Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

GOFYNNWCH i unrhyw ffarmwr y dyddiau hyn beth sy’n ei wylltio fwyaf ac mi fetia’i fod biwrocratiaeth yn uchel iawn ar y rhestr. erbyn hyn mae’n rhaid llenwi ffurflen cyn gewch chi anadlu. Yn wir, prin na fydd angen i chi llenwi ffurflen wedi i chi beidio ag anadlu. Ydi, mae fy nghydymdeimlad i’n fawr gyda ffermwyr, yn arbennig felly yn dilyn rhai profiadau diweddar. Chwi wyddoch fy mod i, o bryd i’w gilydd, yn ymhél â chyhoeddi llyfrau, yn golygu neu’n ysgrifennu ar ran rhywun arall. a’r gyfrol ddiweddaraf i mi gydweithio arni fu ‘Blas y Bryniau’, sef hunangofiant y ffermwr a’r canwr Dafydd edwards, Bethania. D ydi Dafydd ddim yn ddyn sy’n dal nôl. Fe wna ddweud ei ddweud. ac fe wna hynny yn ei hunangofiant. Cawn ganddo ddarlun byw o ffermio drigain mlynedd a mwy yn ôl. Cawn hanes hen gymeriadau plwyf Nantcwnlle, gwladwyr syml ond deallus. Cawn ein hatgoffa o’r newidiadau mawr a ddigwyddodd i’r byd amaeth ac i gefn gwlad yn gyffredinol. Newidiadau er gwaeth. Petawn i’n gorfod crynhoi thema Dafydd i un gair, yna ‘olyniaeth’ fyddai’r gair hwnnw. a dyna dristwch yr hunangofiant. Mae’n medru olrhain hanes y teulu yn ôl at ei hen, hen, hen, hen dad-cu. Ond wrth edrych ymlaen, mae’n ofnus. Mae’n holi a wna’r olyniaeth ddod i ben gydag ef? Mae ganddo ŵyr a dwy wyres. Ond a fydd yna ddyfodol iddynt hwy ar y tir? Cawn gan Dafydd ddarlun byw o fywyd ffermwr ifanc yn y pumdegau, popeth yn troi o gwmpas y capel a’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Fel hyn mae’n disgrifio’r darlun heddiw. ‘Fe fues i wrthi’n ddiweddar yn myfyrio ar y ffermydd a’r tyddynnod o gwmpas. Mae bron iawn bob lle wedi cartrefu perthnasau i fi o’r naill ochr neu’r llall rywbryd neu’i gilydd. Dyna beth yw cyfoeth o olyniaeth. Ond bellach, ar wahân i fi a’r teulu, pobol ddŵad yw pawb yn y fro gyfan. a rheiny bron yn ddieithriad yn Saeson. Fi bellach yw’r dieithryn, a hynny yn fy mro fy hun. ac fe ddigwyddodd y newid mawr yma yn ystod fy mywyd i. Fel Goronwy Owen, “Y lle bûm yn gware gynt Mae pobl na’n hadwaenynt”.’ Darlun trist. ac fel y dywedais o’r blaen yn y golofn hon, heb yr olyniaeth amaethyddol, cystal i ni roi’r ffidil yn y to. Yn y bennod olaf buasech yn disgwyl i Dafydd ymhyfrydu a rhamantu. Canodd droeon am ‘ddilyn yr og’ ac am ‘ganlyn yr arad goch’. Yn wir, dewch o ddyddiau Ceiriog yn nes at ein dyddiau ni a nodyn gobeithiol Dic Jones yn ei awdl fawr ‘Y Cynhaeaf’ a enillodd iddo Gadair aberafan hanner canrif i fis awst nesaf. Fe wnaeth Dafydd ganu detholiad ohoni ganwaith. Ond ofni wna Dafydd mai rhamant fydd darlun Dic hefyd os na wna pethe newid. Nid rhyw hiraethu am yr hyn a fu a wna Dafydd yn ei hunangofiant. Na, mae’n cyfleu i ni ddarlun teg a chlir o’r sefyllfa. Mae’r trowsus rib wedi ei gyfnewid am y pin-streip. Mae yna fiwrocratiaid yng ngofal ffermio heddiw sy’n credu mai o Tesco yn hytrach nag o’r parlwr godro y daw llaeth. ac wrth gwrs, o Seland Newydd y daw cig oen. ac o Dde america y daw cig eidion. Mae pennod olaf Dafydd yn ddisgrifiad byw o’r holl rigmarôl y mae’n rhaid i ffermwr fynd drwyddo heddiw petai ond am gael gwared ar gorff mochyn daear o ymyl y ffordd. ac am ymweliadau am briodoldeb bwydydd creaduriaid, mae’n anobeithiol. Fel y dywed Dafydd, ddim yn ôl y llyfr mae ffermio. Fe fu tuedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i hunangofiannwyr wyngalchu’r bywyd cefn gwlad. Ond y gwir amdani yw bod y bywyd gwledig y gwyddom ni amdano ar ei wely angau. ac fe ddaw dydd yr angladd os na wna pethe newid yn fuan. angladd preifat, wrth gwrs. Fydd neb ohonom ar ôl i’w fynychu. Blas y Bryniau, Hunangofiant Dafydd Edwards gan Wasg Carreg Gwalch. Pris £8.50.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.