Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

DYMa ni i mewn i flwyddyn arall. Fe ddaeth ac fe aeth y Calan, a’r dydd gŵyl wedi diflannu fel eira ddoe, fel petai heb fod. Dewch yn ôl trigain mlynedd ac fe fyddai’r pentre’n atseinio i gyfarchion blwyddyn Newydd Dda plant y fro. eleni doedd yna fawr neb i’w gweld na’u clywed. Do, fe alwodd rhai yma gyda ni. tri i fod yn fanwl, a da fu eu gweld. Gynt fe alwai dysenni. Fy hun, fyddwn i ddim yn crwydro’r pentre ond yn hytrach yn galw o amgylch y ffermydd. Roedd ffermwyr yn fwy parod i rannu, hynny hwyrach am mai dim ond ambell ffŵl fel fi fyddai’n fodlon cerdded y gylchdaith o tua phedair milltir o ffarm i ffarm. Cludwyd y tri a alwodd eleni i’n trothwy mewn ceir. Call iawn. Gadawsant yn gafael mewn darnau lliw aur yn eu dyrnau yn hytrach na’r darnau copr a wthid i’m llaw i gynt. Roedd yna eithriadau. Yn hafod-yrhyd cawn y swm ardderchog o hanner coron. erbyn i mi dyfu’n laslanc byddem, fel aelodau Clwb Ffermwyr ifanc Ystrad Fflur yn crynhoi ar y sgwâr erbyn hanner nos ar noswyl y Calan ac yna’n crwydro’r fro yn canu a chasglu calennig. Nid i ni’n bersonol yr âi’r arian ond tuag at ryw achos da neu’i gilydd. Gyda diflaniad y Clwb, aeth yr hen arferiad hefyd i ddifancoll. byddai mwy nag un rheswm dros i ni, yn blant, hel Calennig. Yn un peth roedd e’n draddodiad. Roedd pobl yn disgwyl i ni alw. Roedd y cyfan hefyd yn hwyl. ond yn bwysicach oedd swm y celc ar ddiwedd y bore yn y bag bach mwslin a hongianai ar gortyn o gwmpas fy ngwddf. Yn wir, erbyn hanner dydd byddwn tua £5 ar fy elw, arian bach teidi nôl bryd hynny. Y criw canu wedyn. Nid casglu arian at achos da fyddai’r unig symbyliad. o, na. byddai’n gyfle hefyd i ddwyn cusan bach slei wrth ferch y byddwn yn ei ffansïo. Roedd yna draddodiad yn ein hardal ni yn mynnu mai bachgen yn hytrach na merch fyddai’r trigolion am eu gweld gyntaf ar fore Dydd Calan. Deuai hynny â lwc, yn enwedig os fyddai gan y bachgen wallt tywyll. ac er mai gwallt golau oedd gen i – do, fe fu gen i wallt unwaith – rhaid fyddai i mi fod y cyntaf i gyfarch ein cymydog agosaf, Marged bryngors. Yn ei gwely fyddai Marged, dim ond blaen ei thrwyn fyddai i’w weld rhwng top y blanced a’i chap nos. ‘ar arferion Cymru gynt, Newid ddaeth o rod i rod’, meddai Ceiriog. ac ie, ‘bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn.’ Do, newidiodd pethau’n ddirfawr. Nid galaru ydw i, cofiwch. Na, bu rhai newidiadau’n fendithiol. o ran arferion gwaith, fyddwn i ddim yn tybio y byddai un ffermwr yn dewis dychwelyd i’r hen ddulliau. ar fore Dydd Calan byddwn yn galw mewn cyfanswm o ddwsin o ffermydd neu dyddynnod. a heddiw, drigain mlynedd a mwy yn ddiweddarach, dim ond dau o’r mannau hynny sydd wedi mynd â’u pen iddynt. o ystyried yr encilio o’r tir a’r alllifiad i’r trefi a’r pentrefi, mae hyn yn rhyfeddod. a rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy o ryfeddod yw mai disgynyddion o’r un teuluoedd sydd ynddynt bron i gyd. Lawr yn y pentref mae hi’n stori wahanol. heddiw dydw’i ddim yn adnabod ond tua thraean o’r trigolion. Mae dechrau’r flwyddyn bob amser yn gyfnod llawn nostalgia. Mae’n amser i edrych yn ôl ac i edrych ymlaen. Roedd gan y Rhufeiniaid dduw â chanddo ddau wyneb. ei enw oedd ianws ac edrychai un wyneb ymlaen a’r llall yn ôl. ac fel y duw hwnnw, gall y Calan fod yn ddauwynebog. Gall addo llawer ond gan gyflawni i’r gwrthwyneb. ond dyna ni, fel yng ngeiriau’r gân a ganem o ddrws i ddrws, ‘Mae’r flwyddyn wedi mynd, a ddaw hi byth yn ôl;.’ Gwynt teg ar ei hôl hi, medd rhai. biti, medd eraill. Fedrwn ni ddim troi’r cloc yn ôl. a dylem ddiolch am hynny gan ein bod ni’n aml yn rhy barod i edrych yn ôl ar ryw oes aur. a fodolodd yr oes honno mewn gwirionedd? edrychwyn i’r dyfodol felly gan fyny mai ymlaen mae’r fuddugoliaeth. Neu, fel y dywedodd R. Williams Parry mewn dull llawer coethach, ‘Digymar yw fy mro drwy’r cread crwn, ac ni bu dwthwn fel y dwthwn hwn.’

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.