarchnadoedd chaiff y ffermwr ddim mo’i haeddiant y dyddiau hyn. ydyn, mae’r rhain yn ddyddiau du i ffermio. Hynny’n golygu eu bod nhw’n ddyddiau du arnom oll yn y cefn gwlad. a’r cwestiwn wnes i ei ofyn oedd: Beth fydd y darlun ymhen hanner canrif arall? Mae’r ateb yn nwylo pobl ifanc fel y rhai sy’n aelodau o Glwb Lledrod. Maen nhw i’w clodfori am aros yn eu cynefin. Pwy all feio’r ieuenctid hynny sy’n tyrru i Gaerdydd a mannau poblog eraill? Mae’r gyflog yn well yno. Mae mwy o fywyd yno. Ond diolch i’r rhai ‘sydd yma o hyd’ ac sydd wedi dewis ‘glynu’n glos’. Mewn sgwrs dros baned wedyn roedd yr oedolion yn croesawu fy sylwadau. y broblem fawr, meddent, yw bod y bobl ifanc yn tueddu i gilio o gyrraedd dyddiau coleg. ymhen hanner canrif arall, a fydd yna amaethu o gwbwl? O fod yn dyst i fwrlwm a brwdfrydedd pobol ifanc ardal Lledrod, bydd. Hynny yw, os llwyddir i’w cadw nhw yn eu bro. ac os gwireddir hynny medrwn eto adrodd gyda dic: Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu, a chyw hen linach yn ei holynu, a thra bo gaeaf bydd cynaeafu a byw greadur tra bo gwerydu, Bydd ffrwythlonder tra pery – haul a gwlith, yn wyn o wenith rhag ein newynu.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.